Efallai eich bod yn landlord prynu-i-osod proffesiynol, neu efallai eich bod yn gosod eich cartref fel ‘landlord ar hap’ am eich bod wedi etifeddu eiddo neu heb werthu eiddo blaenorol. Beth bynnag yw eich sefyllfa, sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau ariannol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Rhowch wybod i’ch benthyciwr morgais
Os oes gennych forgais preswyl, yn hytrach na phrynu i osod, mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich benthyciwr os bydd rhywun heblaw chi yn byw yno. Mae hyn oherwydd nad yw morgeisi preswyl yn caniatáu i chi osod eich eiddo.
Gallwch gael caniatâd i osod, ond bydd yn rhaid i chi dalu ffi, neu godir llog ychwanegol ar ben eich cyfradd arferol.
Yn wahanol i forgeisi prynu-i-osod, mae cyfyngiadau amser ar gytundebau cydsynio i osod. Mae hyn fel arfer am gyfnod o 12 mis, neu ar yr amser sydd gennych ar ôl ar eich cyfradd tymor penodol, felly gall fod yn ddefnyddiol fel ateb dros dro.
Os na fyddwch yn dweud wrth eich benthyciwr, gall fod canlyniadau difrifol gan y gallai gael ei ystyried yn dwyll morgais. Mae hyn yn golygu y gallai eich benthyciwr fynnu eich bod yn ad-dalu'r morgais ar unwaith neu adfeddiannu'r eiddo.
Os ydych chi’n dewis eiddo gyda’r bwriad o’i osod, gweler ein canllaw Egluro morgeisi prynu-i-osod
Goblygiadau treth
Fel landlord rydych angen gwybod beth yw eich rhwymedigaethau Treth Incwm a Threth ar Enillion Cyfalaf.
Dyma trosolwg, gyda wefannau am fwy o wybodaeth mwy manwl.
Treth Incwm
Ychwanegir incwm o rent at unrhyw incwm perthnasol arall rydych yn ei ennill yn ystod y flwyddyn dreth ariannol.
Er enghraifft, incwm o gyflogaeth neu efallai log o gynilion – i gyfrifo eich atebolrwydd treth.
Mae’n rhaid ichi ddatgan yr incwm hwn ar ffurflen Hunanasesiad Treth bob blwyddyn.
Fodd bynnag, efallai y gallwch hawlio treuliau neilltuol yn erbyn eich incwm o rent a lleihau eich bil treth.
Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, rywfaint neu’ch holl daliadau llog ar forgais, os oes gennych forgais prynu-i-osod.
Nid yw landlordiaid bellach yn gallu didynnu llog morgais o incwm rhent er mwyn lleihau'r dreth y maent yn ei thalu. Nawr byddwch yn derbyn credyd treth yn seiliedig ar 20% o elfen llog eich taliadau morgais. Gallai'r newid rheol hwn olygu y byddwch yn talu llawer mwy mewn treth nag y byddech wedi'i wneud o'r blaen. Darganfyddwch fwy ar gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd
O fis Ebrill 2020, nid oes modd i landlordiaid tynnu llog morgais o incwm rhent i leihau’r dreth maent yn ei dalu. Yn lle, mae landlordiaid nawr yn derbyn credyd treth yn seiliedig ar 20% o elfen llog eu taliadau morgais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
Lwfans incwm o eiddo
Mae’r lwfans incwm o eiddo yn golygu y gall perchnogion eiddo ennill hyd at £1,000 o incwm o rent yn ddi-dreth pob blwyddyn.
Gallai talwr treth cyfradd sylfaenol arbed hyd at £200 a thalwyr treth cyfradd uwch hyd at £400. Os ydych chi’n berchen ar eiddo ar y cyd, er enghraifft gyda’ch partner, gallwch eich dau hawlio’r lwfans.
Os yw’ch incwm o rent yn £1,000 neu lai, ni fydd angen i chi ddatgan na thalu treth ar yr incwm hwn.
Os ydych chi’n ennill mwy na £1,000 mewn incwm o rent, gallwch ddidynnu’r lwfans o’ch derbynebau. Fodd bynnag, os byddwch chi’n hawlio hyn, ni fyddwch yn gallu hawlio am gostau eraill a ganiateir.
Bydd y lwfans incwm o eiddo hefyd yn berthnasol i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4.
Ni allwch ddefnyddio’r lwfans eiddo yn erbyn incwm o osod ystafell yn eich cartref eich hun ar y cyd â gostyngiad rhentu ystafell
Treth ar Enillion Cyfalaf
Os ydych chi’n gwerthu eiddo sydd ddim yn brif gartref i chi – gan gynnwys eiddo i’w osod – mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu Treth ar Enillion Cyfalaf ar unrhyw enillion (elw).
Gallwch osod treuliau sy’n ymwneud â chyfalaf, fel ffenestri newydd, yn erbyn enillion cyfalaf pan fydd yr eiddo yn cael ei werthu.
Gan y gallai hyn fod flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n bwysig eich bod yn cadw cofnodion a thystiolaeth o unrhyw dreuliau o’r fath.
Yna pan fyddwch chi’n gwerthu, gofynnwch i ymgynghorwr ariannol neu gyfrifydd beth y gallwch ei hawlio’n ôl.
Darllenwch am Dreth ar Enillion Cyfalaf ar eiddo ar wefan GOV.UK
Cofrestrwch flaendal eich tenantiaid gyda Chynllun Blaendal Tenantiaeth
Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu defnyddio i ddiogelu blaendal y tenantiaid.
Yng Nghymru a Lloegr yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi roi’r blaendaliadau mewn cynllun addas o fewn 30 niwrnod i ddyddiad cychwynnol y cytundeb tenantiaeth os ydych chi’n rhentu eich cartref ar denantiaeth byrddaliad sicr a ddechreuodd wedi 6 Ebrill 2007.
Darllenwch fwy am Gynllun Blaendal Tenantiaeth ar wefan GOV.UK
Pa ffioedd allwch chi eu codi fel landlord?
Caiff landlordiaid eu cyfyngu gyda pha ffioedd y gallant godi ar denantiaid.
Mae blaendaliadau tenantiaeth ad-daladwy wedi’u capio ar ddim mwy na phum wythnos o rent os yw cyfanswm y rhent yn llai na £50,000 y flwyddyn, neu chwe wythnos os yw cyfanswm y rhent yn fwy na £50,000 y flwyddyn.
Mae blaendaliadau cadw, a ddefnyddir i gadw eiddo, wedi’u capio ar un wythnos o rent.
Cewch barhau i godi ffioedd os yw’r tenant yn gofyn am gael terfynu’r denantiaeth yn gynnar, ar gyfer taliadau rhent hwyr ac os ydych yn pasio costau ymlaen am bethau megis cyfleustodau, y Dreth Gyngor a Thrwyddedau Teledu.
Darganfyddwch fwy ynglŷn â’r rheolau newydd yn y Ddeddf ffioedd Tenantiaid ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Rheolau treth ar gyfer gosod tai gwyliau
Mae’r rheolau treth ar gyfer gosod tai gwyliau’n llawn amser neu’n rhan-amser yn wahanol i’r rhai ar gyfer gosod tai yn breifat.
Darganfyddwch fwy am dreth ar gyfer gosod tai gwyliau ar GOV.UK
Eich cyfrifoldebau cyfreithiol fel landlord
Mae gennych chi lawer o gyfrifoldebau i gydymffurfio â hwy fel landlord, gan gynnwys:
- llunio cytundeb tenantiaeth cydsyniol
- diogelwch peiriannau nwy a thrydan rydych chi’n eu cyflenwi
- diogelwch tân y dodrefn a’r llenni a’r deunyddiau rydych chi’n eu cyflenwi
- darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr eiddo
- diogelu blaendal eich tenant mewn cynllun a gymeradwyir gan y llywodraeth
- gwirio fod gan eich tenant yr hawl i rentu’ch eiddo os yw’r eiddo hwnnw yn Lloegr.
- Dylai landlordiaid sy’n byw yn Yr Alban cyfeirio at myscot.govYn agor mewn ffenestr newydd am eu cyfrifoldebau cyfreithiol
- Dylai landlordiaid sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon cyfeirio at nidirect.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd am eu rhwymedigaethau cyfreithiol
Darganfyddwch fwy am gyfrifoldebau cyfreithiol fel landlord preifat yng Nghymru a Lloegr ar wefan GOV.UK
Rhentu Doeth Cymru
Bwriad y cynllun cofrestru a thrwyddedu yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau:
- asiantau
- tenantiaid
- landlordiaid.
Os yw landlord eisiau rheoli’r eiddo ei hun, rhaid profi ei fod yn ‘ffit ac addas’ i feddu ar drwydded.
Yna mae’n rhaid iddynt ymroi i gyflawni (a phasio) hyfforddiant cymeradwy.
Neu, byddant yn gallu penodi asiant trwyddedig i reoli’r eiddo ar eu rhan.