Efallai y tybiwch mai un taliad unwaith ac am byth yw Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) pan brynwch gartref ac ni fydd angen ei dalu fyth eto ar yr eiddo hwnnw. Ond, os bydd y perchennog yn trosglwyddo rhan neu’r cyfan o’r eiddo, yna gall SDLT fod yn daladwy. Yn y canllaw hwn, darganfyddwch pryd gallai SDLT fod yn ddyledus.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pryd gallai Treth Stamp ddod yn daladwy?
Ar gyfer trafodiadau preswyl, gallai Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) fod yn daladwy os, er enghraifft:
- trosglwyddir rhan neu’r cyfan o eiddo i chi, a
- bod gwerth yr hyn a drosglwyddir dros y trothwy SDLT.
Pwysig
Os ydych yn prynu eiddo preswyl yn Lloegr neu Gogledd Iwerddon a bod gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am Dreth Stamp pan brynwch gartref, darllenwch ein canllaw ar Treth Stamp - popeth sydd angen i chi wybod.
Band dim cyfradd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yw £250,000 (o 23 Medi 2022). Bydd hyn yn parhau tan 31 Mawrth 2025.
Bydd faint o SDLT a dalwch yn dibynnu ar yr hyn a elwir yn ‘ystyriaeth daladwy’.
Y pris a dalwyd am yr eiddo yw’r ystyriaeth daladwy gan gynnwys unrhyw osodiadau a ffitiadau. Efallai bydd hyn yn golygu taliad mewn arian parod, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ran neu’r cyfan o weddill y morgais neu gyfuniad o’r ddau.
Fodd bynnag, gall gynnwys unrhyw beth o werth ariannol, fel cynnig i dalu ffioedd cyfreithiol neu drosglwyddo asedau eraill, fel tir neu eiddo eraill, fel rhan o’r cytundeb.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o bryd efallai na fydd SDLT yn daladwy wrth drosglwyddo neu roi tir ac eiddo yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Pryd fydd Treth Stamp yn daladwy
Pwysig
Mae gennych 14 diwrnod, oni bai am eithriad, i gyflwyno cofnod Treth Dir y Dreth Stamp preswyl, a thalu unrhyw swm sy’n ddyledus fel arfer o fewn 14 diwrnod gorffen.
Efallai y bydd angen i chi dalu Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) pan drosglwyddir y cyfan neu ran o fuddiant mewn tir neu eiddo i chi a'ch bod yn rhoi unrhyw beth o werth ariannol yn gyfnewid (yr ystyriaeth drethadwy).
Efallai y bydd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) yn ddyledus os yw'r ystyriaeth drethadwy dros y trothwy o £250,000.
Ar gyfer eich prif eiddo, codir Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) ar 5% rhwng £250,001 a £925,000, 10% rhwng £925,001 a £1.5 miliwn a 12% ar unrhyw beth uwch na £1.5 miliwn.
Os mai ail eiddo yw hwn, neu eiddo prynu i osod, byddwch yn talu 3% ychwanegol ar yr holl fandiau perthnasol os yw’n werth mwy na £40,000.
Os bydd angen i chi dalu SDLT, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth SDLT, oni bai fod y trafodiad wedi ei eithrio - er enghraifft gall hyn fod oherwydd nad oes unrhyw arian neu taliad wedi ei gyfnewid.
Darganfyddwch fwy am gyflwyno’ch ffurflen dreth SDLT ar-lein yn GOV.UK
Trosglwyddo ecwiti lle mae morgais sy'n ddyledus yn bodoli o fewn trothwy SDLT
Mae trosglwyddo ecwiti yn golygu newid ym mherchnogaeth gyfreithiol eiddo. Yn aml bydd yn digwydd pan fydd benthyciwr yn cael ei ychwanegu at forgais neu ei ryddhau ohono. Bydd faint o SDLT rydych yn ei dalu yn dibynnu ar amgylchiadau'r trosglwyddiad eiddo.
Efallai y bydd cyd-berchnogion (gan gynnwys gyplau dibriod) yn cytuno i drosglwyddo perchnogaeth eiddo sydd ganddynt i un ohonynt yn unig. Er enghraifft, efallai byddai rhaid i bâr dibriod sy’n gwahanu ac un ohonynt yn cymryd perchnogaeth lwyr angen talu SDLT ar gyfanswm yr ystyriaeth daladwy.
Er enghraifft, rhoddwyd gwerth o £200,000 ar dŷ, gyda £100,000 yn weddill ar y morgais a £100,00 mewn ecwiti.
Mae’r sawl sy’n cymryd y berchnogaeth:
- yn talu £50,000 i’r llall am hanner arall y £100,000 o'r ecwiti sydd ar ôl yn yr eiddo a
- yn dod yn gyfrifol am hanner arall y morgais sy’n weddill, sef £50,000 (gan dybio bod yr eiddo mewn cyfranddaliadau cyfartal)
Mae hyn yn creu ystyriaeth daladwy o £100,000.
Pan fo unigolyn wedi cymryd perchnogaeth o ecwiti mewn eiddo sydd â morgais, yna dim ond os yw’r ystyriaeth daladwy yn uwch na’r trothwy cyfredol o £250,000 y bydd treth stamp yn daladwy. Yn y sefyllfa yma byddai'n rhaid i'r person sy'n cymryd perchnogaeth dalu dim mewn Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT).
Trosglwyddiadau ecwiti dros y trothwy SDLT
Mae perchennog eiddo gwerth £700,000, gyda morgais heb ei dalu o £600,000, yn priodi.
Maent yn trosglwyddo hanner yr eiddo i'w partner, sy'n cymryd cyfrifoldeb am hanner y morgais.
Mae gan y sawl sy'n derbyn y trosglwyddiad ystyriaeth drethadwy o £300,000, sydd dros drothwy'r Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT).
Bydd gan y perchennog newydd atebolrwydd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) o £2,500 (0% o £250,000 a 2% o £50,000).
Os oes rhaniad anghyfartal
Os bydd cyd-berchnogion yn rhannu eiddo’n anghyfartal a bod y sawl sydd â’r gyfran fwyaf yn digolledu’r llall, gallai’r iawndal hwnnw fod yn destun SDLT os yw’n uwch na’r trothwy £250,000.
Er enghraifft, rhennir tŷ deulawr yn ddwy fflat, ond mae gan y fflat ar y llawr gwaelod, a dim ond y fflat honno, fynediad i’r ardd. Yn sgil hynny, mae’r fflat llawr gwaelod yn werth mwy o arian ac mae perchennog rhan hon o’r eiddo’n digolledu’r llall yn ariannol.
Os yw’r iawndal yn uwch na £250,000 bydd rhaid i’r sawl sy’n cael ei ddigolledu dalu SDLT ar y swm sydd dros y trothwy a chyflwyno ffurflen dreth SDLT.
Fodd bynnag, os bydd y perchennog yn penderfynu peidio â digolledu’r llall, neu caiff ei roi fel rhodd, nid oes ystyriaeth na SDLT i’w dalu.
Pryd efallai na fydd Treth Stamp yn daladwy
Os mai rhodd yw’r trosglwyddiad
Os mai rhodd yw’r trosglwyddiad ac nid oes ystyriaeth, nid yw SDLT yn berthnasol gan amlaf.
Mae rhodd yn wahanol i drosglwyddiad gan nad oes trosglwyddiad o werth ariannol. Golyga hyn nad yw’r unigolyn sy’n cael yr eiddo’n talu unrhyw arian parod am ei gyfran, nid yw’n cymryd cyfrifoldeb am y morgais ac nid yw’n cynnig unrhyw ased yn gyfnewid, felly nid oes ystyriaeth daladwy.
Er enghraifft, mae perchennog tŷ yn priodi, yn cael partneriaeth sifil neu’n symud i mewn gyda’i bartner ac yn penderfynu trosglwyddo hanner yr eiddo i’w bartner. Os nad yw’r partner yn talu unrhyw beth mewn arian parod am hyn ac nid yw’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw forgais sy’n weddill, yna ystyrir hynny’n rhodd ac nid yw’n destun SDLT.
Darganfyddwch fwy am drosglwyddo eiddo fel rhodd yn GOV.UK
Os etifeddwch yr eiddo mewn ewyllys
Os byddwch yn etifeddu tir neu eiddo dan delerau ewyllys, nid oes angen hysbysu HMRC ac ni fyddwch yn talu SDLT fel rheol, ar yr amod na roddwyd unrhyw ystyriaeth arall. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch yn ysgwyddo morgais sy’n weddill ar yr eiddo ar y dyddiad y bu farw’r person.
Os byddwch yn trosglwyddo perchnogaeth eiddo yn sgil ysgariad, gwahanu neu ddiweddu partneriaeth sifil
Fel arfer nid oes angen i chi dalu SDLT os ydych yn trosglwyddo budd mewn tir neu eiddo i’ch partner fel rhan o gytundeb neu orchymyn llys yn sgil un ai:
- ysgariad
- diddymu partneriaeth sifil.
Mae hyn yn berthnasol hefyd os yw’r partneriaid un ai:
- yn dirymu eu priodas
- yn gwahanu’n gyfreithiol.
Yn yr achosion hyn, nid oes angen hysbysu HMRC ynglŷn â’r trosglwyddiad, hyd yn oed os yw’r gwerth yn uwch na’r trothwy SDLT.
Os bydd cyd-berchnogion yn ddibriod ac nid mewn partneriaeth sifil pan fyddant yn trosglwyddo budd mewn tir neu eiddo o un cyd-berchennog i’r llall, efallai y bydd angen i chi dalu SDLT.
Os ydych yn rhannu eiddo sydd â chyd-berchnogaeth os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Os yw dau neu fwy o bobl yn cyd-berchnogion ar eiddo, un ai fel cyd-denantiaid neu denantiaid ar y cyd a rhennir perchnogaeth yn gyfartal nid yw SDLT fel arfer yn daladwy.
Pan fydd trosglwyddiad eiddo yn arwain at berchnogaeth anghyfartal neu pan fydd un person yn cymryd perchnogaeth o'r eiddo cyfan ac yn talu arian parod neu ryw fath arall o ystyriaeth yn gyfnewid sydd dros y trothwy SDLT cyfredol yna gall treth fod yn daladwy.