Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Morgeisi gwaddol a gamwerthwyd

A ydych yn credu bod morgais gwaddol wedi’i gamwerthu i chi, mae terfyn amser i chi gwyno, felly bydd  angen i chi weithredu ar unwaith. 

Sut rwy’n gwybod a gafodd ei gamwerthu?

Gallech deimlo bod eich morgais gwaddol wedi’i gamwerthu i chi os nad oedd yn addas ar gyfer eich anghenion a’ch amgylchiadau.

Fodd bynnag, dim ond os bydd y cyngor a gawsoch yn anghywir a chamarweiniol y cewch gwyno.

Nid oes gennych le i gwyno dim ond achos nad yw eich gwaddol wedi gwneud cystal ag yr oeddech chi’n disgwyl.

Rhesymau dros gwyno

  • Ni chafodd ei egluro’n iawn i chi y gallasai diffyg ddigwydd ar ddiwedd cyfnod eich morgais.
  • Dywedwyd wrthych y buasai’r gwaddol yn bendant yn gorffen talu’r morgais.
  • Dywedwyd wrthych bydd taliad gwarged pan gaiff y morgais ei ad-dalu.
  • Ni chafodd y ffïoedd a’r taliadau eu hegluro i chi.
  • Ni wnaeth eich cynghorwr gwblhau asesiad o’ch amgylchiadau ariannol a’ch agwedd tuag at beryglon.
  • Cafodd eich polisi gwaddol a’ch morgais eu gosod i redeg i mewn i’ch ymddeoliad ac ni wnaeth eich cynghorwr sicrhau y buasai’r incwm gennych i barhau i wneud taliadau.
  • Argymhellodd eich cynghorwr eich bod yn talu i mewn i waddol sy’n bodoli eisoes ac yna gwerthodd un arall i chi.

Terfynau amser

Os ydych yn teimlo bod eich polisi wedi’i gamwerthu ichi ac rydych am wneud cwyn mae terfynau amser llym.

Bydd unrhyw gŵyn a gafwyd gan gwmni ar ôl y terfynau amser hyn fel arfer yn arwain at wrthod eich cwyn, gelwir hyn yn “gwaharddiad amser”.

Gall eich cwyn gael ei gwrthod os:

  • cawsoch lythyr sy’n rhybuddio bod risg uchel o ddiffyg; yna rydych yn derbyn llythyr arall sy’n rhoi o leiaf chwe mis o rybudd o ‘ddyddiad terfynol’ a bydd rhaid i chi anfon cwyn erbyn y dyddiad hwnnw
  • bod y ‘dyddiad terfynol’ hwnnw o leiaf dair blynedd ar ôl y dyddiad y gwnaethoch dderbyn y llythyr cyntaf (ac o leiaf chwe blynedd ers ichi brynu’r polisi).

Fodd bynnag, gallwch ddal i gwyno wrth yr Ombwdsmon ar ôl y ‘dyddiad terfynol’ hyd yn oed os yw’r cwmni’n gwrthod eich cwyn wreiddiol oherwydd ei bod y tu hwnt i’r amser, os ydych yn meddwl:

  • bod y gwaharddiad amser yn annheg
  • bod y gwaharddiad amser wedi’i weithredu’n anghywir
  • bod amgylchiadau eithriadol.

Dylid gwneud hyn o fewn chwe mis i’r dyddiad yr anfonodd y cwmni lythyr ‘ymateb terfynol’ atoch.

Sut i wneud cwyn

Y cam cyntaf y dylech ei gymryd yw cysylltu â’r busnes a werthodd y gwaddol i chi yn ysgrifenedig.

Gallai hyn fod yn gwmni cynghori ariannol, benthyciwr morgais neu ddarparwr gwaddol.

Ceisiwch gasglu gymaint o ddogfennau at ei gilydd ag y gallwch ddod o hyd iddynt ac ysgrifennwch eich achos dros gwyno.

Os na allwch ddod o hyd i’r gwaith papur, gallwch ofyn amdano gan eich cwmni gwaddol pan fyddwch yn anfon eich cwyn.

Beth os nad yw’r cwmni’n bodoli bellach?

Os nad yw’r cynghorwr neu’r cwmni a werthodd y gwaddol i chi yn bodoli bellach, dylech gysylltu â’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, a allai dalu iawndal i chi os cam-werthwyd morgais gwaddol i chi gan gwmni sydd wedi rhoi’r gorau i fasnachu.

Yr hawl i apelio

Ar ôl i’r cwmni ymchwilio i’ch cwyn, fe ddylai roi penderfyniad terfynol i chi o fewn wyth wythnos a gallai hyn gynnwys cynnig iawndal.

Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb a gewch, mae gennych yr hawl i gwyno i’r Gwasanaeth Ariannol yr Ombwdsman o fewn chwe mis, a fydd yn edrych ar eich achos yn annibynnol.

Mae’r Ombwdsman yn rhad ac am ddim a bydd ei staff canolfan cysylltu yn mynd â chi drwy’r broses ar 0800 023 4567 neu 0300 123 9123. Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener – 8am i 8pm, ddydd Sadwrn – 9am i 1pm.

Beth mae penderfyniad yr Ombwdsman yn ei olygu

Os yw penderfyniad yr Ombwdsman o’ch plaid, efallai y bydd yn dyfarnu bod y cwmni yn talu iawndal i chi.

Ni fydd hyn o reidrwydd yn yswirio unrhyw ddiffyg sydd gennych yn eich morgais.

Yr unig fwriad yw eich dychwelyd i’r sefyllfa y buasech ynddo petaech wedi cael cyngor priodol.

Os ydych yn fodlon gyda’r  penderfyniad hwn, gallwch ei dderbyn – os dyma’r achos, bydd yn gyfrwymol rhyngoch chi a’r cwmni.

Mae hyn yn golygu na allwch wneud cais am ragor o iawndal yn ddiweddarach.

Os nad ydych yn hapus gyda’r penderfyniad, gallwch fynd â’ch achos i’r llys, er fe allai fod yn gostus.

Cymryd eich polisi allan

Efallai eich bod yn ystyried cymryd eich polisi gwaddol allan, yn enwedig os dyfernir iawndal i chi.

Fodd bynnag, mae gwaddol yn fuddsoddiad tymor hir a thrwy ei gymryd allan yn fuan efallai y byddwch yn cael swm llai o lawer na phetaech wedi aros tan iddo aeddfedu.

Yn ogystal, mae yswiriant bywyd ac yswiriant salwch critigol wedi eu cynnwys mewn gwaddolion, y gallech fod â’i angen. Bydd unrhyw gais i newid yr yswiriant yma yn seiliedig ar eich oedran, iechyd a ffordd o fyw ac felly gall fod yn ddrytach neu gael ei wrthod.

Yn olaf, cofiwch os ydych yn cymryd eich polisi gwaddol allan ni fydd gennych unrhyw beth yn ei le i ad-dalu eich morgais ar ddiwedd y cyfnod, felly mae’n rhaid i chi gynllunio ar gyfer hyn. Siaradwch â chynghorydd ariannol os nad ydych yn sicr beth i’w wneud.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.