Efallai bydd problemau â’r eiddo rydych am ei brynu. Gallai rhai o’r rhain effeithio ar ba mor debygol rydych o gael morgais, ac efallai bydd eraill yn costio arian i chi yn nes ymlaen. Mae’n werth gwybod beth y dylech gadw golwg amdano – a pha gamgymeriadau i’w hosgoi – wrth brynu cartref.
Rhestr o eiddo nad yw darparwyr benthyciadau bob amser yn eu hoffi
- Cartrefi o adeiladwaith anarferol – Unrhyw adeilad nad yw o adeiladwaith bric a morter safonol. Mae cartrefi yn dal i fodoli sydd wedi’u hadeiladu o blethwaith a dwb, cob, concrid neu fframweithiau coed sydd weithiau wedi’u gorchuddio gyda sment asbestos.
- Fflatiau uchel – Er enghraifft, cyn fflatiau cyngor mewn blociau twr, yn enwedig os oes ganddynt broblemau gyda chynnal a chadw lifft neu ble mae rhan fwyaf y fflatiau eraill yn dal yn nwylo’r awdurdod lleol.
- Adeiladau â chladin – mae angen tystysgrif diogelwch tân ar adeiladau sydd dros 18 metr o uchder â deunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM), a elwir hefyd yn gladin. Mae anghytuno wedi bod ynghylch pwy sy’n gyfrifol am gael hon, ac mae darparwyr benthyciadau wedi bod yn prisio cartref ar sero a gwrthod ceisiadau dros y mater.
- Fflatiau dros siopau, bwytai a swyddfeydd – Unrhyw eiddo ble gallai pobl eraill gael yr hawl i gael mynediad i’ch eiddo. Mae eiddo fel hyn hefyd yn anodd eu prisio .
- Lesddaliadau byr – Mae fflatiau yn aml yn cael eu gwerthu ar lesddaliad sy’n golygu mai dim ond am nifer benodol o flynyddoedd y byddwch chi’n berchen arni. Gall lesddaliadau o 80 mlynedd neu lai fod yn broblem felly edrychwch ar ehangu ar y lesddaliad cyn i chi brynu. Canfod mwy yn Lesddaliad neu rydd-ddaliad – y goblygiadau ariannol.
- Cartrefi a adeiledir o’r newydd – Mae darparwyr benthyciadau yn aml yn prisio eiddo a adeiledir o’r newydd yn is na’r pris gofyn sy’n golygu y bydd angen blaendal mwy arnoch chi. Gallai’r datblygwr gynnig bargeinion arbennig i helpu. Gweler ein hadran Cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a pherchnogion tai cyfredol.
- Safleoedd tir llwyd – Gall eiddo a adeiladwyd ar hen dir diwydiannol fod yn anodd gan y gallent fod wedi’u halogi. Bydd angen i’ch cyfreithiwr wirio’r tystysgrifau i brofi bod yr eiddo wedi’i ddadhalogi.
- Rhy agos at y môr – Gall erydiad arfordirol arwain at eich cartref newydd yn dod yn beryglus o agos at ymyl y clogwyn.
- Cyfyngiadau Amaethyddol – Cyfyngiad Amaethyddol yw amod a osodir gan Awdurdod Cynllunio. Y bwriad yw cyfyngu meddiannaeth yr eiddo i’r rhain sy’n ymgysylltiedig ag amaethyddiaeth, sy’n cyfyngu’r farchnad gall yr eiddo cael eu gwerthu ynddo.
- Cartrefi â chymeriad – Gallai goleudai, melinau gwynt, ysgolion a thafarndai wedi’u trosi fod angen morgais gan fenthyciwr arbenigol.
- Eiddo rhestredig Gradd 1 a thai to gwellt – the cost of repairs and rebuilding make them less attractive to mainstream lenders who also worry about the risk of fire.
Pethau i edrych amdanynt wrth brynu tŷ
Pan fyddwch chi’n chwilio am dŷ, cofiwch efallai nad yw’r eiddo cystal ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf .
Mae yna nifer o gamgymeriadau cyffredin y gallwch eu hosgoi wrth brynu eich cartref trwy edrych tu hwnt i’r addurn .
Efallai y bydd biliau atgyweirio, problemau cudd gan gynnwys:
- lleithder,
- problemau trydanol, neu
- gymdogion swnllyd.
Gallai pob un o’r rhain gyfrannu at gostau uwch ac ymdrech ychwanegol ar ôl i chi symud i mewn.
Y tu fewn i’r eiddo
Gwiriwch am broblemau a allai fod yn ddrud i’w trwsio fel:
- lleithder
- plygiau a switsys hen ffasiwn a allai olygu bod rhaid ailwifro’r eiddo old-fashioned plugs and switches that could mean the property needs rewiring
- hen foeler
- toiled sy’n flysio’n wan
- fframiau ffenestr pwdr.
Os oes gennych ffrind, aelod o’r teulu neu adeiladwr y gallwch ymddiried ynddo sy’n gyfarwydd â thrwsio eiddo, ewch â hwy gyda chi i ymweld â’r eiddo .
Bydd adeiladwr yn rhoi syniad i chi o faint y bydd yn costio i drwsio unrhyw broblemau amlwg .
Wedyn gallwch ddefnyddio hyn fel offeryn bargeinio i ofyn i’r gwerthwr ostwng y pris .
Peidiwch â bod ofn gofyn beth yw oedran y gwifrau a’r to neu pa bryd y cafodd y boeler ei osod a pha bryd y cafodd unrhyw adnewyddiadau eu gwneud .
Y tu allan i’r eiddo
- Gwiriwch yr ardal gyfagos – edrychwch ar gyflwr y strydoedd gerllaw, y tafarndai a’r siopau er mwyn cael teimlad o’r ardal.
- Landeri a theils to – edrychwch i weld a oes unrhyw fylchau a allai achosi gollwng dŵr.
- Ymwelwch ar wahanol adegau’r dydd – gallai eich stryd fod yn dawel iawn yng nghanol y dydd ond yn swnllyd ac yn brysur yn ystod oriau brig.
- Ymsuddiant – edrychwch y tu allan i’r eiddo. A oes coed mawr yn tyfu gerllaw, a allai o bosibl achosi problemau ymsuddiant?
- Trwyddedau parcio – a fyddwch chi angen trwydded i barcio yno? A yw’n anodd dod o hyd i le barcio os nad oes gennych le parcio oddi ar y stryd neu garej?
- Yswiriant Adeiladau - A yw’r eiddo mewn ardal sy’n dioddef o lifogydd? Mae yswiriant adeilad ar gyfer cartrefi sydd wedi dioddef llifogydd yn ddrud ac fe allai fod yn anodd ei gael. Os na allwch gael yswiriant, yna ni chewch forgais.
- Cymdogion swnllyd – Gofynnwch i’r gwerthwyr a oes unrhyw broblemau wedi bod gyda’r cymdogion. Os ydych chi’n edrych ar fflat, gofynnwch a oes gan y cymdogion uwchlaw loriau pren, neu ba sŵn posibl a allai fodoli.