Treth flynyddol rydych yn ei thalu i’ch cyngor lleol yw Treth Gyngor. Pennir y gost gan eich cyngor ac mae’r arian yn mynd i ariannu gwasanaethau lleol. Darganfyddwch fwy am Dreth Gyngor, sut i wneud yn siwr nad ydych yn talu mwy nag mae rhaid i chi, a beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth â thalu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Treth Gyngor?
- Am beth mae Treth Gyngor yn talu?
- Faint yw fy Nhreth Gyngor?
- A allaf i gael gostyngiad?
- Talu’ch Treth Gyngor dros 12 mis yn lle 10
- Ym mha fand Treth Gyngor ydwyf?
- Sut i gael adolygiad o fand eich Treth Gyngor
- Cwynion am Dreth Gyngor
- Os methwch daliad Treth Gyngor
- Beth sy’n digwydd os nad wyf yn delio â fy nyled Treth Gyngor?
Beth yw Treth Gyngor?
Yn byw yng Ngogledd Iwerddon?
Yng Ngogledd Iwerddon mae rhaid talu ardrethi domestig yn lle Treth Gyngor. Darganfyddwch fwy ar wefan NI Direct
Treth flynyddol yw Treth Gyngor y mae’r cyngor lleol yn ei chodi arnoch am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, fel casglu sbwriel a gwasanaeth llyfrgelloedd. Fel arfer rydych yn talu 10 rhandaliad misol, â dau fis ar ôl hynny lle na fyddwch yn gwneud taliad.
Bydd faint o Dreth Gyngor fyddwch yn ei dalu yn dibynnu ar:
- eich amgylchiadau personol
- y band gwerthuso mae eich eiddo ynddo
- faint o arian mae’r cyngor angen i ariannu eu gwasanaethau.
Am beth mae Treth Gyngor yn talu?
Oeddech chi’n gwybod?
Os ydych wedi bod yn gordalu ar eich Treth Gyngor ers blynyddoedd, efallai y bydd gennych hawl i gael ad-daliad gwerth miloedd o bunnoedd
Ariennir gwasanaethau lleol gan Dreth Gyngor. Mae hyn yn cynnwys:
- gwasanaethau heddlu a thân
- prosiectau hamdden a hamdden, megis cynnal a chadw parciau a chanolfannau chwaraeon
- llyfrgelloedd a gwasanaethau addysg
- casglu a gwaredu sbwriel a gwastraff
- gwasanaethau trafnidiaeth a phriffyrdd, gan gynnwys goleuadau stryd a glanhau, a chynnal a chadw ffyrdd
- iechyd yr amgylchedd a safonau masnachu
- gweinyddu a chadw cofnodion, fel priodasau, marwolaethau a genedigaeth, ac etholiadau lleol.
Nid yw Treth y Cyngor yn cael ei defnyddio i dalu am wasanaethau iechyd.
Faint yw fy Nhreth Gyngor?
Mae faint o Dreth Gyngor byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar werth eich cartref a ble rydych yn byw.
Darganfyddwch eich awdurdod lleol a faint mae angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio’r dolenni isod:
- Cymru - Llywodraeth Leol Cymru
- Lloegr – GOV.UK
- Yr Alban - Llywodraeth Leol yr Alban
Bydd pob un o’r dolenni uchod yn eich cyfeirio at wefan eich cyngor lleol.
O’r fan honno gallwch gael gwybodaeth ar y Dreth Gyngor.
Efallai y bydd modd i chi gysylltu â hwy yn uniongyrchol a holi.
A allaf i gael gostyngiad?
Gallech gael gostyngiad ar eich Treth Gyngor os:
- Ydych ar incwm isel.
- Ydych yn fyfyriwr neu’n byw gyda myfyrwyr.
- Ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref.
- Ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol, fel Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cynhwysol.
- Oes gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi anabledd ac o ganlyniad yn gorfod byw mewn cartref mwy.
- Oes gennych amhariad meddyliol difrifol neu’n byw gyda rhywun sydd â chyflwr o’r fath.
- Oes gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi anabledd ac o ganlyniad yn gorfod byw mewn cartref mwy.
- Oes gennych amhariad meddyliol difrifol neu’n byw gyda rhywun sydd â chyflwr o’r fath.
- Ydych yn adawr gofal yn yr Alban, lle byddwch wedi’ch eithrio rhag talu Treth Gyngor o 18 oed hyd nes i chi gyrraedd 26 oed.
- Ydych yn byw yn rhai siroedd penodol yng Nghymru a Lloegr ac yn adawr gofal.
- Ydych yn aelod o’r lluoedd arfog, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.
- Ydych wedi symud i gartref gofal neu ysbyty.
- Ydych yn y carchar – oni bai eich bod yn treulio dedfryd o garchar am fethu â thalu Treth Gyngor.
Darganfyddwch fwy am bwy all gael gostyniad a sut i wneud cais, defnyddiwch y dolenni isod:
- Cymru – Llywodraeth Leol Cymru
- Lloegr – GOV.UK
- Yr Alban – Scottish Government
Talu’ch Treth Gyngor dros 12 mis yn lle 10
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn caniatáu i chi ledaenu’ch taliadau Treth Gyngor dros 12 mis yn lle’r 10 arferol.
Gallai talu’r un swm bob mis ei gwneud yn haws i chi gyllidebu.
Gofynnwch i’ch cyngor a ydynt yn cynnig y dewis hwn.
Ym mha fand Treth Gyngor ydwyf?
Cymru
Yng Nghymru mae naw band – o 1 (yr uchaf) i 9.
Os yw’ch cartref wedi’i osod mewn band uwch nag y dylai, mae’n debyg eich bod yn talu mwy o Dreth Gyngor nag y dylech fod.
Lloegr a’r Alban
Mae gan Loegr a’r Alban wyth o fandiau prisio ar gyfer Treth Gyngor yn amrywio o A (y rhataf) i H.
Mae band Treth Gyngor eich cartref yn seiliedig ar ei werth ardrethol – po ddrutaf yw’r eiddo, po uchaf yw’r band Treth Gyngor.
Sut i gael adolygiad o fand eich Treth Gyngor
Oeddech chi’n gwybod?
Mae hyd at 400,000 o gartrefi yn Lloegr a’r Alban yn y bandiau Treth Gyngor anghywir. Gwerthuswyd cartrefi yng Nghymru yn fwy diweddar ac maent yn llai tebygol o fod yn y band anghywir. (Ffynhonnell: MoneySavingExpert)
Os credwch eich bod yn talu gormod ar eich Treth Gyngor gan fod eich cartref yn y band treth anghywir, yna gallech fod â hawl i ad-daliad.
I gael yr ad-daliad hwn bydd angen i chi ofyn am adolygiad.
Ond cofiwch: gallai’r adolygiad olygu y bydd y cyngor yn gosod eich eiddo mewn band uwch.
Darganfyddwch sut i gael band Treth Gyngor wedi’i adolygu, ewch i MoneySavingExpert website
Cwynion am Dreth Gyngor
Os oes gennych gŵyn am eich Treth Gyngor, fel arfer bydd rhaid i chi gwyno i’r cyngor yn gyntaf. Ni ddylent gymryd mwy na 12 wythnos i ddatrys y broblem.
Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon â’r canlyniad, neu os ydynt yn cymryd yn rhy hir i ddatrys eich cwyn, gallech gwyno i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol
Os methwch daliad Treth Gyngor
Gall peidio â thalu’n brydlon – hyd yn oed un taliad misol – fod yn fater difrifol â Threth Gyngor. Os na weithredwch yn gyflym gallech orfod talu taliad blwyddyn gyfan ymlaen llaw.
Felly, os oedd eich Treth Gyngor yn £167 y mis, ond gwnaethoch fethu daliad cyntaf y flwyddyn, byddai’r swm yn troi’n ddyled o £1,670 - gan dybio i chi ei dalu dros ddeng mis.
Y peth pwysicaf yw cysylltu â’ch cyngor cyn gynted ag y tybiwch y gallech fethu taliad, gan fod hynny’n gwella’r tebygolrwydd y byddant yn medru dod i drefniant â chi.
Bydd rhai cynghorau yn caniatáu i chi wneud y taliad ychydig yn hwyr, er mwyn i chi fedru parhau i dalu’r taliadau o hynny ymlaen yn unol â’r drefn wreiddiol. Efallai y bydd cynghorau eraill yn cynyddu’ch taliadau nesaf i unioni’r taliadau a fethwyd.
Os ydych ar incwm isel, efallai y cewch ostyngiad ar eich bil. Mae’n amrywio o un cyngor i’r llall ac o un achos i’r llall. Os cysylltwch â’ch cyngor yn syth ar ôl i chi fethu taliad, byddant yn aml iawn yn barod i’ch helpu.
A yw coronafeirws wedi effeithio eich gallu i dalu eich biliau treth gyngor? Gwelwch ein canllaw ar Help â’ch rhent a biliau eraill
Beth sy’n digwydd os nad wyf yn delio â fy nyled Treth Gyngor?
Os byddwch yn osgoi talu’r Dreth Gyngor ac yn anwybyddu llythyrau a anfonwyd atoch, gall y cyfan droi’n broblem ddifrifol.
Yn gyntaf cewch nodyn atgoffa gan y cyngor rhyw bythefnos ar ôl i chi fethu taliad.
Os talwch o fewn saith diwrnod, nid oes angen i chi wneud dim byd pellach. Bydd y ddyled wedi’i chlirio a byddwch yn medru parhau i dalu eich Treth Gyngor mewn rhandaliadau.
Os na thalwch o fewn saith diwrnod ers derbyn y nodyn atgoffa neu os mai dyma’r trydydd tro i chi fod yn hwyr â thaliadau Treth Gyngor yn ystod y flwyddyn honno, cewch ‘rybudd terfynol’ gan y cyngor.
Bydd y rhybudd terfynol yn dweud wrthych am dalu’r cyfan o’ch Treth Gyngor ar gyfer gweddill y flwyddyn o fewn saith diwrnod.
Os na thalwch o fewn saith diwrnod o’r rhybudd terfynol bydd y cyngor fel arfer yn cyflwyno cais i’r llysoedd am ganiatâd i gasglu’r ddyled gennych - gelwir hwn yn ‘orchymyn dyled’.
Ar ôl hynny gall eich cyngor fynnu bod eich cyflogwr yn talu’ch Treth Gyngor ddyledus o’ch cyflog yn uniongyrchol o’ch cyflog.
Gallant hefyd gyflwyno cais i dynnu arian o rai budd-daliadau penodol, gan gynnwys
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol.
Os nad yw hyn yn bosibl, gallai’r cyngor yrru beili i’ch cartref. Bydd rhaid i chi dalu costau llys a hanner ffi’r beili o bosibl yn ogystal â’ch dyled, a all ychwanegu cannoedd o bunnoedd i’ch bil.
Bydd rhaid i chi dalu costau llys ac o bosibl ffioedd beili yn ogystal â'ch dyled, a all ychwanegu cannoedd o bunnoedd at eich bil.
Am ragor o wybodaeth ynghlŷn ag atal beiliod rhag dod at eich drws, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn Lloegr, maehefyd yn dal i fod yn bosibl cael eich carcharu am fynd i ddyledion â Threth Gyngor.