Os ydych wedi derbyn llythyr gan eich darparwr morgais yn rhoi gwybod eich bod yn gaeth i’ch morgais, efallai y bydd angen i chi wybod yr atebion i rai o’r cwestiynau a ofynnir amlaf.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Oes rhaid i mi ddefnyddio brocer morgeisi?
- Ydw i’n gymwys o dan yr asesiad fforddiadwyedd wedi’i addasu pe bawn i’n methu taliad morgais?
- Beth pe bawn wedi gohirio talu oherwydd yr achosion o goronafeirws?
- A oes opsiynau newid eraill ar gael?
- Pam mai dim ond rhai benthycwyr y gallaf eu defnyddio?
- A fyddaf yn gallu cael cytundeb morgais rhatach newydd?
- Rwyf am symud cartref felly rwyf eisiau morgais newydd ar eiddo newydd - a allaf wneud cais?
- Rydw i dros 60 oed, pa opsiynau ail-forgeisio sydd ar gael i mi?
- Mae gen i forgais llog yn unig, a allaf i wneud cais o hyd?
Darganfyddwch fwy am y newidiadau diweddar yn ein canllaw Help sydd ar gael i bobl sy’n gaeth i’w morgais
Oes rhaid i mi ddefnyddio brocer morgeisi?
Nid oes unrhyw ofyniad i ddefnyddio brocer.
Fodd bynnag, dylai defnyddio brocer sydd â’r wybodaeth hon ei gwneud hi’n haws o ran adnabod a gwneud cais i fenthyciwr newydd.
Os ydych am drafod eich opsiynau â chyngynghorydd morgeisi wedi’i reoleiddio, gallwch lawrlwytho rhestr o gwmniau a fydd cyngynghorydd ganddynt sy’n gallu trafod eich opsiynau yn fwy manwl (PDF, 33MB)
Ydw i’n gymwys o dan yr asesiad fforddiadwyedd wedi’i addasu pe bawn i’n methu taliad morgais?
I fod yn gymwys rhaid i chi fod yn gyfoes â’ch taliadau morgais a heb fethu unrhyw daliadau yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os ydych wedi methu taliad yn ystod y 12 mis diwethaf, ni fyddwch yn gymwys.
Beth pe bawn wedi gohirio talu oherwydd yr achosion o goronafeirws?
Ni ystyrir bod gohirio taliadau oherwydd argyfwng coronafeirws fel bod mewn ôl-ddyledion ac felly ni fyddant yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer y rheolau newydd.
A oes opsiynau newid eraill ar gael?
Oes yn bendant. Gall benthycwyr ddewis edrych ar nifer o wahanol opsiynau i helpu a bydd yr hyn sydd ar gael i chi yn amrywio yn ôl benthyciwr.
Bydd brocer morgeisi yn gwybod pa fenthycwyr sy’n cynnig gwahanol opsiynau newid.
Pam mai dim ond rhai benthycwyr y gallaf eu defnyddio?
Nid yw’n ofynnol i fenthycwyr gymhwyso’r newidiadau hyn, ond mae’r rheolydd - yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) - yn annog benthycwyr i wneud y newidiadau hyn lle bynnag y bo modd.
A fyddaf yn gallu cael cytundeb morgais rhatach newydd?
Os ydych wedi derbyn llythyr gan eich darparwr morgais yn rhoi gwybod eich bod yn gaeth i’ch morgais, efallai y gallwch nawr newid i forgais rhatach, os ydych yn gymwys.
Fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn cael cytundeb morgais newydd neu ratach gan y bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Darganfyddwch fwy y nein canllaw Pam mae ceisiadau morgais yn cael eu gwrthod a beth i’w wneud nesaf
Rwyf am symud cartref felly rwyf eisiau morgais newydd ar eiddo newydd - a allaf wneud cais?
Dim ond os ydych yn newid morgais ar eich cartref presennol y mae’r newidiadau hyn yn eich helpu. Ni fyddwch yn gymwys o dan y rheolau newydd os ydych am symud cartref neu os ydych yn prynu eiddo ychwanegol.
Rydw i dros 60 oed, pa opsiynau ail-forgeisio sydd ar gael i mi?
Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran ar y rheolau newydd. Os ydych yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd, gallai’r newidiadau hyn olygu y gallwch symud i gytundeb morgais well neu ratach os ydych chi wedi cael trafferth newid yn y gorffennol.
Mae gan fenthycwyr opsiynau eraill hefyd os ydych chi dros 60 oed, gan gynnwys morgeisi llog yn unig wedi ymddeoliad a rhyddhau ecwiti. Bydd cyfyngiadau oedran ar rai o’r rhain.
Mae bob amser yn syniad da siarad â brocer i drafod eich amgylchiadau penodol a pha opsiynau a allai fod ar gael i chi.
Darganfyddwch fwy am forgeisi llog yn unig wedi ymddeoliad yn ein canllaw
Beth yw rhyddhau ecwiti?
Mae gen i forgais llog yn unig, a allaf i wneud cais o hyd?
Cyn belled â’ch bod yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd, gallwch wneud cais o hyd.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd angen i chi gael cynllun i ad-dalu’r morgais sy’n ddyledus ar ddiwedd ei dymor a gallu darparu prawf o’ch gallu i ad-dalu.
Os nad oes gennych hwn, dylech siarad â’ch benthyciwr presennol i drafod eich opsiynau. Gallai hyn gynnwys newid rhan o’ch morgais i ad-daliad (cyfalaf a llog). Bydd hyn yn cynyddu eich taliadau misol ond yn eich gadael mewn gwell sefyllfa i ad-dalu’ch morgais yn ddiweddarach.
Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu ad-dalu’r morgais, dylech weithredu nawr i ddeall eich opsiynau a’r hyn y gallwch ei wneud i wella’ch sefyllfa. Bydd gweithredu’n gynnar yn eich rhoi yn y sefyllfa orau bosibl ar ddiwedd eich morgais, neu’n gwella eich opsiynau i gael cytundeb morgais newydd well yn y dyfodol.