Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Gwybodaeth am ryddhau ecwiti

Mae’n rhaid i gwmnïau sy’n gwerthu cynlluniau rhyddhau ecwiti roi gwybodaeth bwysig benodol i chi er mwyn eich helpu chi i benderfynu a ydych am ymuno â chynllun ai peidio.

 

Rheoleiddio cynlluniau rhyddhau ecwiti

Mae’n rhaid i gwmnïau sy’n cynghori neu werthu cynlluniau rhyddhau ecwiti fod:

  • yn asiant i gwmni a reoleiddir, neu
  • wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Ac mae’n rhaid iddynt fod â chymhwyster rhyddhau ecwiti perthnasol er mwyn rhoi cyngor.

Rhoddir cwmnïau rheoledig a’u hasiantau ar Gofrestr yr FCA (Opens in a new window) ac mae’n rhaid iddynt gyrraedd rhai safonau penodol.

Cael cyngor

Rhaid i bob cwmni sy'n cynnig gwerthu rhyddhau ecwiti gynnig gwerthiant wedi’i gynghori i chi oni bai bod y cwsmer yn bodloni'r meini prawf sydd eu hangen ar gyfer gwerthiant gweithredu yn unig (heb unrhyw gyngor). Bydd angen i chi hefyd benodi eich cyfreithiwr eich hun ar ôl i chi dderbyn argymhelliad addas ar gynllun rhyddhau ecwiti.

Golyga hyn sicrhau bod rhyddhau ecwiti yn addas i chi, ac os ydyw, dim ond argymell cynnyrch sydd yn addas ar eich cyfer ar sail eich anghenion a’ch amgylchiadau.

Gallwch gyflwyno cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os byddwch yn gweld bod y cyngor a roddwyd i chi yn anaddas yn y pen draw.

Gwnewch yn siŵr bod y cwmni a ddefnyddiwch ar Gofrestr yr FCA.

Os nad yw’r cwmni ar y gofrestr, ni fydd gennych fynediad i weithdrefnau cwyno ac iawndal os aiff pethau o chwith.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud os oes gennych gŵyn am gynghorydd ariannol.

Mae rhai morgeisi gydol oes ble mae’n ofynnol i chi dalu’r llog ar y benthyciad a/neu ran o’r cyfalaf bob mis.

Mae hyn yn faes cymhleth ac mae nawr yn ofynnol i berchnogion cartrefi dderbyn cyngor cyfreithiol annibynnol y mae’n rhaid ei gael wyneb yn wyneb.

Gwybodaeth y byddwch yn ei chael

Cam 1

Pan fyddwch yn cysylltu â darparwr neu gynghorydd rhaid iddynt roi gwybodaeth glir am y gwasanaeth y maen nhw’n ei gynnig. Ni chaniateir galw ar hap gan ddarparwr rhyddhau ecwiti o dan unrhyw amgylchiadau.

Gallant wneud hyn ar lafar yn ystod y sgwrs gychwynnol neu mewn dogfen ysgrifenedig.

Naill ffordd neu’r llall, rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn rhoi cyngor i chi, a dweud wrthych, fel rhan o’r gwasanaeth hwn a ydynt yn:

  • codi ffi
  • cynnig morgeisi gydol oes, cynlluniau dychweliad cartref, neu’r ddau
  • cynnig cynlluniau rhyddhau ecwiti o’r farchnad gyfan neu gan nifer cyfyngedig o ddarparwyr yn unig.

Defnyddiwch y wybodaeth yma i gael y fargen orau wrth geisio’r gwasanaeth rydych yn ei ddymuno am y pris sy’n eich plesio.

Cam 2

Unwaith y byddant wedi argymell cynnyrch rhaid i’r darparwr neu’r cynghorydd roi dogfen sy’n rhoi ffeithiau allweddol am y morgais i chi.

Efallai y byddant yn cyfeirio at y ddogfen hon fel Esboniad Ffeithiau Allweddol (KFI).

Gallai rhai cynghorwyr morgais a darparwyr benthyciadau roi i chi pan fyddant yn argymell morgais neu’n cyflwyno cynnig morgais.

Bydd y dogfennau hyn yn amlinellu’ch gofynion personol chi ac yn cynnwys pethau fel:

  • unrhyw nodweddion ychwanegol
  • y gwasanaeth y byddwch yn ei gael
  • beth sy’n digwydd os nad ydych eisiau’r morgais neu’r cynllun mwyach
  • cost gyfan y cynllun, yn ogystal ag unrhyw ffioedd y bydd yn rhaid i chi eu talu
  • disgrifiad o’r cynllun, pwy yw’r darparwr ac, ar gyfer morgais gydol oes, y cynnig cyfradd llog
  • yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud wrthynt nhw am faint rydych eisiau ei ryddhau a’r math o gynllun y mae gennych ddiddordeb ynddo
  • pan fydd morgais gydol oes yn gofyn am daliadau rheolaidd, faint fyddai’r taliadau pe bai’r cyfraddau llog yn cynyddu – fel bod modd i chi weld a ydych yn meddwl y gallech ymdopi â’r cynnydd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen a deall y ddogfen hon a gofynnwch i’r darparwr neu gynghorwr egluro unrhyw beth nad yw’n glir. Dylai ddangos telerau’r cynllun a argymhellir ac os gallai effeithio ar unrhyw fudd-daliadau gyda phrawf modd y gallech fod yn gymwys i’w cael.

Gellir defnyddio’r ddogfen hon i chwilio am y fargen orau a chymharu cynlluniau tebyg gan ddarparwyr eraill.

Cam 3

Unwaith y bydd eich cais wedi ei gymeradwyo, fe gewch chi neu’ch cynghorydd ddogfen gynnig.

Bydd yn cynnwys manylion megis:

  • y ffioedd
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • y swm y byddwch chi’n ei dderbyn, neu
  • unrhyw amodau arbennig megis clirio unrhyw forgeisi sy’n weddill.

Cofiwch ei darllen yn ofalus.

Sefydliadau eraill fydd yn gallu helpu

Os ydych yn cael trafferth i gael deupen llinyn ynghyd ac yn chwilio am gymorth ariannol, mae nifer o asiantaethau ac elusennau sy’n darparu gwybodaeth a chyngor am ddim.

Cael help wrth ddatrys problemau dyled:

Grantiau i gadw’ch cartref yn gynnes os ydych dros 60 oed:

Cymorth ariannol ar gyfer gwelliannau cartref:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.