Mae gan rai morgeisi nodweddion arbennig a allai helpu’ch llif arian neu dalu’ch morgais yn llwyr ynghynt.
Morgeisi arian yn ôl
Gyda morgais arian yn ôl, rydych yn cael rhywfaint o arian wrth gymryd eich morgais.
Gallai’r swm arian yn ôl fod yn gyfran o’r swm yr ydych chi’n ei fenthyg (er enghraifft 1%) neu fe allai fod yn swm penodol (er enghraifft £500).
Byddwch yn derbyn yr arian yn ôl ar ôl cwblhau, ac nid cyn hynny.
Mantais
- Derbyn cyfandaliad i helpu gyda, er enghraifft, cost dodrefn ac atgyweiriadau i gartref newydd.
Anfantais
- Mae morgeisi arian yn ôl yn aml yn codi cyfradd llog uwch na morgeisi eraill. Er mwyn gwirio gwir gost arian yn ôl, cymharwch eich costau morgais gyda chynnyrch eraill ar y farchnad.
Morgeisi gwrthbwyso
Gyda morgais gwrthbwyso, mae’ch cynilion wedi’u cysylltu â’ch morgais.
Mae hyn yn golygu bod eich cynilion yn mynd tuag at ostwng eich morgais, felly fyddwch chi ond yn talu llog ar y swm morgais, llai’r swm yr ydych chi wedi’i gynilo.
Mae’n ddewis da ar gyfer pobl gyda chynilion a balans banc rhesymol bob mis.
Gall morgeisi gwrthbwyso fod ar gyfraddau sefydlog neu amrywiol.
Enghraifft o forgais gwrthbwyso
Mae gennych forgais gwrthbwyso o £200,000 ar 3% o log. Mae gennych £10,000 o gynilion hefyd mewn cyfrif gwrthbwyso.
Mae’r £10,000 yn cael ei dynnu o’r £200,000, felly dim ond ar y balans o £190,000 y byddwch chi’n talu llog.
Felly yn hytrach nag ennill llog ar wahân ar y £10,000 fel cynilion, byddwch chi yn lle hynny yn osgoi talu 3% o log ar y £10,000 o’ch dyled.
Edrychwch faint o arian y gallech chi ei arbed trwy wrthosod gan ddefnyddio’r cyfrifiannell ar y wefan This Is MoneyYn agor mewn ffenestr newydd
Manteision
- Fyddwch chi’n dal i ad-dalu’r morgais bob mis fel arfer, ac yn ei dalu yn llwyr ynghynt oherwydd eich bod chi’n gostwng y swm sy’n ddyledus.
- Gallwch barhau i dynnu arian o’ch cynilion yn ôl eich dymuniad.
Anfanteision
- Nid yw’n ddelfrydol ar gyfer y rheini sy’n dibynnu ar log eu cynilion i roi hwb i’w hincwm.
- Nid yw morgeisi gwrthbwyso fel arfer yn cynnig mynediad i chi i fargeinion cyfraddau is.
Morgeisi cyfrif cyfredol
Mae morgeisi cyfrif cyfredol yn fath o forgais gwrthbwyso.
Yr unig wahaniaeth yw bod eich cyfrif cyfredol a morgais yn cael eu cyfuno yn un.
Felly os oes gennych chi forgais o £150,000 a £1,500 yn eich cyfrif cyfredol, bydd eich datganiad banc yn dangos bod arnoch chi £148,500 i’ch benthyciwr.
Enghraifft o forgais cyfrif cyfredol
Mae morgeisi cyfrif cyfredol yn debyg i forgeisi gwrthbwyso.
Y gwahaniaeth yw bod eich cyfrif cyfredol, yn hytrach na’ch cynilion, a’r morgais yn cael eu cyfuno yn un.
Er enghraifft, os oes gennych forgais cyfrif cyfredol o £150,000 a £1,500 yn eich cyfrif cyfredol, bydd eich datganiad yn dangos eich bod mewn dyled o £148,500 i’ch darparwr benthyciadau.
Er enghraifft, dychmygwch fod eich cyflog mynd adref yn £3,000 y mis a bod gennych forgais o £148,000.
Tra bod eich £3,000 yn y cyfrif, dim ond ar £145,000 y byddwch chi’n gorfod talu llog.
Wrth i chi fynd trwy’r mis yn gwario peth o’ch cyflog, bydd eich balans morgais yn codi’n raddol a bydd y taliadau llog dyddiol yn cynyddu.
Pan fyddwch chi’n derbyn eich pecyn cyflog nesaf i’ch cyfrif banc, bydd eich balans morgais unwaith eto yn gostwng ychydig a bydd y llog sy’n cael ei godi yn gostwng.
Felly gyda morgais cyfrif cyfredol, bydd y llog a godir yn cynyddu a lleihau wrth i’r swm yn eich cyfrif cyfredol gynyddu a lleihau.
Os oes gennych forgais ad-dalu byddwch chi’n talu mwy o gyfalaf pa bryd bynnag y bydd eich cyfrif cyfredol mewn credyd.
Mantais
- Mae gennych yr hyblygrwydd i ddefnyddio’r arian yn eich cyfrif cyfredol i ostwng eich taliadau misol.
- Rydych chi’n fwy tebygol o fod yn talu’r morgais yn llwyr na gyda math safonol o forgais.
Anfantais
- Nid yw’r mathau hyn o forgeisi fel arfer yn cynnig mynediad i chi at fargeinion cyfradd gostyngol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar wefannau cymharu
Morgeisi eraill sydd â nodweddion hyblyg
Mae rhai morgeisi confensiynol yn cynnig nodweddion hyblyg, a restrir isod
Yr opsiwn i ordalu
Mae llawer o forgeisi yn caniatáu i chi dalu mwy na’ch taliad misol arferol fel y gallwch leihau eich dyled yn gyflymach.
Gwiriwch a oes cyfyngiad ar faint y gallwch ordalu bob blwyddyn – fel arfer mae’n 10% o’r morgais.
Gall ad-dalu’ch morgais cyn diwedd ei gyfnod ymddangos yn syniad gwych, ond dylech fod yn ymwybodol y gallech wynebu ffi am ad-dalu’n gynnar, felly cofiwch wirio amodau’ch cytundeb morgais.
Yr opsiwn i gymryd seibiant talu
Gyda rhai morgeisi – ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol – efallai y bydd modd ichi gael seibiant rhag talu eich morgais.
Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i chi wneud unrhyw daliadau am gyfnod cyfyngedig. Nid oes gan bob morgais yr opsiwn hwn.
Darllenwch mwy yn Canllaw ar gyfer cymryd seibiant o daliadau morgais
Tandalu
Gallai benthycwr ystyried caniatáu ichi dalu llai na'ch ad-daliad misol arferol. Er enghraifft, os byddwch yn profi newid yn eich amgylchiadau ariannol ac yn cael trafferth cwrdd â'ch ymrwymiadau morgais.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol pan fydd arian yn dynn, ond mae'n cynyddu eich dyled wrth i'r gwahaniaeth gael ei ychwanegu at eich morgais.
Bydd yn cymryd mwy o amser i chi dalu eich morgais i ffwrdd a byddwch yn talu mwy o log dros gyfnod y benthyciad.
Defnyddio gwefannau cymharu prisiau
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i forgais addas.
Mae gwefannau poblogaidd er mwyn cymharu morgeisi yn cynnwys:
MoneyfactsYn agor mewn ffenestr newydd
Which?Yn agor mewn ffenestr newydd