Mae arolygon prynwyr tai yn ffordd dda i osgoi costau trwsio annisgwyl yn hwyrach ymlaen. Bydd cael arolwg ar gyfer tŷ neu fflat yn rhoi syniad i chi o faint allai fod angen i chi ei fuddsoddi mewn eiddo wedi i chi ei brynu.
Mathau o arolygon prynwyr tai
Dewiswch arolwg yn seiliedig ar gyflwr yr eiddo ei hun, nid cost yr arolwg.
Gallai arian a warir ar arolwg prynwyr tai arbed ffortiwn i chi yn y dyfodol a’ch helpu i osgoi cael syrpreis costus ar ôl i chi symud i mewn.
Mae sawl lefel gwahanol o arolwg eiddo gallwch ddewis eu cael cyn i chi brynu. Os ydych yn prynu tŷ neu fflat hŷn, mae’n syniad da mynd am fwy na dim ond arolwg sylfaenol, gan gallai ddatguddio problemau na fyddech yn eu disgwyl.
Adroddiad Cyflwr RICS
Mae Adroddiad Cyflwr RICS yn disgrifio cyflwr yr eiddo, yn adnabod unrhyw risgau a phroblemau cyfreithiol posibl, ac yn tynnu sylw ar unrhyw ddiffygion brys. Mae’n fwyaf addas ar gyfer adeiladau newydd a chartrefi confensiynol mewn cyflwr da; ni roddir cyngor na phrisiad yn yr arolwg hwn.
Mae Adroddiad Cyflwr yn arolwg ‘golau traffig’ sylfaenol iawn a bydd y gost yn dibynnu ar werth. Am eiddo gwerth £200,000 a £300,000 y gost ar gyfartaledd yw £380.
Adroddiad Prynwr Cartref RICS
Mae Adroddiad Prynwr Cartref yn arolwg sy’n addas ar gyfer eiddo confensiynol mewn cyflwr rhesymol. Mae'r gostio yn dechrau yn £400 ac yn cynyddu yn dibynnu ar werth yr eiddo.
Bydd hyn yn eich helpu i ganfod a oes unrhyw broblemau strwythurol, fel ymsuddiant neu damp, yn ogystal ag unrhyw broblemau cudd tu fewn a thu allan.
Nid yw’r Adroddiad Prynwr Cartref yn edrych tu hwnt i’r lloriau na thu ôl i’r waliau.
Mae rhai adroddiadau Prynwr Cartref yn cynnwys prisiad o’r eiddo, felly efallai y byddwch yn gallu adolygu’ch cynnig os yw’r arolwg yn datgelu pris is na phrisiad y darparwr morgais.
Os nad oes prisiad wedi ei gynnwys, gallech ddefnyddio awgrymiadau’r adroddiad ar gyfer gwaith atgyweirio i ail drafod y pris.
Er enghraifft, os yw’n mynd i gostio £5,000 i chi gyflawni gwaith ar waliau damp yr eiddo, mae’n rhesymol i gynnig £5,000 yn llai na’r pris a ofynnir.
Arolwg adeilad neu strwythurol llawn
Dyma’r arolwg mwyaf cynhwysfawr ac mae’n addas ar gyfer pob eiddo preswyl. Mae’n arbennig o dda ar gyfer cartrefi hŷn neu gartrefi allai angen atgyweiriadau. Mae’r math hwn o arolwg fel arfer yn costio o £600 i fyny ac yn rhoi cyngor manwl ar waith atgyweirio.
Mae’n drylwyr iawn ac mewn rhai amgylchiadau yn werth yr arian ychwanegol, ond nid yw fel arfer yn cynnwys prisiad. Er nad yw’n edrych dan y lloriau na thu ôl i’r waliau dylai gynnwys barn y syrfëwr ar y potensial am ddiffygion cudd yn y maes hwn.
Dylai’r syrfëwr hefyd roi gwybodaeth am ddewisiadau trwsio posibl. Eto, gallech geisio arbed arian trwy gymharu manylion y gwaith atgyweirio gofynnol yn erbyn prisiad y darparwr.
Arolwg Adeilad RICS
Mae Arolwg Adeilad RICS yn darparu’r un lefel o arolwg manwl ag arolwg adeilad, ond mae’n defnyddio dull cyflwyno clir a system cyfraddau i sicrhau eich bod yn gallu nodi’r problemau mwyaf difrifol yn hawdd. Caiff hyn ei dargedu’n bennaf i eiddo mwy neu hŷn, neu os ydych yn cynllunio gwaith sylweddol.
Mae adroddiad manwl yn darparu llun clir i chi o gyflwr yr eiddo, gan amlygu problemau, a bydd yn cynnwys cyngor ar ddiffygion, atgyweiriadau, a dewisiadau chynnal a chadw. Bydd Arolwg Adeilad RICS yn cynnwys tudalenau cyngor ar sut i ddelio â rhai o’r problemau mwyaf cyffredin a ganfuwyd ar yr eiddo gan gynnwys amlinelliad o’r dewisiadau atgyweirio a chanlyniadau peidio â delio ag unrhyw broblemau bosibl a amlygir yn yr adroddiad.
Y cost arferol yw dros £400.
Arolwg mân broblemau adeilad newydd
Mae arolwg mân broblemau adeilad newydd yn archwiliad annibynnol i chwilio am unrhyw faterion gyda’r eiddo.
Mae costau fel arfer yn cychwyn ar £300 yn ddibynnu ar faint yr eiddo.
Dylai datblygwyr drwsio gwallau a amlygwyd cyn i chi symud i mewn.
Dysgwch am Osgoi camgymeriadau drud wrth brynu cartref newydd
Arolwg prisiad morgais
Bydd eich darparwr morgais yn gofyn am brisiad morgais i sicrhau bod yr eiddo yn werth y pris rydych yn ei dalu – neu o leiaf y swm mae’n ei fenthyca i chi, cyn cymeradwyo’ch morgais.
Nid yw prisiad yn ddim mwy na hynny – ni fydd yn nodi gwaith atgyweirio na phroblemau strwythurol fydd rhaid i chi dalu am eu trwsio.
Yn gyffredinol, byddwch yn talu am arolwg y darparwr. Mae’r gost yn seiliedig ar werth a maint yr eiddo ac mae fel arfer dros £250.
Weithiau bydd darparwr yn cynnig morgeisi gydag arolygon prisio am ddim, bydd manylion eich cynyrch morgais yn dweud wrthych os bydd hyn yn digwydd.
Os yw’r eiddo yn cael ei brisio yn is na’ch pris cynnig, gallwch naill ai:
- fynd yn ôl at y gwerthwr neu’r asiant tai, a chynnig pris is yn seiliedig ar brisiad y darparwr
- anghytuno â’r prisiad trwy ddarparu tystiolaeth, os yn bosibl, o eiddo tebyg yn yr ardal sy’n gwerthu am yr un pris neu uwch
Beth i’w wneud os bydd eich arolwg yn datgelu problemau
Mae adroddiad syrfëwr bron bob tro yn canfod rhai problemau, yn arbennig gyda chartrefi hŷn.
Gallwch fynd gydag nhw wrth iddynt gyflawni’r arolwg a gofyn cwestiynau os hoffech. Os na allwch fynd gyda nhw, gallwch gysylltu â’r syrfëwr cyn eu hymweliad i ofyn iddynt dalu sylw i bethau rydych wedi sylwi arnynt yn yr eiddo sy’n peri pryder i chi, neu i ofyn unrhyw unrhyw cwestiynau na chredwch fod yr arolwg wedi’u cynnwys wedyn. Maent yn arbenigwyr ac rydych wedi talu am eu gwasanaeth.
Dyma fydd eich cartref yn y dyfodol, felly peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau.
Ymysg y pethau mwyaf cyffredin fydd rhaid i chi eu harchwilio wedi arolwg mae:
- gosodiadau trydanol
- problem gyda’r to
- system gwres canolog
- problemau damp a phren
- cymhlethdodau y bydd angen peiriannydd strwythurol i gael golwg arnynt.
Beth i’w wneud nesaf:
- darganfod a oes unrhyw broblemau, fel cwrs gwrthleithder gwael, yn dal wedi ei gynnwys dan warant
- gofynnwch i’r syrfëwr roi syniad i chi o ba mor ddrud fydd hi i ddatrys unrhyw broblemau
- ar gyfer gwaith mwy, gofynnwch i adeiladwr roi dyfynbris i chi
- defnyddiwch yr amcan brisiau hyn i geisio ail drafod y pris neu gofynnwch i’r gwerthwr drwsio’r problemau cyn i chi gwblhau’r prynu.
Cofiwch ystyried nid yn unig y gost, ond hefyd faint o drafferth fydd y gwaith trwsio yn achosi i chi.
Os yw’r cyfan yn ormod o waith, gallwch gerdded i ffwrdd gan nad ydych wedi ymrwymo eich hun eto.
Ble i ddod o hyd i syrfëwr
Dylech sicrhau bod eich syrfëwr yn aelod o gorff llywodraethol cydnabyddedig fel Cymdeithas Syrfewyr Eiddo Preswyl (RPSA) neu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Dylech fedru dod o hyd i syrfëwr ar wefannau RPSA neu RICS
Gallwch hefyd gael argymhellion trwy:
- gofyn i ffrindiau a theulu
- chwilio ar-lein – yn ogystal â’r wefan, dylech wirio adolygiadau ar-lein
- gofyn i’r asiant tai – ond efallai y bydd yn derbyn comisiwn a allai gynyddu’r gost, felly nid oes rhaid i chi dderbyn ei awgrym
- gofyn i’ch cyfreithiwr neu drawsgludydd – ond efallai y byddant yn derbyn comisiwn a allai gynyddu’r gost, felly nid oes rhaid i chi dderbyn eu hawgrym.
Prynu neu werthu yn yr Alban?
Mae rhaid i werthwyr yn yr Alban drefnu Adroddiad Cartref i’w ddangos i brynwyr cyn y gallant farchnata eu heiddo.
Gall yr adroddiad gynnwys arolwg gan syrfëwr sydd wedi cymhwyso gyda RICS.
Gall hefyd gynnwys prisiad morgais, a allai fod yn dderbyniol i’ch benthyciwr.
Mae rhaid paratoi’r Adroddiad Cartref o fewn 12 wythnos i roi’r eiddo ar y farchnad.
Nid oes rhaid i rai eiddo, fel cartrefi newydd eu hadeiladu neu drosi a’r rhai a brynir dan Hawl i Brynu, gael Adroddiad Cartref.
Ond dylech ystyried o hyd talu am arolwg a allai ddatgelu problemau costus.