Os ydych dros 60 oed, yn berchennog cartref a bod angen arian arnoch am eich gofal hirdymor, yna efallai bydd morgais gydol oes yn addas i chi. Ond byddwch yn ofalus – nid yw’r cynlluniau hyn yn cynnig y gwerth gorau am arian. Fodd bynnag, os na allwch neu os nad ydych am gael tŷ llai, mae'n un opsiwn y gallech ei ystyried.
Beth sydd yn a canllaw hwn
Beth yw morgais gydol oes?
Math o gynllun rhyddhau ecwiti ydyw sydd yn eich galluogi i ddefnyddio peth o’r arian sydd ynghlwm â’ch cartref.
Gallech ei ddefnyddio i dalu am ofal hirdymor ond dim ond os mai eich bwriad yw aros yn eich cartref.
Un o ddau brif fath o gynllun rhyddhau ecwiti yw morgeisi gydol oes. Cynllun ôl-feddiannu yw’r llall.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Defnyddio cynllun ôl-feddiannu cartref i dalu am eich gofal
Sut mae morgeisi gydol oes yn gweithio?
Fel pob morgais, mae morgais gydol oes yn fenthyciad wedi ei ddiogelu yn erbyn eich cartref. Rydych wedyn yn ei aildalu pan werthir y tŷ.
Gellir cymryd y benthyciad un ai fel cyfandaliad neu mewn cyfansymiau dros gyfnod o amser penodol am weddill eich oes.
Codir llog ar y benthyciad - y byddwch un ai yn ei dalu, neu yn fwy arferol yn ei adael i gronni.
Os ydych yn cymryd y benthyciad, dim ond ar y cyfansymiau yr ydych yn talu llog, o’r adeg pan gymerwyd y cyfansymiau hyn.
Pan fyddwch farw neu yn symud allan, gwerthir eich cartref a defnyddio’r arian i dalu gweddill y benthyciad. Bydd unrhyw arian sydd yn weddill yn cael ei roi i’ch buddiolwyr.
Os nad oes digon o arian ar ôl yn dilyn y gwerthiant i dalu gweddill y benthyciad, bydd angen i’ch buddiolwyr dalu allan o’ch ystad.
I ddiogelu yn erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig sicrwydd dim ecwiti negyddol.
Mae hyn yn golygu na fyddwch chi, neu eich buddiolwyr, yn gorfod talu mwy na gwerth eich cartref yn ôl, hyd yn oed os bydd y ddyled yn uwch na hyn.
Mae dau brif fath o forgais gydol oes ar gael:
- morgais gydol oes cronnol
- morgais gydol oes â llog.
Morgais gydol oes cronnol
Gyda morgais cronnol, ychwanegir llog i’r benthyciad.
Nid oes angen i chi wneud taliadau rheolaidd, ond bydd y swm y bu i chi ei fenthyg yn wreiddiol, a’r llog cronnol, angen cael ei ad-dalu fel rheol pan fydd eich cartref yn cael ei werthu.
Gall y llog sy’n ddyledus gennych dyfu’n gyflym. Mae hyn oherwydd, yn wahanol i forgais ad-dalu, mae’r cyfanswm sy’n ddyledus yn tyfu o hyd.
Morgais gydol oes â llog
Rydych yn talu’r llog yn fisol ar y benthyciad i gyd neu ran ohono, yn hytrach na gadael iddo gronni. Gyda hai morgeisi gydol oes gallwch hefyd wneud taliadau cyfalaf.
Pan werthir eich cartref ymhen amser, bydd cyfanswm y gwnaethoch ei fenthyca’n wreiddiol yn cael ei ad-dalu (heb unrhyw ad-daliadau cyfalaf os ydych wedi eu gwneud).
Gall cyfraddau llog fod yn sefydlog neu amrywiol.
Byddwch yn ofalus iawn â chyfraddau llog amrywiol – ni fyddwch fyth yn gwybod faint yn union y byddwch yn ei dalu.
Faint o ecwiti gallwch ei ryddhau?
Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel:
- beth yw gwerth yr eiddo
- y math o eiddo
- ei wneuthuriad
- faint o’ch morgais sydd ar ôl, a’ch oed.
Mae gan rai gwefannau gyfrifianellau rhyddhau ecwiti fel yr un ar wefan StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd
Ond byddwch yn ymwybodol, gall eu defnyddioldeb fod yn gyfyngedig - gan nad ydynt yn ystyried y ffactorau a restrir uchod.
Mesurau diogelwch pwysig
Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FCA), rheoleiddiwr gwasanaethau ariannol y DU, yn rheoleiddio morgeisi gydol oes.
Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau sydd yn cynghori ar y cynnyrch hyn neu yn eu gwerthu yn gorfod cwrdd â safonau penodol a darparu gweithdrefnau cwyno ac iawndal eglur.
Beth yw manteision ac anfanteision morgeisi gydol oes?
Manteision
-
Gallant ddarparu cyfandaliad mawr, neu mae rhai cwmnïau'n cynnig opsiwn mwy hyblyg lle rydych yn cymryd swm llai ar y dechrau, ac wedyn yn tynnu mwy i lawr os bydd angen. (Mae’n bwysig cael cyngor ariannol annibynnol cyn i chi benderfynu, i ddarganfod ai dyma’r opsiwn gorau ar gyfer eich sefyllfa.)
-
Rydych yn cael cadw ac aros yn eich cartref eich hun am faint bynnag o amser rydych ei angen
-
Dim ond ar ôl marwolaeth, symud i gartref gofal, neu werthiant y cartref y bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu.
-
Mae'n bosibl elwa o unrhyw gynnydd yn y dyfodol yng ngwerth y cartref.
-
Mae cyfraddau sefydlog yn arbed i’r llog rhag cynyddu allan o bob rheolaeth.
-
Mae nifer o gynlluniau yn rhoi sicrwydd na all y ddyled gyfan fod yn fwy na gwerth y cartref
-
Pan werthir y tŷ ymhen amser a’r ddyled wedi ei thalu, mae’n bosibl y bydd arian yn weddill i’w roi fel rhyw fath o etifeddiaeth.
-
Ni chodir treth ar yr ecwiti sy’n cael ei ryddhau ar eich prif gartref.
-
Gall cynlluniau rhyddhau ecwiti roi cymorth i leihau atebolrwydd Treth Etifeddiaeth. Mae'n bwysig cael cyngor os yw hwn yn ffactor pwysig i chi.
-
Os ydych yn hunan-gyllido eich gofal, mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’r cyfalaf a godir i brynu Cynllun Talu Ffioedd am Ofal ar Unwaith fel incwm rheolaidd i dalu am ofal.
-
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Blwydd-dal anghenion brys.
Anfanteision
-
Gallant effeithio ar eich gallu i hawlio budd-daliadau neu gymorth gan eich awdurdod lleol, gan fod unrhyw arian a godwch drwy gynllun rhyddhau ecwiti yn debygol o effeithio ar yr asesiad o’ch incwm a’ch cyfalaf.
-
Bydd yr etifeddiaeth yr ydych yn ei basio ymlaen i’ch buddiolwyr lawer iawn llai ac ni fydd yn cynnwys y cartref ei hun. Byddai buddiolwyr fel rheol yn cael cyfle i ad-dalu'r dyled a chadw'r tŷ pe dymunent.
-
Gallant fod yn anhyblyg petai eich amgylchiadau’n newid – fel arfer bydd angen i chi gael caniatâd y darparwr i rywun arall, fel perthynas, gofalwr neu bartner newydd, symud i mewn.
-
Mae'n debyg y bydd angen i chi dalu ffioedd trefnu, prisio a ffioedd cyfreithiol.
-
Mae’n bosibl na fyddwch yn medru symud y ddyled i gyd petaech yn symud i gartref llai.
-
Bydd yn ofynnol i chi gael yswiriant adeiladau.
-
Bydd y darparwyr yn disgwyl i chi gadw’ch cartref mewn cyflwr da, felly bydd angen i chi roi ychydig o arian tuag at gynnal a chadw.
-
Chi fydd yn gyfrifol o hyd am dalu'ch biliau cyfleustodau a'ch Treth Gyngor. Felly bydd angen i chi sicrhau eich bod yngallu fforddio'r rhain.
Morgeisi gydol oes yn erbyn dulliau eraill o ariannu gofal
Felly sut mae cynlluniau morgeisi gydol oes yn cymharu â mathau eraill o ariannu eich gofal hirdymor, fel prynu cartref llai, polisïau yswiriant a chynnyrch buddsoddi?
Nid yw cynlluniau rhyddhau ecwiti yn cynnig y gwerth gorau am arian. Fodd bynnag, os na allwch neu os nad ydych am gael tŷ llai, mae'n un opsiwn y gallech ei ystyried.
Siaradwch ag aelodau o’r teulu cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Efallai byddant yn gallu eich helpu neu gynnig dewis arall
Ystyriwch ba grantiau neu fenthyciadau â chymhorthdal sydd ar gael os ydych yn ceisio codi cyfalaf er mwyn gwneud gwelliannau neu addasiadau i’ch cartref.
Mae prynu cartref llai yn ddewis mwy cost effeithiol. Gall ryddhau yr arian rydych ei angen a’ch galluogi i barhau â'ch annibyniaeth ariannol, ac efallai’n eich galluogi i fyw mewn eiddo sy’n fwy addas ar gyfer eich anghenion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael tŷ llai i ariannu eich gofal hirdymor
Serch hynny, gall achosi cryn straen a chymryd llawer iawn o amser, a bydd rhaid i chi symud o’ch cartref presennol.
Camau nesaf – ceisiwch gyngor annibynnol
Os penderfynwch fwrw ymlaen â morgais gydol oes, mae’n hanfodol eich bod yn siarad â chynghorydd ariannol annibynnol, gorau oll un sydd â chymhwyster arbenigol CF8 ar gynghori ar ariannu gofal hirdymor.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor
Mwy o wybodaeth am forgeisi gydol oes
Darganfyddwch fwy am forgeisi gydol oes ar wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
I gael cyngor am ddim am faterion ariannol a rhyddhau ecwiti, ewch i wefan StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd