Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Gofal nyrsio a ariennir gan y GIG

Beth yw gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?

Mae gofal nyrsio sy'n cael ei ariannu gan y GIG yn cael ei ddarparu gan y GIG i dalu am gost safonol gofal gan nyrs gofrestredig mewn cartref gofal neu gartref nyrsio. Weithiau fe'i gelwir yn gyfraniad gofal cofrestredig.

Os ydych wedi cael eich asesu fel un sydd angen gofal nyrsio, bydd y GIG yn talu cyfradd safonol neu os ydych yn byw yn yr Alban, bydd yn cael ei dalu gan eich cyngor lleol. Ni fydd yn talu am gostau eraill y cartref gofal fel llety na bwyd

Nid yw’n destun prawf modd ac mae’n cael ei dalu p’un a ydych yn talu am eich gofal cymdeithasol eich hun neu bod eich cyngor lleol yn gwneud (Health and Social Care Trust yng Ngogledd Iwerddon).

A allaf gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?

Efallai y gallwch gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG os:

Sut mae’r Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG yn gweithio?

Yn gyntaf, mae’ch anghenion gofal yn cael eu hasesu i weld a ydych angen gofal iechyd parhaus y GIG. 

Os canfyddir nad oes angen gofal iechyd parhaus y GIG arnoch, efallai y cewch eich asesu o hyd fel bod angen gofal nyrsio mewn cartref gofal.

Yn yr achos hwnnw, bydd y GIG (neu Health and Social Care Trust yng Ngogledd Iwerddon) yn talu cyfraniad tuag at eich ffioedd nyrsio.

Mae’n cael ei dalu i’r cartref gofal i’w had-dalu am y gofal nyrsio maent yn ei roi i chi.

Os ydych yn talu’ch holl ffioedd eich hun, sy’n cynnwys costau nyrsio, bydd y cyfanswm y byddwch yn ei dalu yn cael ei leihau gan swm y cyfraniad gofal nyrsio a ariennir gan y GIG.

Os mai dim ond rhan o’r costau rydych yn eu talu, gallech fod yn well eich byd o hyd.

Mae’n ofynnol i’r cartref gofal ddangos i chi sut mae’r gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn lleihau eich ffioedd. Os na welwch wahaniaeth, gofynnwch iddynt amdano.

Bydd y cyllid yn stopio os ydych yn mynd mewn i’r ysbyty. Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael gofal nyrsio am ddim yn yr ysbyty yn ei le. Ond mae’n debygol y bydd rhaid i chi barhau i dalu’r ffi lawn i’r cartref gofal er mwyn cael cadw’ch ystafell yno.

Os nad oes angen gofal nyrsio arnoch mwyach, gall eich gofal nyrsio a ariennir gan y GIG stopio.

A allaf gael Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG os mai ond dros dro y rwyf yn aros?

Os ydych angen gofal nyrsio yn eich cartref eich hun, darperir hwn am ddim gan y gwasanaethau nyrsio cymunedol.

Trefnir hyn fel arfer trwy eich meddygfa. Os yw’ch anghenion yn gymhleth, bydd yn cael ei ariannu trwy ofal iechyd parhaus y GIG.

Dylai gofal nyrsio a ariennir gan y GIG ddal i gael ei dalu hyd yn oed os mai dros dro yw eich arhosiad yn y cartref gofal.

Os ydych yn aros am chwe wythnos neu lai, ni fydd angen i chi gael eich asesu’n ffurfiol.

Yn hytrach, bydd eich angen am ofal nyrsio yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir gan y cartref gofal neu eich meddyg teulu.

Gall gofal nyrsio a ariennir gan y GIG fod yn gyfraniad defnyddiol tuag at gostau os bydd angen cyfnodau rheolaidd o ofal a seibiant arnoch.

Faint yw’r Cyfraniad Gofal Nyrsio GIG?

Mae swm y Cyfraniad Gofal Nyrsio yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU.

£187.60 yr wythnos ar gyfer y gyfradd safonol, a £258.08 yr wythnos ar gyfer y gyfradd uwch (2021/22). (Mae’r gyfradd uwch dim ond yn berthnasol i bobl a oedd yn cael y gyfradd uwch yn 2007 cyn y cyflwynwyd y gyfradd safonol sengl).

Gwlad Cyfraddau gofal nyrsio a ariennir gan y GIG

Cymru

£201.74 yr wythnos (2022/23).

Lloegr

£219.71 yr wythnos ar gyfer y gyfradd safonol, a £302.25 yr wythnos ar gyfer y gyfradd uwch (2023/24). (Mae’r gyfradd uwch dim ond yn berthnasol i bobl a oedd yn cael y gyfradd uwch yn 2007 cyn y cyflwynwyd y gyfradd safonol sengl.)

Yr Alban

£104.90 yr wythnos am ofal nyrsio a/neu £233.10 yr wythnos am ofal personol - hyd at gyfanswm o £338 yr wythnos (cyfraddau 2023/24). Gweler gwefan Age UK Scotland a lawrlwythwch y PDF ‘Care home funding am fwy o wybodaeth.

Gogledd Iwerddon

£100 yr wythnos (cyfradd 2022/23)

Sut rwyf yn gwneud cais am ofal nyrsio a ariennir gan y GIG?

Mae’r GIG fel arfer yn trefnu asesiad o’ch anghenion pan fyddant yn eich rhyddhau o’r ysbyty. Os na fydd hyn yn digwydd, gofynnwch i’ch meddyg teulu neu weithiwr cymdeithasol drefnu asesiad.

Pwy sy’n talu am ofal nyrsio a ariennir gan y GIG?

Mae Grŵp Comisiynu Clinigol, Bwrdd Iechyd, neu Health and Social Care Trust eich cartref nyrsio, yn gyfrifol am gost y gofal a ddarperir gan nyrsys cofrestredig.

Os ydych yn talu am ofal eich hun a byddai’n well gennych i’r Grŵp Comisiynu Clinigol, Bwrdd Iechyd, neu Health and Social Care Trust beidio â chymryd y cyfrifoldeb hwn, bydd eich dymuniad yn cael ei barchu.

A yw cael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn effeithio ar fy mudd-daliadau eraill?

Ni fydd y gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau eraill.

Fodd bynnag, yn yr Alban, os ydych yn cael lwfans Gofal Personol, bydd yr hawl i gael Lwfans Gweini neu’r elfen ofal o lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol, yn dod i ben ar ôl pedair wythnos.

Pa wasanaethau GIG eraill sydd ar gael mewn cartrefi gofal?

Wedi i chi gael eich asesu, mae’n bosibl y gwelwch eich bod yn gymwys i hawlio cymorth pellach gan y GIG.

Gallai hyn gynnwys cymhorthion hunanreolaeth a delir amdanynt gan y GIG neu gefnogaeth neu wasanaethau arbenigol eraill fel:

  • trin traed
  • ffisiotherapi
  • matresi lleddfu pwysau
  • cymhorthion symudedd a chyfathrebu.

Mwy o wybodaeth am gyllid y GIG mewn cartrefi gofal a’r Cyfraniad Gofal Nyrsio

  • Darllenwch y daflen wybodaeth ‘NHS funding for care and support’ ar wefan FirstStop
  • Darllenwch y daflen wybodaeth ‘NHS Continuing Healthcare and NHS-funded nursing care’ ar wefan Age UK
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.