Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut y gall eich pensiynau effeithio ar gostau gofal cymdeithasol

Gallai’r arian rydych yn ei gymryd allan neu adael yn eich cronfa bensiwn effeithio ar faint y gallech fod angen ei dalu tuag at gostau gofal yn nes ymlaen mewn bywyd. Gall gofal gynnwys cymorth yn y cartref gyda phethau fel ymolchi, gwisgo, mynd allan, aros mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu neu symud i gartref gofal. Gelwir hyn yn ofal cymdeithasol a chynghorau lleol sy’n gyfrifol amdano.

Sut mae gofal yn cael ei dalu amdano

Nid yw gofal cymdeithasol am ddim. Efallai bydd rhaid i chi dalu rhywfaint neu’r holl gost eich gofal.

Bydd eich cyngor lleol yn cyfrifo faint y gallwch fforddio ei gyfrannu tuag at eich costau gofal. Byddant yn edrych ar:

  • unrhyw arian sydd yn, neu, sydd wedi’i gymryd o’ch cronfa bensiwn - naill ai fel arian neu incwm
  • unrhyw incwm arall sydd gennych
  • eich asedau (er enghraifft cynilion a buddsoddiadau).

Sut y caiff eich cronfa bensiwn ei hasesu

Ymddeol yn hwyrach neu oedi cymryd eich cronfa bensiwn

Os byddwch yn gadael arian mewn cronfa bensiwn, ni fydd eich cyngor lleol yn cyfrif hwn pan fyddant yn cyfrifo faint y gallwch fforddio ei dalu am ofal.

Er hynny, unwaith eich bod wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd eich cyngor lleol yn cymryd yn ganiataol eich bod yn cael incwm o’ch pensiwn.

Os nad ydych yn cymryd incwm, byddant yn edrych i weld faint y byddech yn ei gael os byddech yn prynu incwm gwarantedig gydol oes (blwydd-dal). Byddent yn defnyddio’r swm hwn pan fyddant yn cyfrifo eich incwm.

Cael Incwm ymddeol hyblyg

Ydych chi'n defnyddio'ch pensiwn yn hyblyg trwy ei fuddsoddi a chymryd incwm ohono? Yna bydd eich cyngor lleol yn edrych ar faint y byddwch yn ei gael pe byddech yn prynu incwm gwarantedig gydol oes (blwydd-dal).

Yn dibynnu ar faint rydych yn ei dynnu o'ch cronfa, efallai y byddant yn ei ystyried yn gyfalaf neu'n incwm wrth asesu faint sydd angen arnoch i dalu costau gofal.

Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau

Os ydych yn cymryd allan arian fesul tipyn neu eich cronfa gyfan ar un tro ac yn ei roi i mewn i gynilion neu ei fuddsoddi, bydd eich cyngor lleol yn ei drin fel ased a’i gynnwys pan fyddant yn gweithio allan beth y gallwch fforddio ei dalu.

Os ydych yn gwario neu roi arian i ffwrdd yn fwriadol (gan gynnwys arian di-dreth) o’ch cronfa bensiwn i gael neu gynyddu cymorth gyda chostau gofal, efallai y bydd eich cyngor lleol yn asesu eich sefyllfa ariannol eto ac yn eich trin fel bod yr arian hwnnw yn parhau i fod gennych.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.