Mae llawer o ddewisiadau gwahanol i ariannu gofal hirdymor, ac maen nhw’n aml yn gallu bod yn gymhleth. Felly, os oes angen i chi neu anwylyd dalu am ofal gartref neu mewn cartref gofal, mae’n bwysig gwybod y ffeithiau.
Faint fyddwch angen ei dalu am ofal hirdymor?
Awgrym da
Yn aml, rhaid i bobl wneud penderfyniadau cyflym ac anodd am eu hanghenion gofal eu hunain neu am anghenion ffrind neu berthynas. Bydd yn haws yn y pen draw os byddwch wedi siarad am y dewisiadau ymlaen llaw.
Mae faint fydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar:
- eich iechyd a’ch symudedd
- pa lefel o gymorth a chefnogaeth rydych ei angen
- gwerth eich cynilion, eich asedau a’ch incwm
- pa gyllid y gallech chi fod yn gymwys i’w gael gan eich awdurdod lleol neu’r GIG.
Yn y pen draw, gallech dalu am y cyfan ohono, am rywfaint ohono neu ddim o gwbl.
Efallai y bydd y GIG yn helpu i dalu am rai ffioedd gofal i bobl ag anghenion iechyd cymhleth. Os nad ydych yn gymwys, mae'n bwysig cael asesiad anghenion gofal awdurdod lleol i wirio pa fath o ofal rydych ei angen a pha gyllid sydd ar gael gan eich cyngor. Os nad ydych yn gymwys i gael arian gan eich cyngor, efallai y bydd angen i chi hunan-ariannu eich gofal eich hun. Darganfyddwch fwy isod.
Gofal iechyd parhaus y GIG
Os oes gennych anabledd neu broblem feddygol gymhleth, efallai bydd y GIG yn helpu i dalu am eich gofal.
Mae hwn yn becyn o ofal iechyd sy’n cael ei drefnu a’i ariannu gan y GIG yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Caiff ei ddarparu i chi yn eich cartref, mewn cartref gofal, cartref nyrsio neu hosbis. Yn yr Alban, bydd y GIG yn talu am Ofal Clinigol Cymhleth Mewn Ysbyty ond mewn ysbyty yn unig.
Rydych chi’n fwy tebygol i fod yn gymwys os mai anghenion gofal iechyd sydd gennych yn bennaf, yn hytrach nag anghenion gofal cymdeithasol. Mewn geiriau eraill, bod angen nyrs neu sylw meddygol arnoch yn hytrach na gofalwr.
Os nad ydych yn gymwys am Gofal Iechyd Parhaus y GIG, efallai y byddwch yn gymwys am Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, ond dim ond os ydych mewn cartref gofal
Nid oes llawer o bobl yn gwybod amdano, felly mae’n bwysig eich bod yn darganfod a ydych yn gymwys a chael asesiad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ydw i'n gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
Cyllid awdurdod lleol am ofal hirdymor
Efallai bydd eich cyngor lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn gallu’ch helpu gyda chostau cartref gofal.
Neu, os yw’n well gennych a bod hynny’n briodol, gallant eich helpu i aros yn eich cartref eich hun drwy ddarparu gofalwyr, cymorth i ofalwyr, cyfarpar a gwasanaethau arbenigol.
Bydd union swm y cyllid a gewch yn dibynnu ar:
- eich anghenion unigol - yn seiliedig ar asesiad o anghenion gofal, a
- faint allwch chi fforddio ei dalu tuag at gostau’r gofal - yn seiliedig ar asesiad ariannol.
Gall eich awdurdod lleol neu’ch ymddiriedolaeth leol drefnu gwasanaethau gofal i chi neu gallwch ddewis cael taliadau uniongyrchol a threfnu pethau drosoch eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau uniongyrchol - trefnu a thalu am eich gofal
Hunangyllido’ch gofal hirdymor
Yr ofn mwyaf am gyllido gofal hirdymor yw y bydd rhaid i chi werthu’ch cartref os ydych chi’n symud i mewn i gartref gofal.
Wrth lwc, os mai yn eich cartref eich hun y byddwch angen gofal, ni fydd gwerth eich cartref yn cael ei gyfrif. Mae hyn yn wir hefyd os byddwch yn symud i gartref gofal, ond mae'ch partner neu berthynas ddibynnol, oedrannus neu eiddil arall yn parhau i fyw yn eich cartref chi.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai na fyddwch yn gymwys am gyllid gan y GIG neu’ch awdurdod lleol. Hyd yn oed os byddwch yn gymwys, efallai na fydd y swm a gewch yn ddigon i dalu’ch costau gofal i gyd naill ai yn y cartref neu mewn cartref gofal.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi ystyried sut rydych yn mynd i dalu unrhyw gostau dros-ben neu dalu am y cyfan eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau
Hawliwch yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
Hyd yn oed os bydd rhaid i chi dalu am ofal efallai y byddwch yn gymwys serch hynny i hawlio rhai budd-daliadau.
Nid yw’r budd-daliadau hyn yn destun prawf modd, felly gallech eu cael os yw eich anghenion iechyd yn ddigon sylweddol, waeth faint o incwm a chynilion sydd gennych:
- Lwfans Gweini, os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- Taliad Annibyniaeth Personol, os ydych yn 16 oed neu drosodd ond o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych byw yn yr Alban, bydd angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedolyn.
- Lwfans Byw i’r Anabl, i berson o dan 16 oed.
Mae budd-daliadau eraill allech eu hawlio o bosib yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.