Dewis y cartref gofal cywir yw un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnewch mewn bywyd. Mae angen i chi sicrhau y bydd yn lle fydd yn eich gwneud yn hapus ac am bris fforddiadwy.
Pa fath o gartrefi gofal sydd ar gael?
Rhedir cartrefi gofal gan awdurdodau lleol, cwmnïau preifat a sefydliadau gwirfoddol.
Rhaid i bob un ohonynt gael eu cymeradwyo gan y corff rheoliadol priodol yn eich gwlad.
Mae rhai yn cynnig llety a rhoi cymorth gyda gofal personol tra mae eraill yn cynnig gofal nyrsio hefyd. Mae rhai yn arbenigo mewn salwch meddwl, dementia neu glefyd Alzheimer’s.
Gallai dewisiadau amgen i gartref gofal gynnwys tai cysgodol neu dai gofal ychwanegol.
Awgrym da
Nid yw’n rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi meddwl amdano, ond pan fyddwch yn dewis cartref gofal fe ddylech sylweddoli y bydd eich anghenion gofal yn debygol o gynyddu gydag amser.
Pa fath o ofal sydd ei angen arnoch?
Os ydych mewn iechyd gwael, mae’n bosib y bydd angen gofal sylweddol arnoch.
Os ydych yn heini ac yn medru symud, mae’n debygol na fydd angen gofal nyrsio llawn amser arnoch – o leiaf nid am y dyfodol rhagweladwy.
I’r rhan fwyaf o bobl, gofal rhwng y ddau begwn yma fydd ei angen arnynt. Fe gaiff hyn ei gadarnhau gan asesiad anghenion gofal awdurdod lleol.
Nodweddion a manteision | Llety cysgodol | Cartref gofal preswyl | Cartref gofal nyrsio |
---|---|---|---|
Wedi’i gofrestru gyda chorff rheoliadol |
Ydy |
Ydy |
Ydy |
Byw hunangynhwysol |
Oes |
Na |
Na |
Staff ar y safle |
Warden neu Reolwr |
Oes |
Oes |
Larymau Diogelwch 24/7 |
Oes |
Oes |
Oes |
Addas ar gyfer preswylwyr anabl |
Rhai |
Rhai |
Ydy |
Darperir gofal nyrsio neu feddygol |
Na |
Na |
Ar gael 24/7 |
Lefel o ofal |
Isel |
Cymedrol |
Uchel |
Anghenion dibyniaeth |
Isel |
Cymedrol |
Uchel |
Caniateir anifeiliaid anwes |
Rhai |
Rhai |
Rhai |
Cost cyfartalog |
O £8,500 y flwyddyn |
O tua £30,000 y flwyddyn |
O tua £40,000 y flwyddyn |
Beth sy’n cael ei gynnwys yn y ffioedd preswyl? |
Mae’n amrwyio, ond gall gynnwys: digwyddiadau/gweithgareddau cymdeithasol, lleoedd cymunedol, rheolaeth ystad, warden ar y safle a ‘phryd ar glud’. |
Staff ar gael 24 awr, cymorth gyda gwisgo ac ymolchi, bwyd. digwyddiadau/gweithgareddau cymdeithasol, a lleoedd cymunedol. |
Nyrsio a gofal personol 24 awr, bwyd, digwyddiadau/gweithgareddau cymdeithasol, a lleoedd cymunedol. |
Am gefnogaeth a chyngor ar ofal am ddim, cysylltwch â:
- Os ydych yn byw yn Lloegr, Age UK
- Yng Nghymru, Age Cymru
- Yng Ngogledd Iwerddon, Age NI
- Yn yr Alban, Age Scotland
Gallwch hefyd drefnu apwyntiad i siarad ag ymgynghorydd yn Care Rights UK
Os oes angen i chi ddod o hyd i ymgynghorydd arbenigol ar ffioedd gofal, gweler ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor
Dewis cartref gofal - rhestr wirio
Bydd eich awdurdod lleol (neu Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) ym medru rhoi rhestr i chi o’r cartrefi gofal addas yn eich ardal.
Gall elusennau lleol neu grwpiau cefnogol roi cymorth i chi hefyd, yn ogystal â’ch corff rheoliadol cenedlaethol.
Dyma rai awgrymiadau wrth ddewis un:
- Gwnewch restr fer o’r cartrefi gofal addas yn eich ardal y gallwch eu fforddio.
- Mae cost gofal yn amrywio o ardal i ardal – gallech arbed arian drwy symud
- Gofynnwch am becyn gwybodaeth gan y cartrefi sydd ar eich rhestr fer.
- Gofynnwch am gopi o’u cytundebau ac eu telerau ac amodau.
- Gwnewch yn siŵr fod ganddynt le a pha mor hir yw eu rhestr aros.
- Gwiriwch faint o rybudd fydd angen i chi ei roi petaech yn symud allan a faint o rybudd a gewch petai’r cartref yn cau.
- Os ydych yn cael cymorth ariannol gan eich awdurdod lleol, gwnewch yn siŵr y byddan nhw’n cynnig llety i chi ar gyfradd yr awdurdod lleol neu a fydd angen i chi wneud taliad ychwanegol.
- Holwch am ba gostau ychwanegol fydd angen i chi dalu amdanynt nad ydynt yn rhan o’r ffioedd preswyl.
Darllenwch adroddiad arolwg swyddogol y cartref gofal
Gallwch wirio safon y cartref a’u hadroddiad arolwg mwyaf diweddar gyda’r sefydliadau canlynol.
- Care Quality Commission (Lloegr)
- Care Inspectorate (Yr Alban)
- Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)
- Regulation and Quality Improvement Authority (Gogledd Iwerddon)
Trefnwch i ymweld â’r cartrefi hynny sydd ar eich rhestr fer
Cyn ymweld ag unrhyw un o’r cartrefi gofal, rhaid i chi fod yn gwbl sicr o’r hyn rydych yn edrych amdano.
Gwnewch restr wirio o’r pethau sydd yn bwysig i chi, yn ogystal â rhestr o gwestiynau i’w gofyn i’r rheolwyr a’r staff.
Peidiwch â theimlo unrhyw gywilydd - rydych ar fin gwneud penderfyniad all newid eich bywyd.
Gall eich rhestr wirio fod yn un faith. Dyma ambell syniad i chi:
- Ydych chi’n cael cadw anifeiliaid anwes?
- Pa bryd ac am ba hyd mae’r oriau ymweld?
- Ydy’r cartref yn cynnig gweithgareddau cymunedol?
- Faint o staff sy’n gyflogedig ar gyfer pob preswylydd?
- A oes yna ddigon o ganllawiau a chymhorthion symudedd?
- A allant fodloni’ch holl ofynion bwyd a’ch anghenion deiet?
- Faint o le sydd yno ar gyfer eich eiddo personol?
- A yw’n ymddamgos fod gan y preswylwyr yr un anghenion â chi?
- A fyddai’r cartref yn cytuno i gyfnod prawf i chi gael gweld a ydych chi’n hoffi’r lle ai peidio?
- A fydd gennych fynediad at ffonau preifat a’r rhyngrwyd?
- A oes gan y cartref y cyfleusterau ymolchi a thoiled y bydd eu hangen arnoch?
- Pa mor hawdd yw hi i gael gwasanaeth meddyg teulu, deintyddion, optegwyr a gwasanaethau iechyd eraill?
- Petai chi angen gofal nyrsio yn y dyfodol, fyddai’r cartref yn medru darparu hynny?
- Pa drefniadau sy’n bodoli ar gyfer diogelu eich arian a’ch pethau gwerthfawr?
- A all y cartrtef gofal ddarparu’r lefel o ofal sydd ei angen arnoch nawr ac yn y dyfodol – gan y gallaieich anghenion gynyddu dros amser? A yw’r sgiliau anghenrheidiol gan y staff?
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Mae costau cartrefi gofal yn amrywio’n sylweddol ledled y wlad.
Fodd bynnag, gallwch ddisgwyl talu tua £30,000 y flwyddyn ar gyfartaledd am gartref gofal preswyl a £40,000 os oes angen gofal nyrsio.
I ddarganfod beth yw ffioedd cyfartalog y flwyddyn mewn cartref gofal yn eich ardal chi, ewch i wefan PayingForCare
Mae ganddynt hefyd gyfrifiannell sy’n ateb y cwestiwn A fydd y wladwriaeth yn eich helpu i dalu? Rhowch gynnig arni ar y wefan PayingForCare
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai gall eich cyngor lleol roi cymorth i chi gyda chostau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A wyf yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal?
Darganfyddwch fwy
Lawrlwythwch daflen ffeithiau ‘Choosing and Paying for a Care Home’ ar wefan FirstStop Advice
Neu ffoniwch nhw i drafod eich opsiynau ar 0800 377 7070