Mae’r rhan fwyaf ohonom am fyw’n annibynnol yn ein cartrefi ein hunain cyhyd â phosibl. Os ydych yn gwella o salwch neu gwymp, neu os ydych angen cymorth gyda’ch gofal hirdymor, mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu i wneud hynny.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw gofal cartref?
Awgrym da
Nid yw gofal cartref at ddant pawb. Ond mae ymweliadau rheolaidd gan ofalwyr ac ambell addasiad i’r cartref yn gallu’ch helpu i gadw’ch cysuron cartref a’ch annibyniaeth.
Mae gofal cartref yn disgrifio’r gwasanaethau gofal sy’n galluogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain.
Fe’u darperir gan amlaf gan weithwyr gofal neu nyrsys. Gall gofal cartref gynnwys popeth o help i lanhau’r tŷ unwaith yr wythnos, i ymweliadau sawl gwaith y diwrnod i helpu gydag ymolchi, gwisgo a thasgau gofal personol eraill.
Mae cael gofal yn y cartref yn ddewis mwyfwy cyffredin yn lle aros yn yr ysbyty neu symud i gartref gofal.
Nid yn unig rydych yn osgoi unrhyw aflonyddwch ac yn aros mewn man cyfarwydd, ond hefyd gall fod yn ddewis mwy darbodus na gofal preswyl.
Pa wasanaethau gofal cartref sydd ar gael?
Bydd y gwasanaethau a gynigir i chi’n seiliedig ar asesiad a gynhelir gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon).
‘Pecyn gofal’ yw’r enw arno a bydd yn cael ei ysgrifennu fel rhan o’ch cynllun gofal personol.
Gall gwasanaethau gynnwys help gyda:
- codi o’r gwely yn y bore, ymolchi a gwisgo
- defnyddio’r toiled ac offer ymataliaeth
- paratoi prydau bwyd a diod
- bwyta ac yfed
- casglu presgripsiynau
- rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu anogaeth i’w gymryd
- tasgau yn ymwneud ag iechyd, yn unol â’r hyn a gytunwyd â meddygon neu nyrsys cymunedol
- gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig
- siopa
- casglu pensiynau
- arian, rheoli a thalu biliau
- mynd allan o’r tŷ a chyfarfod ffrindiau
- goruchwyliaeth a chwmni
- setlo am y noson a mynd i’r gwely.
Talu am ofal cartref yn eich cartref eich hun
Awgrym da
Os ydych ond angen ychydig oriau o help y dydd a bod modd addasu’ch cartref i’ch anghenion, efallai mai gofal cartref fydd yr ateb mwyaf ymarferol a chost effeithiol.
Bydd y swm fydd rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar:
- eich iechyd a symudedd
- gwerth eich asedau, a
- pa lefel o gymorth a chefnogaeth rydych ei angen
Efallai bydd eich awdurdod lleol yn talu rhywfaint neu’r cyfan o’r costau, ond efallai hefyd y bydd yn rhaid ichi dalu am yr holl wasanaethau eich hun.
Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt – Lwfans Gweini a Lwfans Byw i’r Anabl (neu Daliad Annibyniaeth Personol) yw’r rhai mwyaf cyffredin.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sut i ariannu’ch gofal hirdymor – canllaw i ddechreuwyr
Budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal
Sut i drefnu gofal hirdymor gartref
Gwnewch gais am gymorth gan eich cyngor lleol, fel arfer yr adran gwasanaethau cymdeithasol (neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol yng Ngogledd Iwerddon).
Cyn y gallant eich helpu, rhaid iddynt gynnal asesiado’ch anghenion gofal.
Gweler ein canllaw Sut mae asesiad awdurdod lleol o anghenion gofal yn gweithio am fwy o fanylion.
Hyd yn oed os byddwch yn trefnu’r gofal ac yn talu amdano eich hun, mae’n syniad da cael asesiad. Bydd yn eich helpu i ddeall a phenderfynu pa fath o ofal a chymorth sydd eu hangen arnoch, a beth sydd ar gael.
Ar ôl yr asesiad anghenion gofal, fe gewch asesiad ariannol hefyd i bennu a oes angen i chi dalu am eich gofal eich hun, neu a fydd eich cyngor lleol yn cyfrannu.
Os yw’ch cyngor lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn cytuno i ariannu rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwasanaethau gofal, byddwch yn cael dewis rhwng:
- y cyngor yn darparu’r gwasanaethau’n uniongyrchol i chi, neu
- cael taliadau uniongyrchol gan y cyngor, a threfnu’ch gwasanaethau cymorth a gofal eich hun a thalu amdanynt eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Taliadau uniongyrchol - trefnu a thalu am eich gofal
Cyflogi rhywun i roi cymorth gyda’ch gofal
Cyllido’ch gofal eich hun gartref – pethau eraill i’w hystyried
Mae nifer o ddewisiadau os oes rhaid i chi dalu am eich gofal cartref eich hun, gan gynnwys:
- blwydd-dal anghenion brys - ar gael gan rai cwmnïau yswiriant sy'n gwarantu talu ffioedd gofal ar lefel benodol cyhyd ag y mae eu hangen yn gyfnewid am gyfandaliad unwaith ac am byth
- symud i gartref llai o faint – er enghraifft byngalo i ryddhau cyllid i dalu am eich gofal
- cynllun rhyddhau ecwiti priodol - os ydych yn berchennog cartref
- polisïau yswiriant y gallech chi neu’ch priod fod wedi’u prynu amser maith yn ôl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau
Mwy o wybodaeth am ofal cartref
Mae mwy o wybodaeth ar y gwefannau hyn:
Os nad ydych chi'n hapus â'r gofal rydych chi'n ei gael, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth os ydw i’n anhapus gyda’r gofal a gefais?
Gofal cartref, addasiadau ac offer
Os ydych angen gwneud eich cartref yn fwy hygyrch, neu os ydych angen offer arbenigol i'ch helpu i reoli tasgau o ddydd i ddydd yn fwy diogel a haws, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol.
Bydd yr hyn sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU.
Darganfyddwch fwy am eich cartref, addasiadau ac offer:
- yng Nghymru, ar wefan Llywodraeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
- yn Lloegr, ar wefan y GIGYn agor mewn ffenestr newydd
- yn yr Alban, ar wefan Care Information ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon, ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd