Mae’r rhan fwyaf ohonom eisiau gwasanaethau gofal yn y gartref pan fyddwn yn heneiddio. Ond weithiau mae angen i ni ystyried mynd i mewn i gartref gofal yn lle. Sut ydych yn penderfynu?
Ystyried eich dewisiadau gofal
Y penderfyniad pwysicaf i’w wneud wrth ystyried eich anghenion gofal yw a allwch aros yn eich cartref eich hun neu a oes angen i chi symud i gartref gofal.
Bydd y penderfyniad yn seiliedig ar eich dymuniadau a pha ofal sydd ei angen arnoch. Ond bydd angen hefyd i chi ystyried y gost.
Mae ein hanghenion yn newid wrth i ni fynd yn hŷn ac mae elfennau o fyw’n annibynnol yn dod yn anos. Er enghraifft, mynd i fyny ac i lawr y grisiau neu ddefnyddio’r bath.
Gorau po gyntaf i chi ystyried beth fydd y dewisiadau gorau. Gall hyn helpu i osgoi gwneud penderfyniad ar frys sy’n anaddas i chi – yn enwedig mewn argyfwng, megis ar ôl cyfnod yn yr ysbyty.
Dyma rai cwestiynau defnyddiol i’ch helpu chi i flaenoriaethu’ch anghenion. Gall fod o fudd ysgrifennu’r atebion i lawr.:
- Beth mae ‘cartref’ yn ei olygu i chi? Er enghraifft, cyfforddusrwydd, diogelwch, cyfarwydd-deb?
- Beth sy’n creu cartref da yn eich blynyddoedd hŷn? Er enghraifft, bod yn agos at eich teulu, meddyg teulu.
- Pa bethau allai fynd yn anos? Er enghraifft, mynd i mewn ac allan o’r bath, grisiau serth neu ardd fawr.
Mae gan HOOP (Opsiynau Tai ar gyfer Pobl Hŷn) offeryn ar-lein defnyddiol i’ch helpu chi i asesu addasrwydd eich cartref presennol.
Darganfyddwch fwy ar wefan HOOP
Gwasanaethau gofal yn y cartref - manteision ac anfanteision
Gall gofal yn y cartref gynnwys ymweliadau rheolaidd gan weithiwr gofal cartref i helpu â gofal personol, siopa a pharatoi prydau bwyd.
Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys ‘pryd ar glud’, larymau personol sy’n cael eu monitro a chyfarpar cartref ac addasiadau i helpu â thasgau pob dydd.
Efallai y byddwch yn medru ymweld â chanolfannau dydd lleol lle gallwch gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau amrywiol, â chludiant ar gael i fynd â chi yno.
Deall sut mae asiantaethau gofal yn y cartref yn gweithio
Nid yw pob asiantaeth gofal yn y cartref yr un peth. Mae’n bwysig gwybod a yw’r asiantaeth:
- yn cyflogi ei ofalwyr ei hun; neu
- â mynediad i rwydwaith o ofalwyr hunangyflogedig ac a fyddant yn codi ffi am argymell un.
Nid yw asiantaethau sy’n argymell gofalwr yn gyfrifol am ddarparu’r gofal y byddech yn ei gael. Mae’r busnesau hyn y tu allan i gwmpas y Comisiwn Ansawdd Gofal – y corff sy’n sicrhau bod safonau gofal y cytunwyd arnynt yn cael eu bodloni. Mae hyn yn golygu eu bod heb eu rheoleiddio.
Mae hefyd yn golygu na chaniateir iddynt gyfarwyddo, goruchwylio na rheoli gwaith eu gofalwyr. Eich cyfrifoldeb chi fyddai hwnnw. Ac os nad ydych yn fodlon â safon y gofal rydych yn ei gael, gallai ei gwneud yn anos cwyno.
Manteision
-
Gall cost gofal yn y cartref fod yn rhatach. Fodd bynnag, wrth i’r cymorth sydd ei angen arnoch gynyddu, gallai fod yn rhatach symud i mewn i gartref gofal.
-
Cewch aros wrth ymyl ffrindiau a theulu. Mae aros yn yr un gymdogaeth yn bwysig iawn i rai pobl.
-
Mae gennych fwy o reolaeth dros y gofal a’r gefnogaeth a gewch. Byddwch yn gallu teilwra faint o help rydych yn ei gael wrth i’ch anghenion newid.
-
Gallwch barhau i fyw gyda’ch anifeiliaid anwes. Os byddwch angen cymorth i ofalu amdanynt, gallech geisio cysylltu â’r Ymddiriedolaeth Cinnamon a allai roi cymorth i chi.
-
Gallech gael mwy o arian ar gyfer eich gofal. Ni fydd gwerth eich cartref yn cael ei ystyried wrth gyfrifo faint mae rhaid i chi ei dalu tuag at eich gofal. Ond mi fydd os symudwch i mewn i gartref gofal, er bydd hyn yn dibynnu ar bwy sy’n dal i fyw yno.
Anfanteision
-
Nid yw gofalwyr o gwmpas 24/7. Gallai hyn olygu y byddwch yn teimlo’n llai diogel yn eich cartref. Gallai gofalwr sy’n byw i mewn, system larwm, synwyryddion cwympiadau neu synhwyrydd gwely helpu i chi deimlo’n well.
-
Gallech gael gofalwr arall. Bydd yr asiantaeth a ddefnyddiwch yn debygol o geisio anfon yr un unigolyn bob tro, ond efallai na fyddant yn llwyddo i wneud hynny os bydd salwch neu wyliau.
-
Gallai gofalwyr gyrraedd yn hwyr. Gallai fod oherwydd argyfwng yn eu hapwyntiad blaenorol. Os oes gennych amserlen dynn, gallai hynny fod yn anodd i chi.
-
Gallai’r gost gynyddu os bydd angen mwy o help arnoch. Er enghraifft efallai y bydd angen glanhawr arnoch, neu arddwr neu rywun i alw heibio i drin eich gwallt.
-
Gallai addasiadau yn y cartref ac offer effeithio ar werth eich eiddo – gan ddibynnu ar sut maent yn edrych.
-
Gall ansawdd y gofal amrywio. Gallwch wirio’r ansawdd ar wefan Care Quality
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Gwasanaethau gofal cartref i’ch helpu i aros yn eich cartref eich hun
Cyllid i addasu’ch cartref i’w wneud yn hygyrch
Symud i gartref gofal - manteision ac anfanteision
Mae dau fath o gartrefi gofal:
- Cartrefi gofal heb ofal nyrsio sy’n darparu cymorth â gofal personol
- Cartrefi gofal â gofal nyrsio sydd â nyrsys cofrestredig sy’n darparu gofal nyrsio 24 awr a chynorthwywyr gofal profiadol sy’n darparu gofal personol.
Mae’r ddau’n lleoedd lle gallwch fyw, yn aml gyda’ch priod, â staff hyfforddedig yn bodloni’ch anghenion gofal.
Mae gan rai lety hefyd a chymorth yn arbennig ar gyfer pobl hŷn â dementia.
Manteision
-
Mae staff hyfforddedig wrth law bob amser. Mae hyn yn golygu byddwch yn teimlo’n fwy diogel.
-
Ni fydd rhaid ichi boeni am filiau cyfleustodau, prydau bwyd na’r gwaith tŷ. Mae’r cyfan wedi ei drefnu ar eich cyfer, a allai olygu bod popeth yn gynhesach, yn fwy diogel ac yn lanach.
-
Bydd gennych gwmni drwy’r amser. Mae rhywun ar gael bob amser am sgwrs yn ogystal â gweithgareddau a drefnir.
-
Gallant reoli unrhyw feddyginiaeth y mae angen i chi ei chymryd.
Anfanteision
-
Gallai fod yn fwy costus. Mae'n debygol iawn os nad ydych yn gymwys am gyllid gan yr awdurdod lleol.
-
Gall ansawdd y gofal amrywio. Mae rhaid i bob cartref fodloni lefel ofynnol o ansawdd cyn medru cael ei gofrestru, ond mae ansawdd yn amrywio. Gallwch wirio’r ansawdd ar wefan Care Quality.
-
Bydd angen i’ch holl eiddo ffitio i mewn i un ystafell. Gallai hyn olygu na allwch gael pob un o’ch hoff eitemau o’ch cwmpas.
-
Efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi colli rhywfaint o’ch annibyniaeth. Dylai cartref da sicrhau nad ydych yn teimlo fel hyn drwy eich annog i fyw mor annibynnol â phosib. Efallai y byddwch yn colli ychydig o’ch preifatrwydd fodd bynnag.
-
Efallai na fydd anifeiliaid anwes yn cael eu caniatáu. Os byddant yn honni eu bod yn caniatáu anifeiliaid anwes gwiriwch beth mae hyn yn ei olygu. Gallai hyn fod y bydd anifeiliaid anwes yn cael ymweld ond nid yn cael aros.
-
Efallai na fyddwch yn mwynhau cwmni’r preswylwyr eraill yn y cartref.
-
Gall teulu a ffrindiau deimlo’n euog. Os nad ydynt yn medru cynnig mwy o gymorth neu ymweld mor aml
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis y cartref gofal cywir
Cymharu cost gofal
Mae costau’n gallu amrywio ledled y wlad. Ond bydd eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol (neu’ch Health and Social Care Trust yng Ngogledd Iwerddon) yn gallu rhoi syniad i chi faint y bydd angen i chi ei dalu am wasanaethau a drefnir drwyddynt.
Mae elusennau a grwpiau anabledd yn rhoi gwybodaeth dda hefyd, ond os ydych yn ystyried defnyddio asiantaeth gofal cartref breifat neu gartref gofal preifat, efallai bydd angen i chi wneud eich ymholiadau’ch hun.
Costau gofal yn y cartref
Bydd cost ffioedd cartref gofal yn dibynnu ar leoliad, ansawdd a’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig. Cofiwch, efallai bydd angen i chi dalu mwy am bethau fel teithiau, trin gwallt, a rhai therapïau – felly mae’n bwysig i wirio beth sydd wedi’i gynnwys yn ffioedd y cartref gofal.
Defnyddiwch y cyfrifiannell costau gofal i ddarganfod cost gyfartalog gofal yn eich ardal ar wefan Paying for CareYn agor mewn ffenestr newydd
Costau cartref gofal
Yn ôl Older People UK Market Report 2020 Laing a Buisson, roedd ffioedd blynyddol cartrefi gofal ar gyfartaledd yn y DU fel a ganlyn:
- Preswyl (bregus a hŷn) - £34,686
- Preswyl (dementia) - £35,464
- Nyrsio (bregus a hŷn) - £48,048
- Nyrsio (dementia) - £49,712
Cofiwch, efallai bydd rhaid i chi dalu’n ychwanegol am bethau fel gwibdeithiau, trin gwallt a rhai therapïau – holwch beth sy’n cael ei gynnwys yn ffioedd y cartref gofal. Bydd y lleoliad ac ansawdd y gwasanaeth hefyd yn effeithio ar y gost.
I gael canlyniadau gofal mwy personol yn eich ardal, defnyddiwch y gyfrifiannell costau gofal ar wefan Paying for Care
Sut i ariannu’ch gofal hirdymor
Gallech dalu am eich holl ofal yn y pen draw, peth ohono neu ddim byd o gwbl.
Bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU ac a yw’ch anghenion yn gysylltiedig ag iechyd yn bennaf neu’n fwy i’w wneud â byw bob dydd. Er enghraifft, gwisgo, bwyta a symudedd. Gelwir hyn yn ofal cymdeithasol.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n hawlio am yr help rydych yn gymwys i’w gael:
- Os yw’ch anghenion yn gysylltiedig ag iechyd, efallai y byddwch yn gymwys i gael gofal GIG am ddim.
- Os oes gennych anghenion gofal cymdeithasol, efallai y bydd eich awdurdod lleol (neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn helpu i ddod o hyd i’r gofal a’i ariannu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ariannu eich gofal tymor hir - canllaw i ddechreuwyr
Symud i mewn â theulu
Gall symud i mewn â’r teulu weithio’n dda, ond gall gael effaith sylweddol ar ffordd o fyw pawb.
Os gallwch fforddio opsiynau eraill fel cartref gofal, gallai hynny fod yn llai o straen i bawb.
Mae’n bwysig bod yn realistig a sicrhau bod pawb â’r un disgwyliadau. Mae’n bwysig deall bod cymorth ar gael.
Dyma rai pethau i’w hystyried wrth feddwl am symud i mewn â’ch teulu:
- Os oes aelodau o’ch teulu’n hawlio budd-daliadau, a fydd y rhain yn cael eu heffeithio? Beth am dreth gyngor?
- A fyddwch yn talu rhent neu’n cyfrannu at filiau rhent a chyfleustodau?
- A fydd rhaid addasu’r cartref? Pwy fydd yn talu am hyn?
- A ydych yn gymwys am gymorth wrth addasu’ch cartref neu gael cymorth gofal cartref?
- A ydych wedi ystyried materion teuluol? A ydych i gyd yn cyd-dynnu? Beth os fydd y cwpl yn gwahanu? Beth sy’n digwydd os na fydd y trefniant yn gweithio?
- Pa fath o ofal fydd ei angen arnoch a phwy fydd yn medru darparu hyn ar eich cyfer?
Dylai’ch teulu fod eisiau’r gorau ar eich cyfer, ond mae’n bwysig diogelu’ch hun drwy gael cyngor cyfreithiol annibynnol. Gall cytundeb ffurfiol a luniwyd helpu i’ch diogelu chi a hwy.
Darganfyddwch am gael cyngor cyfreithiol ar wefan Solicitors for the Elderly
Efallai y bydd yn ymddangos yn lletchwith i drafod y pethau hyn, ond mae’n well trafod senarios posibl cyn i chi wneud newidiadau a allai fod yn gostus ac yn straen.
Gallai meddwl am hyn ymlaen llaw helpu i leihau straen a’ch helpu i wneud dewisiadau fforddiadwy.