Os ydych yn ystyried benthyca arian, mae'n bwysig eich bod yn meddwl sut y byddwch yn ei ad-dalu'n ôl. Trwy ddeall gwir gost eich benthyca, gallwch sicrhau eich bod yn cael y cynnig gorau ac yn gallu gwneud yr holl ad-daliadau.
Beth sy’n effeithio ar eich costau benthyca?
Byddwch yn ymwybodol, yn ogystal ag ad-dalu'r hyn rydych yn ei fenthyg, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog hefyd.
Mae'r gyfradd llog a godir arnoch yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys eich statws credyd, faint o arian rydych am ei fenthyg a pha mor hir.
Os ydych eisiau benthyg ychydig bach o arian dros gyfnod byr, efallai y cynigir cyfradd llog isel i chi. Os ydych am fenthyg swm mawr o arian dros gyfnod hwy, gallai'r gyfradd llog fod yn uwch.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bob amser. Er enghraifft - gall benthyciadau tymor byr iawn, fel benthyciadau diwrnod cyflog, godi cyfradd llog uwch. Mae morgeisi yn golygu benthyca symiau mawr dros gyfnodau hir, ond oherwydd eu bod wedi'u sicrhau yn erbyn yr eiddo rydych yn ei brynu, gallai'r cyfraddau llog fod yn is.
Os ydych am gymharu costau benthyca, mae'n bwysig defnyddio'r Gyfradd Ganrannol Flynyddol (APR) i gyfrifo'r gwir gost. Po isaf yw'r APR, po leiaf y byddwch yn ei dalu'n ôl.
Dylai eich benthyciwr ddarparu cyfanswm cost y benthyciad y byddwch yn ei ad-dalu, fel y gallwch gyfrifo faint y byddwch yn ei ad-dalu i gyd o'i gymharu â faint y gwnaethoch ei fenthyg.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Penderfynu ar y math gorau o gredyd i chi
Sut i gyfrifo gwir gost benthyca
Cyfrifo cost benthyca
Gallwch ddarganfod faint y bydd yn ei gostio i chi fenthyg gan ddefnyddio'r wybodaeth y mae rhaid i fenthycwyr ei rhoi i chi.
Yn ôl y gyfraith, pan fyddwch yn gwneud cais, mae rhaid iddynt ddweud wrthych:
- faint bydd rhaid i chi ei ad-dalu i gyd
- faint bydd rhaid i chi ei dalu bob mis
- y cyfraddau llog, unrhyw ffioedd neu daliadau a'r APR.
Dylai'r wybodaeth hon fod ar wefan y cerdyn credyd neu'r cwmni benthyciadau. Mae rhaid iddo hefyd fod ar y ffurflen gwybodaeth gredyd cyn-gontract.
Bydd angen i'r cwmni egluro prif elfennau'r cytundeb mewn da bryd a chyn i chi gael eich rhwymo gan y contract.
Yn achos cardiau credyd, bydd hyn yn seiliedig ar rai rhagdybiaethau ynghylch sut y byddwch yn defnyddio'r cerdyn, fel faint y byddwch yn ei wario bob mis.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyfrifo gwir gost benthyca
Faint gallwch fforddio ei ad-dalu bob mis?
Yr unig ffordd i wybod yn sicr a allwch fforddio'r ad-daliadau yw llunio cyllideb cartref.
Bydd hyn yn dangos i chi faint sydd gennych dros ben ar ddiwedd pob mis pan fyddwch wedi talu'ch holl filiau a'ch costau byw.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich ad-daliadau
Os byddwch yn methu unrhyw ad-daliadau, gallech orfod talu ffioedd a chostau ychwanegol.
Gallai hefyd niweidio'ch statws credyd. Mae hyn oherwydd bod benthycwyr yn edrych ar sut rydych wedi rheoli'ch credyd presennol wrth gyfrifo'ch sgôr credyd. Gallai hyn olygu y byddwch yn cael trafferth benthyg arian yn y dyfodol neu y bydd rhaid i chi dalu cyfradd llog uwch ar gyfer benthyciadau yn y dyfodol
A ydych yn poeni am anghofio taliadau? Yna gall sefydlu archeb sefydlog reolaidd (am y swm sefydlog) neu Debyd Uniongyrchol fod yn ffordd dda o sicrhau bod taliadau bob amser yn cael eu gwneud.
Ond os bydd eich incwm yn newid o fis i fis, neu os ydych yn poeni efallai na fydd digon o arian yn eich cyfrif bob amser, efallai mai gwneud taliadau â llaw fyddai'r opsiwn gorau.
Opsiynau cael benthyg arian
Gadewch i ni edrych ar enghraifft. Mae angen i John gael benthyg £2,500 i brynu boeler newydd yn lle’r hen un
Mae’n cael pris gan gwmni ynni mawr ar gyfer y boeler a’r gwaith gosod, gan gynnwys talu’r gost yn ôl dros ddwy flynedd
Ond wrth ddarllen y contract, mae’n sylwi y bydd yn talu dros £300 o log os bydd yn cymryd y credyd hwnnw am ddwy flynedd.
Felly, mae John yn edrych ar opsiynau eraill.
Gan fod ganddo statws credyd da, mae’n ystyried:
- cymryd cerdyn credyd sy’n cynnig cyfnod cychwynnol o 15 mis heb log ar y pethau newydd y byddwch yn eu prynu, neu
- gwneud cais am fenthyciad personol â chyfradd llog o 10% y gall ei dalu’n ôl dros ddwy flynedd.
Dyma faint y mae’n bosibl y bydd rhaid i John ei ad-dalu bob mis ac i gyd â’i gilydd:
Opsiwn | Cyfradd llog | Ad-daliad misol | Cyfanswm i’w dalu’n ôl |
---|---|---|---|
Cerdyn credyd dros 15 mis |
0% |
£166.67 |
£2,500 |
Benthyciad personol dros ddwy flynedd |
10% |
£115.33 |
£2,768 (£2,500 (wedi cael benthyg + £268 o log) |
Cytundeb credyd â chwmni ynni dros ddwy flynedd |
30% |
£139.75 |
£3,354 (£2,500 wedi cael bethyg + £854 o log) |
Yn y pen draw, mae John yn edrych ar ei gyllideb fisol ac yn penderfynu y gall fforddio cymryd y cerdyn credyd a thalu’r £26.92 ychwanegol bob mis i osgoi gorfod talu unrhyw log.
Mae’n golygu y bydd wedi talu’r balans yn ôl mewn 15 mis, ac ni fydd wedi talu llog
Er mwyn i John arbed arian, mae’n gwybod y bydd rhaid iddo wneud y taliadau o fewn y 15 mis.
Os nad ydych yn credu y byddech yn gallu gwneud hynny, gallai cerdyn credyd gostio mwy i chi.
Mae’r tabl hwn yn dangos y gwahaniaeth rhwng cynlluniau ad-dalu dros gyfnodau gwahanol, a sut y mae gallu talu ychydig mwy bob mis yn gallu golygu eich bod yn gallu cymryd math llawer rhatach o gredyd
Mae hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw chwilio o gwmpas am opsiynau credyd a pheidio â dim ond derbyn y cynnyrch cyntaf a gynigir i chi.
Cymharu taliadau rheolaidd â thaliadau hyblyg
Bydd gan gytundeb benthyciad swm y mae rhaid i chi ei dalu'n ôl bob mis.
Gall ad-dalu'ch benthyciad yn gynnar ar unrhyw adeg, yn llawn neu'n rhannol, fod yn ffordd dda o leihau cost. Ac os oes rhaid i ddarparwyr Benthyciadau ganiatáu i chi ad-dalu benthyciad personol yn llawn, ond gall ddod â thâl ad-dalu cynnar o log oddeutu mis i ddau fis. Dylai unrhyw ffioedd a sut maent yn cael eu cyfrifo gael eu nodi yn eich gwybodaeth a'ch cytundeb benthyciad, fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl os byddwch yn ad-dalu'n gynnar.
Mae rhai benthycwyr yn hysbysebu nad ydych wedi talu tâl ad-dalu cynnar (ERC) neu ffi os byddwch yn talu'ch benthyciad yn gynt na'r hyn y cytunwyd arno. Ond mae'n debygol y codir hyd at ddau fis o log arnoch o hyd ar ba bynnag symiau a ad-dalwyd gennych yn gynnar.
O dan y Gyfarwyddeb Credyd Defnyddiwr, gall bron pawb a gymerodd fenthyciadau o fis Chwefror 2011 ymlaen wneud setliadau cynnar rhannol neu lawn o hyd at £8,000 y flwyddyn cyn cael eu taro â ffioedd cosb.
Os oes mwy na blwyddyn ar y cytundeb benthyciad i fynd, pan fydd mwy na £8,000 wedi'i dalu, yr uchafswm tâl cosb y gellir ei godi yw 1% o'r swm sy'n cael ei ad-dalu'n gynnar.
Os gwneir y math hwnnw o ordaliad ym mlwyddyn olaf y cytundeb credyd, ni all y gosb fod yn fwy na 0.5%.
Gofynnwch i’ch benthyciwr am ‘ddatganiad setliad’ yn dangos faint y byddwch yn ei arbed trwy ad-dalu’n gynnar.
Gallai mathau eraill o fenthyca fod yn fwy hyblyg, ag ad-daliad isel neu ddim ad-daliad lleiaf.
Ond gall y cyfraddau llog ar y rhain fod yn uchel iawn fel y gall y swm sy'n ddyledus i chi gynyddu'n gyflym. Os oes gennych orddrafft mawr, efallai y byddai'n well ceisio sicrhau benthyciad rhatach i'w ad-dalu a gwneud taliadau rheolaidd i ad-dalu hwn.
Mae'n bwysig bod yn wyliadwrus rhag talu'r ad-daliad lleiaf ar gerdyn credyd yn unig - ceisiwch wneud taliadau mwy bob amser i dalu'r swm gwirioneddol i ffwrdd.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr cardiau credyd gysylltu ac annog pobl sydd wedi gwneud taliadau isel iawn neu isafswm ar eu cardiau credyd am y 18 mis diwethaf.
Dyma lle rydych wedi talu mwy mewn llog, ffioedd a thaliadau na'r hyn rydych wedi'i dalu'n ôl i gael y balans i lawr ar eich cerdyn credyd.
Mae'n ofynnol i fenthycwyr awgrymu ad-daliadau fforddiadwy uwch. Os na fyddwch yn ymateb, neu'n anwybyddu'r mater, a bod y sefyllfa'n parhau am fwy na 36 mis, gallai hyn arwain at atal eich cyfrif.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os yw rhywun wedi cysylltu â chi am eich cerdyn credyd a'ch dyled barhaus
Ad-daliadau rheolaidd
Manteision
-
Gall ad-dalu swm sefydlog a rheolaidd eich helpu i gyllidebu.
-
Rydych yn gwybod pryd yn union y byddwch wedi talu’r ddyled i gyd.
-
Dylech allu ad-dalu’ch benthyciad yn gynnar heb gael cosb (na ffi ad-dalu’n gynnar)
-
Rydych yn debygol o dalu llai o log yn gyffredinol ac ad-dalu'r swm yn gyflymach.
Anfanteision
-
Gall taliadau rheolaidd ei gwneud yn anos i chi gyllidebu os yw’ch incwm yn cynyddu a lleihau