Pan rydych yn bwriadu benthyg arian, mae'n bwysig peidio â chwilio am gynnyrch gyda'r ad-daliad misol isaf yn unig. Cyn i chi gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod cyfanswm cost ad-dalu'r hyn rydych yn ei fenthyg.
Beth yw ‘gwir gost benthyca’?
Mae cyfrifo gwir gost benthyca yn golygu ystyried:
- y swm rydych am ei fenthyg
- cost unrhyw ffioedd y gallai fod yn rhaid i chi eu talu
- amlder yr ad-daliadau - er enghraifft, yn wythnosol neu'n fisol
- hyd ‘tymor’ y benthyca - y cyfnod amser rydych chi wedi cytuno i ad-dalu’r hyn rydych yn ei fenthyg
- cyfradd y llog a godir arnoch.
Bydd cymryd sylw o'r holl bethau hyn yn eich helpu i gael llun o'r cyfanswm y bydd yn rhaid i chi ei dalu i'r benthyciwr.
Penderfynu ar swm y benthyciad
Cyn i chi fynd ymlaen a benthyg unrhyw arian, mae yna rai cwestiynau pwysig y mae'n rhaid i chi eu gofyn i'ch hun:
- Oes gwir angen i chi wario'r arian rydych chi'n bwriadu ei fenthyg?
- Faint allwch chi fforddio ei ad-dalu?
- Allech chi gynilo neu ddefnyddio cynilion yn lle benthyca?
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Oes angen i chi gael benthyg arian?
Allwch chi fforddio cael benthyg arian?
Am ba hyd y mae angen i chi fenthyg yr arian?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y tymor byrraf y gallwch ymdopi ag ef
Efallai y bydd benthyciadau tymor hirach gydag ad-daliadau misol is yn ymddangos yn fwy deniadol, ond maent ymhell o fod yn ddelfrydol.
Bydd eich cyfanswm cost benthyca yn debygol o fod yn uwch oherwydd eich bod yn cymryd mwy o amser i glirio'r benthyciad ac yn talu mwy o log yn gyffredinol. Cyn belled â bod y cyfraddau llog yn gymharol, mae'n well dewis tymor benthyciad byrrach a thalu mwy yn ôl bob mis os gallwch fforddio gwneud hynny.
Yn yr enghraifft isod, byddech yn talu yn ôl £676 yn fwy pe byddech yn mynd am y tymor pum mlynedd yn hytrach na’r tymor tair blynedd..
Tymor benthyciad | Swm a fenthyciwyd | APR | Ad-daliad misol | Cyfanswm i’w ad-dalu |
---|---|---|---|---|
3 blynedd |
£5,000 |
11.72% |
£165.40 |
£5,954 |
5 mlynedd |
£5,000 |
11.72% |
£110.52 |
£6,630 |
Pa mor aml fydd angen i chi wneud ad-daliadau?
Dewiswch ad-daliadau rheolaidd yn hytrach na chyfandaliadau
Os byddwch yn dewis i ad-dalu benthyciad mewn un cyfandaliad yn hytrach na gwneud ad-daliadau rheolaidd, fel arfer byddwch yn talu llawer mwy o log.
Cyfrifwch faint o log fydd rhaid i chi dalu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr APR
Fel arfer fe fynegir llog fel APR, sef ‘cyfradd ganrannol flynyddol ar gyfer tâl’. Mae'n cyfeirio at gyfanswm cost eich benthyca am flwyddyn. Mae hwn yn fwy na’r gyfradd llog ei hunain oherwydd mae’n cynnwys y gyfradd llog ac unrhyw ffioedd trefnu.
Gallwch ddefnyddio'r APR i gymharu gwahanol fargeinion credyd a benthyciadau, er enghraifft, trwy ddefnyddio gwefan cymharu prisiau.
Yn gyffredinol, yr isaf yw’r APR, yr isaf yw’r gost o fenthyca, ac felly’r gorau yw’r fargen.
Cofiwch ystyried ffioedd
Mae'n bwysig gwirio am ffioedd yn eich telerau ac amodau - fel taliad hwyr, diofyn, neu daliadau setliad.
Peidiwch â thalu'r isafswm taliad ar gardiau credyd yn unig
Gall yr hyn a elwir yn ‘isafswm taliadau’ ar gardiau credyd fod yn fagl ddyled os na chaiff ei reoli’n iawn.
Yr isafswm taliad yw'r swm isaf y mae'n rhaid i chi ei dalu bob mis er mwyn osgoi cosb.
Mae swm yr isafswm taliad fel arfer yn seiliedig ar ganran o'r hyn sy'n ddyledus gennych, felly mae'n gostwng bob mis wrth i'ch balans leihau.
Mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd mwy o amser i chi ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych os ydych yn cadw at wneud taliadau lleiaf yn unig. A bydd yn costio llawer mwy i chi yn y tymor hir.
Er enghraifft, os ydych yn benthyg £2,000 ar APR 19% a dim ond yn talu'r isafswm taliad bob mis:
- bydd yn cymryd 24 mlynedd a dau fis i chi ei ad-dalu
- byddwch yn talu cyfanswm o £4,731 yn ôl
- cyfanswm y llog y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu bydd £2,731.
Mae’n rhaid i ddarparwyr cardiau credyd gysylltu â phobl sydd ond wedi gwneud taliadau isel iawn neu isafswm ar eu cardiau credyd am y 18 mis diwethaf. Dyma lle mae pobl wedi talu mwy mewn llog, ffioedd a thaliadau na'r hyn sydd wedi'i dalu'n ôl.
Er mwyn annog cwsmeriaid i gael y balans i lawr ar y cerdyn credyd, mae'n ofynnol i fenthycwyr gysylltu â chwsmeriaid i awgrymu ad-daliadau fforddiadwy uwch. Os na fyddwch yn ymateb, neu'n anwybyddu'r mater, a bod y sefyllfa'n parhau am fwy na 36 mis, gallai hyn arwain at atal eich cyfrif.
Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud os yw'ch darparwr cerdyn credyd wedi cysylltu â chi ynglŷn â dyled barhaus.
Os ydych chi eisoes yn cael trafferth gyda dyled, gall fod yn anodd gwybod ble i droi. Ond gyda llawer o wasanaethau cynghori am ddim ar gael ledled y DU, gallwch ddod o hyd i help yn y ffordd sydd orau i chi.