Efallai y byddwch wedi synnu faint gallech ei arbed ar gost eich benthyciad drwy ei symud neu ei ad-dalu’n gynnar – hyd yn oed os oes costau ychwanegol am wneud hynny. Dyma’ch opsiynau posibl isod ar gyfer benthyciadau anwarantedig ac ychydig o offer i’ch helpu i gymharu costau.
Ad-dalu benthyciadau â chynilion
Mae hi bron bob amser yn gwneud synnwyr ad-dalu unrhyw fenthyciadau sy’n ddyledus gan ddefnyddio’ch cynilion - ar yr amod nad yw’r costau ad-dalu’n gynnar yn rhy uchel. A thalwch ddyledion eich benthyciad drutaf yn gyntaf bob tro.
Darganfyddwch fwy yn yn ein canllaw A ddylech gynilo neu ad-dalu benthyciadau a chardiau credyd?
Isod mae rhai gwahanol opsiynau ar gyfer lleihau cost gyffredinol eich benthyciadau hyd yn oed os na allwch eu had-dalu’n llawn eto.
Mae’r opsiynau hyn orau ar gyfer lleihau cost benthyciadau anwarantedig. Dyma fenthyciadau na fydd angen rhywbeth fel gwarant rhag ofn na fyddwch yn gallu talu’r benthyciad yn ôl.
Ad-dalu eich benthyciad yn gynnar
Mae rhaid i'ch darparwr benthyciad ganiatáu i chi ad-dalu'ch benthyciad personol yn gynnar. Ond gallant gynnig tâl ad-dalu cynnar o log o ryw fis i ddau fis.
Mae rhaid nodi unrhyw ffioedd ad-dalu cynnar yn eich cytundeb benthyciad.
Gall y mwyafrif o bobl wneud taliadau cynnar llawn neu rannol o hyd at £8,000 y flwyddyn heb gael eu taro â ffioedd cosb.
Os oes mwy na blwyddyn ar ôl ar y cytundeb benthyciad, caiff y tâl cosb uchaf ei gapio ar 1% o'r swm sy'n cael ei ad-dalu'n gynnar, dros £8,000.
Os ydych ym mlwyddyn olaf y cytundeb benthyciad, mae'r gosb am ad-dalu mwy nag £8,000 wedi'i chapio ar 0.5%.
Os gwnaethoch gymryd y benthyciad rhwng mis Mehefin 2005 a mis Chwefror 2011, mae'r rheolau ychydig yn wahanol. Mae gordaliadau ar y benthyciadau hyn yn destun cosbau o ddim mwy na deufis o log.
Symud i fenthyciad llog isel neu gynllun byrrach
Os nad oes gennych unrhyw gynilion, efallai y gallwch dalu eich benthyciad yn llawn ac yn rhatach â benthyciad arall – er enghraifft, lle gallwch gael cyfradd is, cynllun byrrach, neu’r ddau.
Enghraifft 1 – Faint gallech ei arbed drwy newid i gyfradd llog ratach
Swm yn ddyledus | £5,000 |
---|---|
Cyfnod i dalu’r benthyciad |
3 blynedd |
Cost talu’r benthyciad â chyfradd llog o 15% |
£1,239.76 |
Cost talu’r benthyciad â chyfradd llog o 10% |
£808.09 |
Arbediad trwy newid i fenthyciad â chyfradd llog ratach |
£431.67 |
Enghraifft 2 – Faint gallech ei arbed os byddwch yn lleihau cyfnod y benthyciad
Swm yn ddyledus | £5,000 |
---|---|
Cyfradd llog |
8% |
Cyfnod y benthyciad |
5 mlynedd |
Ad-daliad misol |
£101 |
Cost y llog dros gyfnod y benthyciad |
£1,083 |
Cyfnod newydd y benthyciad |
3 blynedd |
Ad-daliad misol |
£157 |
Cost y llog dros gyfnod y cyfnod |
£640 |
Arbediad drwy newid i fenthyciad â chyfnod byrrach |
£442 |
Fel y gwelwch o’r enghraifft uchod, os ewch am gyfnod byrrach gallai’ch ad-daliad misol gynyddu, ond byddwch yn arbed hyd yn oed mwy mewn llog ac yn ad-dalu’ch benthyciad yn gynt
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio ad-daliad uwch cyn i chi newid.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu cyn newid cynigion
Os ydych yn ystyried newid benthyciadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu nifer o wahanol opsiynau. Y ffordd hawsaf i gymharu benthyciadau yw trwy ddefnyddio'r APR, ond mae angen i chi feddwl hefyd am unrhyw gostau eraill sy'n gysylltiedig.
Darganfyddwch fwy am sut i gymharu benthyciadau yn ein canllaw Benthyciadau personol
Os oes gennych gŵyn am gost ad-dalu’n gynnar
Os am ba bynnag reswm nad ydych yn fodlon â sut y mae darparwyr benthyciadau wedi delio â’ch ad-daliad cynnar, dylech gwyno. Er enghraifft os ydych yn meddwl eich bod yn gorfod talu gormod neu’n cael eich trin yn annheg.
Fel arfer mae'n syniad da cwyno i'ch benthyciwr yn gyntaf. Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch fynd â’ch cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os bydd angen.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu
A ddylech gyfuno’ch dyledion?
Caiff rhai benthyciadau eu hysbysebu’n benodol fel benthyciadau cyfuno dyledion – mae’r rhain yn galluogi i chi gyfuno eich benthyciadau yn un.
Mae’n llawer anos cael benthyciadau cyfuno erbyn hyn. Mae'n bwysig ond ystyried cymryd un allan pan fyddwch wedi archwilio'ch holl opsiynau eraill, yn enwedig os sicrheir y benthyciad yn erbyn eich cartref.
Er y gallant ymddangos yn opsiwn deniadol oherwydd cyfraddau llog ac ad-daliadau is, yn aml gallant gostio llawer mwy na chadw at eich benthyciadau presennol.
Mae hyn oherwydd bod ganddynt dymor ad-dalu llawer hwy na benthyciadau heb eu gwarantu fel rheol. Efallai y byddwch hefyd mewn perygl o golli'ch cartref os yw’r benthyciad wedi’i warantu ac na allwch gadw i fyny â'r ad-daliadau.
Pan fyddwch yn cyfuno’ch dyledion, ceisiwch osgoi cronni mwy o ddyled mewn man arall.
Darganfyddwch fwy am Benthyciadau cyfuno dyledion
Clirio benthyciadau â chardiau credyd
A ydych yn ddisgybledig ynghylch ad-dalu a bod gennych sgôr credyd da? Yna, mae cynlluniau trosglwyddo balans di-log neu log isel ar gael yn achlysurol, sy’n trosglwyddo arian yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc.
Gellir defnyddio hyn wedyn i ad-dalu gorddrafftiau a benthyciadau.
Serch hynny daw’r cynlluniau hyn â ffi. Felly bydd rhaid i chi gyfrifo a fyddai gwneud hyn yn gost effeithiol i chi.
Gwnewch yn siwr y byddwch yn gallu ad-dalu'r ddyled cyn i'r gyfradd llog sero neu isel ddod i ben ac rydych yn gofyn i'ch darparwr benthyciad personol faint y bydd yn ei gostio i dalu'r ddyled yn llawn.
Darllenwch fwy am uwch drosglwyddiadau balans 0% ar wefan MoneySavingExpert
Clirio’ch benthyciad yn gynnar â thaliadau ychwanegol
Mae rhaid i ddarparwyr benthyciadau ganiatáu i chi ad-dalu benthyciad personol yn llawn, ond gall ddod â thâl ad-dalu cynnar o oddeutu 1 i 2 fis o log. Dylid nodi unrhyw ffioedd a sut y cânt eu cyfrif yn eich gwybodaeth a'ch cytundeb benthyciad, fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl os byddwch yn ad-dalu'n gynnar.
O dan y Gyfarwyddeb Credyd Defnyddiwr, gall bron pawb a gymerodd fenthyciadau o fis Chwefror 2011 ymlaen wneud setliadau cynnar rhannol neu lawn o hyd at £8,000 y flwyddyn cyn cael eu taro â ffioedd cosb.
Os oes mwy na blwyddyn ar ôl ar y cytundeb benthyciad, unwaith y bydd mwy na £8,000 wedi'i dalu, yr uchafswm tâl cosb y gellir ei godi yw 1% o'r swm sy'n cael ei ad-dalu'n gynnar.
Os gwneir y math hwnnw o ordaliad ym mlwyddyn olaf y cytundeb credyd, ni all y gosb fod yn fwy na 0.5%.
Mae unrhyw un a gymerodd fenthyciad cyn cyflwyno'r Gyfarwyddeb Credyd Defnyddiwr yn ddarostyngedig i reolau ychydig yn wahanol.
Mae gordaliadau ar fenthyciadau a wnaed rhwng Mehefin 2005 a Chwefror 2011 yn destun cosbau o ddim mwy na deufis o log.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich darparwr benthyciadau yn gyntaf
Fodd bynnag, oni bai bod y darparwr benthyciadau yn ei ganiatáu yn benodol yn y cytundeb, ni chewch ordalu heb rybudd.
Mae rhaid i chi roi rhybudd iddynt eich bod yn gwneud gordaliad a gwneud y gordaliad o fewn 28 diwrnod. Gallwch anfon y taliad heb y rhybudd os dymunwch.
Os anfonwch daliad heb rybudd, gall y darparwr benthyciadau drin y taliad fel un a dderbyniwyd 28 diwrnod yn ddiweddarach (felly byddwch yn talu llog hyd at y pwynt hwnnw).