Er mwyn cael eich derbyn am gerdyn credyd, benthyciad personol, morgais, gorddrafft neu’r rhan fwyaf o ffurfiau credyd eraill yn y DU, fel arfer bydd angen hanes credyd a sgôr credyd da arnoch.
Sut mae dechrau datblygu hanes credyd
Gallwch gymryd rhywfaint o gamau syml i ddechrau datblygu hanes credyd.
Agor a rheoli cyfrif banc
Bydd agor a defnyddio cyfrif cyfredol y DU yn eich helpu i adeiladu’ch hanes credyd oherwydd bydd yn dangos eich bod yn gallu rheoli eich incwm a’ch gwariant yn effeithiol.
Bydd agor a defnyddio cyfrif cyfredol yn gyfrifol yn helpu eich statws credyd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae dewis y cyfrif banc cywir
Trefnu Debydau Uniongyrchol
Awgrym da
Dylech bob amser wneud yn siŵr fod gennych ddigon o arian yn eich cyfrif banc i dalu unrhyw filiau sy’n cael eu talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
Trefnwch rai taliadau Debyd Uniongyrchol rheolaidd i dalu biliau megis eich nwy a thrydan neu’ch yswiriant cartref neu ffôn symudol.
Os ydych yn poeni efallai na fydd digon o arian yn eich cyfrif, neu os yw'ch incwm yn amrywio, efallai mai gwneud taliadau â llaw fyddai'r opsiwn gorau.
Peidiwch â methu taliadau
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’ch biliau i gyd yn brydlon, gan y bydd taliad hwyr neu daliad a fethwyd yn cael ei ddal yn eich erbyn.
Os oes rhaid i’r cwmni fynd i’r llys i gael yr arian, yna bydd dyfarniad llys sirol (neu decree yn yr Alban) yn effeithio’n ddifrifol ar eich gallu i gael credyd a bydd yn parhau ar eich ffeil am chwe blynedd.
Ffactorau a allai eich atal rhag cael credyd
Bydd darparwr benthyciadau yn edrych ar bethau penodol eraill ar wahân i’ch hanes credyd pan fydd yn ystyried eich sgôr credyd ac yn penderfynu a yw am roi benthyciad i chi.
A ydych ar y gofrestr etholwyr
Mae cofrestru i bleidleisio yn y DU yn golygu bod darparwyr benthyciadau yn gallu gwirio eich bod yn byw ble rydych yn dweud eich bod yn byw, felly mae’n bwysig cofrestru.
Os nad yw’ch enw ar y gofrestr etholwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ychwanegu cyn gynted â phosibl.
Gallwch gael gwybod mwy am gofrestru ar wefan Y Comisiwn Etholiadol
Cysylltiadau ariannol â phobl eraill
Awgrym da
Os byddwch yn cau cyfrif ar y cyd, gofynnwch am ‘hysbysiad datgysylltu’ gan yr asiantaeth gwirio credyd i wneud yn siŵr na fydd eich ffeiliau credyd yn cael eu cysylltu.
Os ydych yn ystyried cael cytundeb credyd ar y cyd (megis benthyciad neu forgais) â rhywun arall, gallai ei sgôr credyd effeithio ar eich un chi.
Y rheswm am hynny yw oherwydd y bydd eich ffeil credyd yn cael ei ‘chysylltu’ â ffeil credyd y person arall, a gall darparwr benthyciadau edrych ar ffeil y person hwnnw yn ogystal â’ch ffeil chi os byddwch yn gwneud cais am gredyd.
Er enghraifft, os bydd y person hwnnw’n peidio gwneud ad-daliadau ar gardiau credyd neu fenthyciadau eraill, gallai hynny niweidio eich statws credyd chi.
Dyna pam ei bod yn bwysig dod â chysylltiadau ariannol â chynbartneriaid i ben drwy gau unrhyw gyfrifon ar y cyd sydd gennych o hyd a chysylltu â’r asiantaeth gwirio credyd i ofyn am ‘hysbysiad datgysylltu’ i wneud yn siŵr na fydd eich ffeiliau credyd yn cael eu cysylltu â’i gilydd.
Gall eich sgôr credyd effeithio ar gost benthyca
Gallai eich sgôr credyd ddylanwadu hefyd ar y gyfradd llog a’r APR y codir arnoch am unrhyw fenthyca, a’r swm y gallwch ei fenthyg
Darllenwch ein canllaw Sut mae eich statws credyd yn effeithio ar gost cael benthyg arian
Gwirio eich adroddiad credyd
Gall gwirio'ch adroddiad credyd yn rheolaidd eich helpu i weld i ba gyfeiriad mae'ch sgôr yn mynd a nodi unrhyw wybodaeth anghywir.
Darganfyddwch mwy yn ein canllaw Sut i wirio eich adroddiad credyd
Pethau i’w hystyried cyn i chi fenthyg arian
Os ydych am wneud cais am gredyd ar ôl i chi adeiladu hanes credyd, mae rhai pethau i'w hystyried.
Yn bwysicaf oll, a oes angen i chi fenthyg arian? Gall cymryd credyd a chadw i fyny ag ad-daliadau wella'ch sgôr credyd. Ond os byddwch yn colli taliadau bydd eich sgôr yn gostwng a gallai hyn effeithio ar eich siawns o fenthyca arian yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Oes angen i chi gael benthyg arian?
Os oes angen i chi fenthyg arian a'ch bod yn siŵr y gallwch fforddio'r ad-daliadau, efallai y byddai'n syniad da meddwl pa fath o gredyd rydych ei eisiau. Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, megis faint sydd ei angen arnoch, pa mor hir am eich amgylchiadau personol a'ch amgylchiadau personol
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Penderfynu ar y math gorau o gredyd i chi
Mae'n bwysig bod yn ofalus ynghylch sut rydych yn gwneud cais am gredyd. Bydd gwneud cais am ormod o gynhyrchion o fewn cyfnod byr yn effeithio'n negyddol ar eich statws credyd a bydd yn gwneud benthycwyr yn llai tebygol o dderbyn eich cais. Ond efallai na fydd rhai darparwyr credyd ond yn cynnal chwiliad meddal cyn gwneud cais am gredyd.
Mae gwiriad credyd meddal yn caniatáu i fenthyciwr gael golwg gychwynnol ar wybodaeth a gedwir ar eich adroddiad credyd. Yna byddant yn penderfynu pa mor llwyddiannus fyddai'ch cais heb archwiliad llawn o'ch hanes credyd. Oherwydd nad ydynt yn gadael ôl troed ar eich adroddiad credyd, ni all benthycwyr weld y chwiliadau hyn ac nid ydynt yn effeithio ar eich statws credyd
Gwneud cais am gredyd
Cyn i chi ddechrau llenwi ffurflen gais, gwnewch yn siŵr fod gennych y canlynol wrth law:
- enw a chyfeiriad eich cyflogwr
- manylion eich cyfrif banc neu’ch cymdeithas adeiladu
- eich incwm misol neu flynyddol a chyfeirnod talu
Efallai y gofynnir i chi hefyd am fanylion ymrwymiadau credyd cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau credyd a symiau sy’n weddill, a gwariant arall.
Efallai yr hoffech lunio rhestr o’r arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan bob mis.