Pan rydych chi’n cael benthyg arian, mae’n bwysig deall faint y mae’r gwahanol opsiynau yn ei gostio a sut maent yn gweithio. Mae angen ichi wybod hefyd sut mae’r costau hynny’n amrywio yn ôl y swm rydych yn ei fenthyg a hyd y benthyciad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw’r opsiwn credyd gorau i chi?
Rheswm dros gael benthyg arian | Ystyriwch | Awgrymiadau da |
---|---|---|
Rwyf am brynu rhywbeth ar gredyd a chael hyblygrwydd wrth ei dalu'n ôl |
Cerdyn credyd |
|
Mae gen i ddyled bresennol yr wyf am ei thalu mor rhad â phosibl |
Trosglwyddo balans neu gerdyn trosglwyddo balans arian |
Darganfyddwch fwy: |
Hoffwn gael benthyg rhywfaint o arian ond fy mod yn talu swm penodol yn ôl bob mis |
Benthyciad personol |
|
Dim ond ychydig o arian dros gyfnod byr yr wyf am gael ei fenthyg |
Gorddrafft |
Darganfyddwch fwy yn: |
Hoffwn ddelio â’m dyledion yn y ffordd rataf a hawsaf bosibl |
Benthyciad cyfuno dyledion |
Darganfyddwch fwy yn: |
Ble gallaf gael benthyciad rhwng £100 a £1,000 os oes gennyf sgôr credyd isel? |
Undebau credyd
Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFIs) Mae CDFIs, a elwir hefyd yn ddarparwyr cyllid cyfrifol, yn cynnig credyd hyblyg a chyflym i'r rhai sy'n gallu fforddio ad-dalu ac fel arfer yn gwasanaethu'r DU gyfan trwy fenthyca ar-lein. Bydd rhai hefyd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol fel gwirwyr hawl i fudd-daliadau a mynediad at apiau rheoli arian. |
Darganfyddwch fwy: |
Rwy'n byw ar fudd-daliadau a/ neu'n ei chael hi'n anodd talu fy nyledion a chostau byw ond ni allaf gael mwy o gredyd |
Benthyciad di-log rydych chi'n ei dalu'n ôl o'ch budd-daliadau neu help gan eich awdurdod lleol (neu lywodraethau'r Alban a Chymru) |
Darganfyddwch fwy yn: |