Gall symud ymlaen â'ch bywyd ar ôl i berthynas chwalu olygu trefnu eich cyllid. Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth i'w wneud os yw'ch partner yn niweidio'ch sgôr credyd, a sut i ddelio â benthyciadau ar y cyd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cymryd rheolaeth o’ch sgôr credyd
Pan rydych yn defnyddio unrhyw fath o gredyd - fel gorddrafft, cerdyn credyd, cytundeb ffôn symudol, cyfrif siop, benthyciad, neu forgais - mae'r manylion yn cael eu cofnodi ar eich adroddiad credyd, sy'n rhoi sgôr credyd i chi.
Gellir effeithio ar eich sgôr credyd os ydych, er enghraifft, yn methu ad-daliad, yn mynd dros eich terfyn credyd, neu'n cymryd credyd newydd.
Gallai sgôr credyd isel effeithio ar eich gallu i wneud cais am gredyd, gan gynnwys morgeisi, ac i gael mynediad at wasanaethau eraill fel cytundebau ffôn symudol yn eich enw eich hun. Gall hefyd olygu colli allan ar fargeinion rhatach.
Sut i ofalu am eich sgôr credyd unigol
Gallai eich sgôr credyd personol newid oherwydd gwahanu, yn enwedig os yw'ch partner wedi cymryd credyd yn eich enw neu os ydych chi wedi cael cyfrif banc, benthyciad neu forgais neu gymdeithas adeiladu ar y cyd - oherwydd bydd eich adroddiadau credyd yn gysylltiedig.
Os oes gennych ddyledion ar gyllid ar y cyd, dywedwch wrth eich credydwyr am eich sefyllfa. Efallai y bydd yn rhaid i chi gau rhai cyfrifon. Cofiwch, byddwch yn dal i fod yn atebol i dalu unrhyw symiau sy'n ddyledus, ond dylai cau cyfrifon atal y dyledion rhag cynyddu.
Os gallwch, siaradwch â'ch partner am sut rydych am ddelio â'ch cyllid. Os na allwch gytuno, gallai defnyddio cyfryngu helpu. Gallwch ddarganfod mwy am gyfryngu gan Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes gennych gerdyn credyd neu siop ar y cyd, gallwch naill ai ofyn i'ch cynbartner roi'r cerdyn yn ôl i chi, neu gysylltu â'r cwmni cardiau a darganfod beth sydd angen i chi ei wneud i rwystro'r cerdyn neu gael gwared ar eich cynbartner o'ch cyfrif. Gwiriwch gyda benthycwyr eich cerdyn credyd a cherdyn siop i ddarganfod a yw'ch partner wedi'i restru fel deiliad cerdyn awdurdodedig.
Gallwch ddefnyddio'ch adroddiad credyd i wirio a oes unrhyw ddyledion yn gysylltiedig â’ch enw. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob asiantaeth cyfeirio credyd (CRAs) ddarparu copi o'ch adroddiad credyd i chi am ddim. Gallwch ofyn i CRA ddiweddaru eich adroddiad credyd ar ôl i'r holl gyfrifon ar y cyd cau.
Os credwch y gallai eich partner ddefnyddio'ch manylion yn y dyfodol, gall y CRA ychwanegu cyfrinair NOC (rhybudd cywiro) i'ch cyfrif. Bydd angen i chi ddefnyddio'r cyfrinair hwn i wneud unrhyw geisiadau am gredyd newydd.
Cael help gyda dyledion
Os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner ac mae gennych arian yn ddyledus, mae yna bethau gallwch ei wneud.
Help gyda gorddrafftiau a benthyciadau banc
Os oes gennych chi a'ch cynbartner gyfrif banc ar y cyd, ceisiwch gytuno â nhw am yr hyn yr hoffech ei wneud ag ef. Mae'n syniad da cysylltu â'ch banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted ag y gwyddoch y byddwch chi'n gwahanu.
Dyma rai pethau i'w hystyried:
Newidiwch y ffordd y mae'r cyfrif wedi'i sefydlu, fel bod yn rhaid i'r ddau ohonoch gytuno i unrhyw newidiadau, fel arian yn cael ei dynnu allan neu derfynau gorddrafft yn cael eu cynyddu.
Sicrhewch fod eich cyflogau neu'ch budd-daliadau’n mynd i gyfrif yn eich enw chi yn unig yn y dyfodol.
Gofynnwch i'r banc atal bancio ar-lein a ffôn ar unrhyw gyfrif ar y cyd.
Gweithiwch allan sut y byddwch chi'n talu biliau sy'n cael eu talu o'ch cyfrif ar y cyd. Efallai eich bod yn cytuno i barhau i dalu rhai biliau - er enghraifft, eich rhent neu'ch morgais.
Gallwch rewi'r cyfrif os ydych chi'n poeni y bydd eich cynbartner yn tynnu arian allan. Gall un ohonoch ofyn i’r banc rewi cyfrif, ond fel rheol mae’n rhaid i’r ddau ohonoch lofnodi llythyr i ddweud eich bod ei eisiau ‘heb ei rewi’. Ystyriwch unrhyw broblemau y gallech eu hwynebu os daw debydau uniongyrchol neu orchmynion sefydlog allan o'r cyfrif, neu os gwnewch daliadau rheolaidd ohono - er enghraifft, eich morgais neu rent, biliau neu siopa bwyd.
Caewch y cyfrif, os nad oes gennych lawer o arian ynddo neu os na fyddwch yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Rhaid i'r ddau ohonoch gytuno - fel arfer yn ysgrifenedig - i gau cyfrif ar y cyd. Ni fyddwch yn gallu gwneud hyn nes bod unrhyw orddrafft wedi'i ad-dalu.
Os oes gennych sgôr credyd isel sy'n eich atal rhag agor cyfrif newydd, efallai y gallwch chi gael cyfrif banc sylfaenol heb ffi.
Help gyda morgeisi
Os ydych yn gofyn am newidiadau i'ch morgais, siaradwch â'ch benthyciwr i weld beth allan nhw ei wneud i'ch helpu. Os yw'ch morgais yn eich enwau ar y cyd bydd angen i’r ddau ohonoch gytuno i unrhyw newidiadau. Bydd angen i'ch cwmni morgais wirio a yw'r newidiadau yn fforddiadwy ac yn cwrdd â gofynion cyfreithiol eraill cyn cytuno iddynt.
Os oes angen, gallwch ofyn i'ch benthyciwr morgais anfon datganiadau gyda'r balans a'r wybodaeth dalu i gyfeiriad arall.
Help gyda rhentu
Os ydych yn byw mewn llety rhent, dylech ddweud wrth eich landlord am eich sefyllfa sydd wedi newid.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Lloegr - os yw'r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cynbartner, ac maent yn symud allan, efallai y gallwch barhau i dalu'r rhent (er mwyn osgoi ôl-ddyledion a bygythiad troi allan). Ond byddai'n dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych, ac a yw'ch landlord yn landlord sector preifat neu gymdeithasol.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon - os yw'r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cynbartner, maen nhw'n atebol i barhau i dalu'r rhent.
Beth os ydyn nhw wedi symud allan ac nad ydyn nhw bellach yn talu'r rhent - tra'ch bod chi'n dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil? Yna efallai bydd gennych yr hawl i fyw yn yr eiddo a thalu rhent.
Siaradwch â'ch landlord am gael eich enw ar y cytundeb tenantiaeth gan y bydd yn rhoi mwy o amddiffyniad i chi.
Os ydych yn byw yn yr Alban - os yw'r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cyn-bartner, mae gennych yr hawl i fyw yn y cartref fel petaech yn denant gyda'ch plant (hyd yn oed os ydyn nhw'n oedolion).
Ni all eich cynbartner ddod â'r denantiaeth i ben heb eich cytundeb ysgrifenedig.
Help gyda biliau
Os ydych chi, neu'ch cynbartner, yn symud allan o gartref a rennir, cymerwch ddarlleniadau mesurydd ar gyfer nwy a thrydan - felly ni chodir tâl ar yr unigolyn sy'n symud allan am ynni nad ydynt wedi'i ddefnyddio.
Dylai cymryd drosodd cyfrif a oedd yn eich enw chi a'ch cyn-bartner fod yn hawdd. Fel rheol, gallwch wneud hyn ar-lein neu dros y ffôn. Cofiwch, byddwch chi a'ch cyn-bartner yn gyfrifol am dalu unrhyw arian sy’n ddyledus gennych hyd at y pwynt hwnnw.
Os ydych am gymryd drosodd bil sydd yn enw eich cynbartner, bydd yn rhaid cau'r hen gyfrif a sefydlu un newydd.
Efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau ar gyfer rhent os bydd partner yn symud allan. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw canllaw Eich hawliau i’ch cartref rhentu yn ystod ysgariad neu ddiddymiad.
Os ydych yn byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.