Mae'r rhan fwyaf o gyfarwyddebau'r UE ynghylch hawliau defnyddwyr bellach wedi'u hymgorffori yng nghyfraith y DU. Darganfyddwch yr hyn y mae angen i chi ei wybod am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich hawliau a'ch amddiffyniadau i ddefnyddwyr.
Ydy amddiffyniad ad-daliadau o dan adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn dal i fod yn berthnasol i nwyddau a gwasanaethau a brynwyd â'm cerdyn credyd o’r DU ar ôl Brexit?
Bydd, mae adran 75 yn ddeddfwriaeth gan y DU - felly nid yw'r DU yn gadael yr UE yn effeithio arni.
Mae'n golygu y gallwch wneud cais am ad-daliadau gan eich darparwr cerdyn credyd os yw manwerthwr neu fasnachwr yn torri contract neu'n camliwio nwyddau neu wasanaethau.
Mae adran 75 hefyd yn berthnasol i drafodion tramor yn ogystal â nwyddau a brynir ar-lein, dros y ffôn neu drwy archeb bost i'w danfon i'r DU o dramor.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio ar gyfer eich cerdyn credyd a debyd
Pa amddiffyniad sydd gennyf wrth brynu nwyddau a gwasanaethau dramor?
Gwiriwch delerau amddiffyn defnyddwyr a gynigir gan y gwerthwr a gwlad y gwerthwr yn yr UE bob amser i weld a yw lefel yr amddiffyniad yn wahanol i lefel y DU.
A gwiriwch pa gyfraith lywodraethol sy’n berthnasol, gan na fyddwch yn cael eich amddiffyn yn yr un ffordd â phe byddech yn prynu gan fanwerthwr o'r DU.
Mae'n annhebygol y byddwch yn gallu gorfodi'ch hawliau cyfreithiol yn yr UE trwy lysoedd y DU.