Gall rhai cardiau credyd a benthyciadau ddod â ffioedd uwch na mathau eraill o fenthyca.
Taliadau talu hwyr
Os gwnewch daliad ar gerdyn credyd neu fenthyciad ar ôl ei ddyddiad dyledus neu'n colli'r taliad yn gyfan gwbl, fel rheol bydd rhaid i chi dalu tâl talu'n hwyr.
Gall hyn hefyd effeithio ar eich sgôr credyd, sy'n golygu y gallai fod yn anos benthyg arian yn y dyfodol.
Cost: Ni ddylai hyn fod yn fwy na £12. Mae unrhyw tâl sy'n fwy na hyn yn debygol o gael ei ystyried yn annheg.
Os ydych yn poeni am anghofio taliadau, yna ystyriwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i'ch benthyciwr neu'ch darparwr.
Os yw'ch incwm yn amrywio o fis i fis, gallai gwneud taliadau â llaw fod yn ffordd well o sicrhau bod gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i wneud y taliad.
Taliadau am fynd dros eich terfyn credyd
Os ewch dros eich terfyn credyd y cytunwyd arno ar eich cerdyn credyd, bydd rhaid i chi dalu tâl hefyd.
Bydd hefyd yn ymddangos yn eich hanes credyd a gallai arwain at ostwng eich terfyn credyd.
Cost: Ni ddylai hyn fod yn fwy na £12. Mae unrhyw arwystl sy'n fwy na hyn yn debygol o gael ei ystyried yn annheg.
Mae'n bwysig eich bod yn gwybod faint o gredyd sydd ar ôl ar eich cerdyn bob mis - gwiriwch eich balans ar-lein neu ar y ffôn.
Ffi taliad dychweledig
Os yw'ch cwmni cardiau credyd yn ceisio cymryd taliad trwy Debyd Uniongyrchol neu siec, ond nid oes gennych ddigon o arian i'w dalu, codir ffi taliad dychweledig arnoch.
Cost: hyd at £12
Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn gwybod pryd mae'ch ad-daliad misol yn ddyledus a bod gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i'w dalu. Os ydych yn poeni am beidio â chael digon o arian yn eich cyfrif, efallai mai gwneud taliadau â llaw fyddai'r opsiwn gorau
Ffioedd tynnu arian
Byddwch yn wyliadwrus
Nid oedd dros ddwy ran o dair o'r bobl a dynnodd arian parod cardiau credyd yn gwybod faint yr oedd wedi ei gostio iddynt. Peidiwch â bod yn un ohonynt!
Ffynhonnell: uSwitch.com
Mae defnyddio'ch cerdyn credyd i dynnu arian o beiriant arian parod yn syniad drwg.
Yn aml, codir ffi ganrannol arnoch â lefel lleiafswm (fel arfer £2 – £3) ynghyd â llog o'r diwrnod tynnwch yr arian.
Tra bo gwariant ar gerdyn credyd fel arfer yn cael cyfnod di-log os ydych yn ad-dalu'n llawn ar ddiwedd pob mis.
Bydd y gyfradd llog y byddwch yn ei thalu am arian parod hefyd yn uwch na'r gyfradd wario.
Ceisiwch osgoi tynnu arian parod gan ddefnyddio'ch cerdyn credyd. Os ydych yn ei chael yn anodd talu'ch biliau, siaradwch â'r cwmnïau a dywedwch wrthynt eich sefyllfa.
Ffioedd cerdyn segur
Cofiwch
Gwiriwch delerau ac amodau eich cytundeb cerdyn credyd i weld a yw hyn yn berthnasol i chi a chanslo unrhyw gardiau nad ydych yn eu defnyddio mwyach neu eu newid i un nad yw'n codi ffi cerdyn segur.
Mae rhai cwmnïau cardiau credyd yn codi ffi arnoch am beidio â defnyddio'ch cerdyn am gyfnod o amser.
Gelwir hyn yn ffi cerdyn segur ac mae'n amrywio gan ddibynnu ar y cwmni cardiau.
Cost: £2 – £20, gan ddibynnu ar y cwmni cardiau.
Defnyddio cerdyn credyd dramor
Gall defnyddio'ch cerdyn credyd dramor hefyd fod yn ddrud iawn.
Pan fyddwch yn talu am rywbeth, mae tâl o'r enw ffi llwytho yn cael ei ychwanegu at y gyfradd gyfnewid gan eich banc.
Unwaith y bydd eich banc yn ychwanegu hyn, ni fydd eich cyfradd gyfnewid mor ffafriol.
Efallai na fydd y ffi llwytho yn ymddangos ar eich datganiad chwaith, felly nid ydych hyd yn oed yn gwybod eich bod yn ei dalu oni bai eich bod yn gwirio'ch telerau ac amodau.
Os ydych yn defnyddio'ch cerdyn credyd i dynnu arian parod dramor, yn ogystal â'r ffi llwytho, byddwch fel arfer yn talu ffi ATM a allai fod yn uwch nag yn y DU, ynghyd â llog ar y swm a dynnwyd yn ôl ar unwaith.
Ond gall costau defnyddio'ch cerdyn dramor amrywio, â rhai yn rhatach nag eraill.
Dim mwy o ffioedd am dalu â’ch cerdyn credyd
Ers mis Ionawr 2018, ni ellir codi tâl ychwanegol arnoch am ddefnyddio cerdyn credyd wrth brynu.
Mae'n bwysig cwyno i'r masnachwr os ydynt yn codi mwy arnoch a gofyn am i'r tâl gael ei ad-dalu.
Taliadau cardiau credyd annheg
Os codwyd mwy na £12 arnoch am ffioedd talu'n hwyr neu fynd dros eich terfyn credyd gallwch edrych i hawlio'r gwahaniaeth rhwng yr hyn a godwyd arnoch a'r ffigur o £12 gan na all darparwyr cardiau credyd yn gyfreithiol godi mwy. Gallwch fynd yn ôl chwe blynedd ac adennill gan ddarparwyr cardiau credyd cyfredol a hen.
Am fwy o wybodaeth, gwelwch ein canllaw Adennill costau cerdyn credyd annheg
Torri cost eich benthyca
Mae ffyrdd eraill y gallwch dorri costau eich cerdyn a'ch benthyciad.