Gall gwerth car newydd ddisgyn ar gyfradd syfrdanol, er bod hyn yn amrywio ar draws gweithgynhyrchwyr a modelau. Dargafyddwch sut y gallwch ei leihau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw dibrisiant car?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae’n debygol mai tanwydd fydd eich cost fwyaf am redeg car ddydd-i-ddydd, ond y peth a fydd yn llosgi arian parod mewn gwirionedd yw dibrisiant.
Yn ôl ymchwil gan CAP Automotive, bydd dibrisiant yn costio deirgwaith cymaint i’r modurwr nodweddiadol ag y mae’n ei wario wrth y pwmp petrol.
Dibrisiant yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth car pan ydych yn ei brynu a’i werth pan benderfynwch ei werthu.
Mae’r gostyngiad hwn mewn gwerth yn amrywio rhwng gwneuthuriadau a modelau, ond fel arfer mae rhwng 15–35% yn y flwyddyn gyntaf a hyd at 50% neu’n fwy dros dair blynedd.
Dywed arbenigwyr costau moduro CAP Automotive bod dewis car sy’n cadw ei werth yn dda’n cyflenwi arbedion llawer mwy dros gyfnod o amser na chanolbwyntio ar effeithlondeb tanwydd.
Er enghraifft, bydd car teulu nodweddiadol o faint canolig a brynwyd dair blynedd yn ôl wedi colli £12,559 mewn gwerth erbyn hyn.
Ond bydd costau tanwydd y car yn ystod y tair blynedd wedi bod oddeutu £4,000 yn unig, yn seiliedig ar 12,000 o filltiroedd y flwyddyn.
Beth sy’n effeithio ar gyfradd dibrisiant car?
Dyma’r rhesymau pam bod rhai ceir yn dibrisio’n gyflymach na’r lleill:
- Milltiroedd – mae’r milltiroedd cyfartalog oddeutu 10,000 y flwyddyn. Po fwyaf y milltiroedd, po leiaf yw gwerth eich car.
- Dibynadwyaeth – mae gan rai ceir enw gwael am beidio bod yn ddibynadwy. Gallai hyn fod yn seiliedig ar arolygon ynghylch boddhad cwsmeriaid.
- Nifer o berchnogion – gorau po leiaf. Gwiriwch y nifer o berchnogion blaenorol ar lyfr cofrestru neu gofrestriad V5C y car.
- Cyflwr cyffredinol – bydd niwed i’r corff, y tu mewn ac y tu allan yn lleihau’r gwerth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn archwilio car ail-law yn ofalus cyn prynu.
- Hanes gwasanaethu – gorau po fwyaf cyflawn yw hwn. Dylai’r llyfr gwasanaethu fod â stampiau neu dderbynebau yn dangos gwasanaethau yn unol ag argymhellion y gweithgynhyrchwr.
- Hyd y warant – mae tair blynedd yn dda, ond erbyn hyn mae rhai gweithgynhyrchwyr yn cynnig cymaint â saith mlynedd, sy’n fonws wrth werthu’ch car.
- Dymunoldeb – mae rhai modelau’n cael eu ‘diweddaru’ neu eu disodli bob ychydig o flynyddoedd, tra bod rhai’n mynd ymlaen am 10 mlynedd neu fwy. Po ddiweddaraf y model, po orau y bydd yn cadw ei werth.
- Maint – mae ceir moethus mawr yn tueddu i ddibrisio’n fwy na cheir llai gan eu bod yn costio mwy i’w rhedeg ac mae ganddynt filiau uwch am gyfrannau a chynhaliaeth.
- Economi tanwydd – gorau po fwyaf y milltiroedd y galwyn ar gyfer llawer o brynwyr.
- Mae’r swm o dreth ffordd sy’n daladwy hefyd yn ystyriaeth. Mae ceir sy’n llyncu tanwydd yn costio llawer mwy i’w trethu bob blwyddyn, sy’n sicrhau eu bod yn llai deniadol wrth eu gwerthu fel ceir ail-law. Os ydych yn Llundain, ac nad yw'ch car yn cwrdd â'r safonau allyriadau ar gyfer yr ULEZ, gallai hefyd effeithio ar ei werth. Darganfyddwch fwy ar wefan TfL
Awgrymiadau ar gyfer cadw dibrisiant at isafswm
- Cadwch y milltiroedd i lawr.
- Gofalwch am eich car a thrwsiwch unrhyw niwed cyn gynted â phosibl.
- Prynwch gar sydd bron yn newydd neu gar ail-law i osgoi’r dibrisiant mwyaf.
- Osgowch addasiadau fel arafwyr, olwynion llydan a bwâu ymledol ar olwynion.
- Gwerthwch ar adeg iawn y flwyddyn – er enghraifft, ceir codi to yn yr haf a 4x4s yn y gaeaf.
- Cadwch at liwiau poblogaidd – efallai y bydd arlliw beiddgar yn ddeniadol i chi, ond bydd yn cynhyrfu llawer o brynwyr pan ydych am werthu’ch car.
- Ystyriwch brydlesu yn hytrach na phrynu – yna ni fydd rheswm i boeni ynghylch dibrisiant y car, a gaiff ei gynnwys yn eich taliadau misol.
- Gwnewch eich gwaith ymchwil cyn prynu car - gweld faint o mae gwerth wedi mynd i lawr ar fodelau hŷn a cherbydau tebyg gan yr un gwneuthurwr.
- Dewiswch yr opsiynau iawn pan ydych yn prynu – er enghraifft, mae paent metalig a lledr yn well ar geir uwchraddol, tra bod llywio â lloeren ac awyru yn ddymunol ar geir y brif ffrwd.
- Cynhaliwch eich car yn dda – mae hanes gwasanaethu llawn yn rhoi tawelwch meddwl i brynwyr posibl. Felly cofiwch gadw’ch holl ddogfennau car gan gynnwys cofnodion gwasanaethu a derbynebau’n ddiogel ac mewn un lle.
- Gwerthwch eich car ymhell cyn bod ei fodel amnewid yn cyrraedd yn yr ystafelloedd arddangos. I gael y newyddion diweddaraf, darllenwch gylchgronau a gwefannau moduro fel What Car?, Autocara Carbuyer