Os ydych ar dariff amrywiol, gall newid i dariff sefydlog eich diogelu rhag codiad prisiau ynni yn y dyfodol. Darganfyddwch sut i newid eich cyflenwr ynni.
A ddylwn i newid i fargen sefydlog ar hyn o bryd?
Bydd y cap yn cael ei adolygu ym mis Ebrill 2022
Parthed: cwsmer rhagdalu, gweler yr adran isod
Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghyflenwr ynni yn mynd i'r wal?
Er mai anaml y bydd cyflenwr ynni mawr yn mynd i’r wal, mae llawer o gwmnïau ynni bach wedi mynd i’r wal yn ystod 2021.
Os yw eich cyflenwr ynni wedi rhoi’r gorau i fasnachu, mae’n bwysig peidio gweithredu’n syth, peidiwch â newid ac aros nes bydd eich darparwr newydd yn cysylltu â chi. Ofgem fydd yn dewis eich cyflenwr newydd, a gall hynny gymryd sawl wythnos. Gallai'r broses hon gymryd mwy o amser os oedd cyflenwr mwy fel Bulb gennych , ond dylent ddal i fod mewn cysylltiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Darganfyddwch fwy am yr hyn y gallwch ei wneud fel cwsmer Bulb ar wefan Ofgem
Os ydych eisoes yn y broses o newid, bydd eich newid yn parhau i fynd drwodd.
Sicrhewch eich bod yn cymryd darlleniad mesurydd fel eich bod yn barod pan fydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi.
Mae hefyd yn werth cadw hen filiau ynni ac aros nes bod eich cyflenwr newydd wedi’i benodi cyn canslo unrhyw Ddebyd Uniongyrchol.
Os oeddech mewn dyled i'ch hen gyflenwr, yna bydd yn rhaid i chi dalu hwn o hyd ond efallai y bydd yn rhaid i chi ei dalu i'ch cyflenwr newydd. Arhoswch i'ch cyflenwr newydd gysylltu â chi.
Os oeddech mewn credyd gyda'ch cwmni ynni, yna mae'r un peth yn wir: byddwch yn cael yr arian yn ôl, ond dylech aros i'ch cyflenwr newydd gysylltu â chi.
Gwybod beth sydd gennych
Mae’n werth ddod o hyd i’ch biliau nwy a thrydan. Yna gwiriwch pwy sy’n cyflenwi eich nwy a thrydan. A darganfyddwch enw eich tariff. Ceisiwch ddarganfod faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio bob blwyddyn.
Os ydych fel arfer yn cael Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gwnewch yn siŵr bod y cyflenwr rydych yn newid iddo yn cynnig y gostyngiad.
Darganfyddwch fwy am y Disgownt Cartref Cynnes yn yr adran ‘Help â chostau gwresogi’ ein canllaw budd-daliadau ymddeoliad
Mynd ar y safleoedd cymharu
Gall defnyddio gwefan eich helpu i gymharu prisiau i gael y cynnig ynni gorau sy’n addas i’ch amgylchiadau.
Mae gan Ofgem restr o wefannau cymharu prisiau sydd wedi’u hachredu. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y bydd y mwyafrif o wefannau cymharu prisiau yn ‘cuddio’ o’u canlyniadau chwilio unrhyw dariffau neu gwmnïau ynni sydd ddim yn eu talu i gael eu dangos. Mae hyn yn golygu na welwch y tariffau rhataf y gallech eu cael.
Mae MoneySavingExpert a Which? gyda ‘clybiau newid ynni’ eu hunain nad ydyn nhw’n cuddio unrhyw dariffau neu gwmnïau ynni rhag eich canlyniadau felly mae’n werth edrych ar y rhain cyn defnyddio’r gwefannau cymharu prisiau sydd wedi’u hachredu gan Ofgem.
Fel bonws, ar gyfer llawer o dariffau, bydd y clwb newid ynni yn eich tywys drwy’r broses gyfan, o lenwi manylion o’ch bil ynni cyfredol, i chwilio’r farchnad gyfan i ddod o hyd i fargen well i chi a chysylltu â’r un newydd o’ch dewis i wneud y newid.
Darganfyddwch fwy am y rhain ar wefannau MoneySavingExpert Cheap Energy Club a Which? Switch service
Gallwch hefyd wirio’r safleoedd cymharu prisiau wedi eu hachredu gan Ofgem ar wefan Ofgem
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, defnyddiwch y Consumer Council (Opens in a new window)
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng tariffau sefydlog ac amrywiol?
Bydd angen i chi ddewis rhwng tariffau sefydlog ac amrywiol.
Mae tariff sefydlog yn rhoi tawelwch meddwl. Mae hyn oherywdd na fydd y pris fyddwch yn ei dalu am bob uned o ynni, ac unrhyw daliadau sefydlog, yn newid am gyfnod penodol.
Byddwch yn cael eich diogelu os bydd prisiau yn codi - ond ni fyddwch yn elwa yn y sefyllfa anhebygol o brisiau yn gostwng.
Efallai y byddwch hefyd yn wynebu ffi gadael os ydych eisiau newid cyflenwyr cyn diwedd eich cynnig.
Bydd gwefannau cymharu eisiau gwybod faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio, p’un ai mewn punnoedd a wariwyd neu kilowatiau (kwh) a ddefnyddiwyd.
Ond peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod, gan y gallant wneud bras amcan yn seiliedig ar faint eich tŷ, faint o bobl sy’n byw yno, a’r offer rydych yn eu defnyddio.
Gyda thariff cyfradd amrywiol, mae eich biliau’n codi ac yn gostwng yn seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd yn y farchnad ynni. Os bydd prisiau ynni yn gostwng, bydd eich bil yn gostwng, ac os byddant yn codi, bydd angen i chi fod yn barod i dalu costau uwch.
Nid yw “tariffau ynni gwyrdd newidiol safonol” yn cael eu diogelu gan gap prisiau Ofgem, dim ond tariffau cyfradd amrywiol safonol neu ddiofyn sydd. Gallwch ofyn i’ch cyflenwr os nad ydych yn siŵr.
Ar fesurydd rhagdaledig?
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig, gallwch newid o hyd os bydd yn arbed arian i chi.
Nid oes un o’r chwe chwmni ynni mawr yn codi ffi i newid fesuryddion rhagdaledig i fesuryddion credyd, sy’n tueddu i fod yn rhatach.
Byddant yn debygol o redeg gwiriad credyd arnoch er hynny, a bydd rhaid bod eich cyfrif ynni heb unrhyw ddyled.
Os hoffech, neu bod rhaid i chi, aros â mesurydd rhagdaledig – gallwch wirio o hyd i weld a oes cynnig rhatach gallwch newid iddo.
Pethau defnyddiol i'w gwybod
Mynd ati i ddarllen
Mae’n werth darllen eich mesurydd nwy a thrydan, a’u gwirio yn erbyn eich biliau diweddaraf.
Sicrhewch bod eich biliau’n gywir trwy gyflwyno darlleniadau newydd i’ch cyflenwr. Dylai hynny ond cymryd ychydig funudau, ar-lein neu dros y ffôn.
Nid yw am y pris yn unig
Cyn newid, darganfyddwch ba wybodaeth a allwch am wasanaeth cwsmeriaid y cwmni.
Mae rhai gwefannau cymharu yn cynnwys cyfraddau gwasanaeth cwsmeriaid yn eu tablau cymharu.
Mae gan Which? a Chyngor ar Bopeth arolwg boddhad cwsmeriaid am beth mae cwsmeriaid wir yn ei feddwl. Mae’r rhain yn werth eu darllen – cyn eich bod yn penderfynu pwy byddwch yn eu dewis.
Deall sut fydd y cap prisiau ynni yn effeithio ar eich biliau
Ar ôl i’ch tariff sefydlog ddod i ben neu ar ôl i’ch cyflenwr fynd i’r wal, byddwch yn cael eich symud i dariff cyfradd amrywiol safonol, wedi’i ddiogelu gan gap pris ynni Ofgem. Darganfyddwch fwy am sut y gallai eich helpu yn ein canllaw sut i arbed arian ar filiau nwy a thrydan.
Defnyddio llai o ynni
Un ffordd o dorri eich biliau yw lleihau faint o nwy a thrydan yr ydych yn ddefnyddio, i gael awgrymiadau ar sut i dorri’n ôl, darllenwch ein canllaw ar sut i arbed arian ar filiau nwy a thrydan.
A allaf newid os wyf yn rhentu?
Gallwch newid o hyd. Os yw’ch enw ar y bil, gallwch newid biliau nwy a thrydan.
Nid oes rhaid i chi ofyn caniatâd gan eich landlord, ond mae’n syniad da i roi gwybod iddynt. Mae’n werth gwirio eich cytundeb tenantiaeth – a siarad â’ch landlord os oes unrhyw beth ynddo sy’n dweud na allwch newid.
Os yw'ch landlord yn talu am eich ynni, mae ganddynt yr hawl i ddewis y cyflenwr. Efallai y bydd gan rai cytundebau tenantiaeth gymalau ynghylch newid. Ond os ydych yn talu am eich ynni, dylech allu penderfynu gan bwy i gael nwy neu drydan.
Sut i gwyno am eich cyflenwr ynni
Os oes gennych gwyn, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni gyntaf. Bydd rhif ffôn a gwefan eich cyflenwr ar eich bil ynni.
Eglurwch beth yw’r broblem a be rydych eisiau eich cyflenwr wneud yn ei gylch. Gallwch ddefnyddio templed llythyr cwyn am ddim oddi ar wefan Cyngor ar Bopeth (Opens in a new window)
Bydd gan gyflenwyr ynni yna fyny at 8 wythnos i ddod i ddweud wrthych am eu penderfyniad ar y cwyn.
Os na allwch gyrraedd cytundeb â’ch cyflenwr ar ôl wyth wythnos, gallwch ofyn am “lythyr o sefyllfa diddatrys”, sydd yn caniatáu i chi fynd â’ch achos i’r Ombwdsmon Ynni am ddim.
Bydd yr Ombwdsmon Ynni yna yn penderfynu pa blaid y mae’n cytuno â hi a sut i ddatrys y mater.