Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Dod o hyd i gyfrifon banc, cynilion neu Fondiau Premiwm coll

Mae amcangyfrif o £568 miliwn yn sefyll heb ei hawlio mewn cyfrifon banc coll. Os ydych chi’n meddwl bod peth ohono’n perthyn i chi, peidiwch â’i wastraffu! Mae gwirio am gyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu coll, neu gynilion gyda Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I), yn dasg syml, ac am ddim. Hefyd gallwch wirio ar-lein am wobrau Bondiau Premiwm sydd heb eu hawlio.

Sut mae dod o hyd i gyfrifon coll

Os ydych chi’n ceisio dod o hyd i hen gyfrif banc, eich cam cyntaf yw siarad â’r banc neu gymdeithas adeiladu.

Os na all eich banc eich helpu chi, neu os na allwch chi gofio ym mha fanc neu gymdeithas adeiladu yr oedd y cyfrif, gweler yr adran ‘Defnyddio fy nghyfrif coll’.

Mae’n bwysig i chi beidio â thalu unrhyw un i chwilio am eich hen gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu NS&I. Yn lle, defnyddiwch y gwasanaeth am ddim ar wefan Fy Nghyfrif Coll

Beth yw cyfrif ‘coll’?

Mae cyfrif coll yn gyfrif y mae eich banc neu eich cymdeithas adeiladu wedi’i nodi yn un anweithredol, oherwydd:

  • nid oes unrhyw weithgarwch wedi bod - fel arfer am o leiaf tair blynedd.
  • nid ydynt wedi llwyddo i gysylltu â chi - fel arfer oherwydd newid cyfeiriad.

Os oes well gennych, gallwch wneud cais ar bapur.  Darganfyddwch fwy ar wefan Fy Nghyfrif Coll

Fe’i sefydlwyd gan Gymdeithas Bancwyr Prydain, Cymdeithas Cymdeithasau Adeiladu a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol(NS&I).

Y nod yw eich helpu chi i ddod o hyd i unrhyw gyfrifon coll gydag unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu yn y DU neu NS&I, yn ogystal â gyda rhai banciau tramor sydd â changhennau yn y DU.

Os yw eich cyfrif chi dramor, bydd rhaid i chi gysylltu â’r banc neu’r sefydliad cynilo sy’n dal y cyfrif.

Dim ond cyfrifon anweithredol nad ydynt wedi’u defnyddio am o leiaf tair blynedd y byddant yn eu canfod.

Pwy all ganfod fy nghyfrif coll ac a ddylwn ei hawlio?

Chi biau’r arian mewn cyfrif coll bob amser yn gyfreithiol, hyd yn oed os byddwch yn aros blynyddoedd lawer i’w hawlio.

Fel rheol byddwch yn defnyddio mylostaccount.org.uk i ddod o hyd i’ch cyfrif eich hun. Gall ysgutorion ewyllys ddefnyddio’r gwasanaeth hefyd.

Fe allech chi hefyd ddefnyddio mylostaccount.org.uk os:

  • nad ydych chi’n siŵr gyda pha fanc neu gymdeithas adeiladu y mae’ch cyfrif
  • os nad ydych yn sicr a yw cyfrif yn bodoli o gwbl

Beth i’w ddisgwyl

Pan fyddwch yn rhoi’ch manylion yn mylostaccount.org, mae’n eich helpu chi i ddod o hyd i unrhyw gyfrifon sy’n berchen i chi.

Mae tua hanner miliwn o gyfrifon coll yn y DU.  Felly gallai’r chwilio gymryd hyd at dri mis i’w gwblhau.

Os deuir ar draws cyfrif coll, bydd angen i chi brofi mai chi yw pwy yr ydych chi’n honni yr ydych chi, a bod gennych chi hawl gyfreithiol i’r arian.

Yna gellir ailagor eich cyfrif a gallwch adfer yr arian.

Byddwch hefyd yn derbyn unrhyw log sy’n ddyledus i chi - os oedd yn gyfrif creu llog.

Dod o hyd i Dystysgrifau Cynilion Ulster coll

Ydych chi wedi colli Tystysgrif Cynilion Ulster? Yna bydd rhaid i chi lenwi ffurflen a’i hanfon at Adran Cyllid a Phersonél Gogledd Iwerddon.

Gwirio am wobrau Bondiau Premiwm heb eu hawlio

Does dim cyfyngiad amser ar hawlio gwobr Bond Premiwm.  Felly os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi anghofio am un ewch i Wiriwr Gwobrau’r Bondiau Premiwm ar wefan NS&I.

Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw rhif deiliad Bond Premiwm.

Os ydych chi wedi colli’r rhif hwn, mae ffyrdd eraill y gallwch chi chwilio am eich gwobr.

Gwirio am bensiynau neu fuddsoddiadau coll

Nid dim ond Bondiau Premium a chyfrifon banc – gallai mathau eraill o asedau gael eu colli hefyd:

Pensiynau gweithle neu breifat

I ddarganfod manylion cyswllt ar gyfer pensiwn coll, defnyddiwch y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK

Ni fydd yn dweud wrthych werth eich pensiwn -  felly bydd dal angen i chi gysylltu ’r darparwr pensiwn.

Ymddiriedolaethau buddsoddiad

I gael help i ddod o hyd i ymddiriedolaethau buddsoddiad, ewch i wefan Fy Nghyfrif Coll

Ystadau heb eu hawlio

Mae’r llywodraeth yn cadw rhestr o bobl sy’n marw heb ewyllus.  Os ydych chi’n berthynas â hawl, efallai y gallwch wneud cais. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK

Beth i’w wneud os oes gennych chi gŵyn am y banc neu os ydych chi’n anghytuno â’i ymateb

Ydych chi’n anghytuno â sut y mae banc neu gymdeithas adeiladu wedi delio â’ch cyfrif coll? Yna gofynnwch am gopi o’u proses gwyno a gwnewch gŵyn ffurfiol.

Os nad ydych chi’n hapus â’u hymateb, gallwch ofyn am gymorth am ddim gan y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.