Gyda chymaint o wahanol gyfrifon banc ar gael y dyddiau hyn, mae’n werth gwirio i weld a allwch chi ddod o hyd i un gwell. Gallech arbed cannoedd o bunnoedd gyda chyfrif sy’n fwy addas i’ch anghenion.
Agor cyfrif banc
Dewis cyfrif banc
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa gyfrif banc hoffech ei agor.
Am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud pernderfyniad, darllenwch ein canllaw Sut mae dewis y cyfrif banc cywir.
Os oes gennych chi bartner, efallai yr hoffech chi ddarllen ein canllaw am Gyfrifon ar y cyd.
Sut i agor cyfrif banc
Pan fyddwch yn gwybod pa gyfrif banc rydych ei eisiau, mae’n amser siarad â’r banc.
Gallwch wneud hyn mewn cangen, dros y ffôn neu ar-lein.
Bydd y banc yn rhedeg gwiriad credyd i weld eich hanes credyd. Bydd hyn yn dweud wrthynt a ydych chi wedi cael problemau gydag ad-dalu arian yn y gorffennol. Os ydych, efallai na fyddwch yn gallu agor rhai mathau o gyfrif.
Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a thystiolaeth cyfeiriad.
Sut ydych chi’n profi ble yr ydych yn byw neu bwy ydych chi? Dyma rai o’r dogfennau y bydd banciau a chymdeithasau adeiladu yn gofyn amdanynt e:
- trwydded Yrru
- bil y Dreth Gyngor
- bil cyfleustodau fel nwy neu drydan
- cyfriflen gan fanc neu gymdeithas adeiladu
- cyfriflen cerdyn credyd
- llythyr neu gyfriflen dreth gan CThEM
- cyfriflen morgais
- cytundeb tenantiaeth
- cyfriflen budd-daliadau.
Bydd gwahanol fanciau yn gofyn am wahanol fathau o ID. Gallwch wirio ar-lein pa ID fydd ei angen arnoch, er mwyn i chi fod yn barod i agor eich cyfrif newydd.
Dyma restr o ba fathau o ID a phrawf cyfeiriad y mae pob banc yn gofyn amdanynt: Sut i brofi pwy ydych chi a’ch cyfeiriad
Cyfrifon banc sylfaenol heb ffioedd
Os yw banciau yn troi chi lawr am gyfrif safonol, gallwch wneud cais am gyfrif banc sylfaenol heb ffi.
Nid yw'r cyfrifon hyn yn codi ffi neu gynnig gorddrafftiau. Nid ydynt yn codi tâl arnoch os yw Debyd Uniongyrchol yn methu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi
Sut i newid cyfrifon banc
Erbyn hyn mae bron pob banc a chymdeithas adeiladu yn cynnig Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol saith-diwrnod am ddim.
Bydd y gwasanaeth yn:
- newid eich cyfrif cyfredol
- symud arian o’ch hen gyfrif cyfredol i’ch cyfrif newydd
- symud eich holl daliadau allan (er enghraifft eich Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog) a’r rhai sy’n dod i mewn (er enghraifft budd-daliadau neu gyflogau) i’ch cyfrif newydd
- cau eich hen gyfrif
- gwneud yn siŵr y bydd unrhyw daliadau a wneir yn ddamweiniol i’ch hen gyfrif yn cael eu hailgyfeirio fel mater o drefn i’ch cyfrif newydd.
Fe’i cefnogir gan warant sy’n golygu y cewch ad-daliad o unrhyw log a ffioedd ar eich cyfrifon hen a newydd os aiff pethau o chwith.
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am newid cyfrif banc ar wefan Current Account Switch
Sut i ddewis cyfrif cyfredol
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn chwilio am gyfrif cyfredol sy’n bodloni’ch anghenion.
Gallwch ddechrau trwy feddwl am rai pethau sylfaenol.
- Os oes gennych arian yn eich cyfrif yn aml, chwiliwch am gyfrif sy’n talu cyfradd llog hael er mwyn cynyddu’ch cynilion.
- Os ydych yn defnyddio’ch gorddrafft yn aml, chwiliwch am gyfrif gyda ffioedd gorddrafft is. Am awgrymiadau ar reoli eich gorddrafft, gweler ein canllaw Egluro gorddrafftiau.
Yna gallwch hefyd chwilio am nodweddion eraill mewn cyfrifon. Er enghraifft, a ydynt yn cynnig cyfrifon cynilo â llog uwch, arian yn ôl, neu fonws am newid cyfrif.
Dyma ychydig o wefannau sy'n cymharu cyfrifon cyfredol:
- MoneySavingExpert
- Which? - Gallwch ddefnyddio'r sgôr ansawdd i ddod o hyd i'r banciau sydd â'r sgôr cwsmer gorau.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd roi cynnig ar Consumer Council Comparison Tool
Cymharwch daliadau ar gyfer cyfrifon banc sylfaenol trwy ddefnyddio ein teclyn Cymharu Ffioedd a Thaliadau Cyfrif Banc. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i'r cyfrif iawn i chi. Er enghraifft, cymharwch ffioedd am ddefnyddio cerdyn dramor neu gostau am anfon neu dderbyn arian y tu allan i'r DU.
Newid cyfrifon banc os oes gennych orddrafft
Fel rhan o’r cais am newid, fel arfer dangosir i chi a fydd y banc newydd yn cynnig gorddrafft i chi. Os yw hyn yn cynnwys yr hyn sy’n ddyledus gennych, bydd yr arian yn cael ei anfon i’ch hen fanc a bydd gweddill y gorddrafft yn ddyledus gennych ar y cyfrif newydd yn lle hynny.
Os yw’n swm is, neu os na allwch gael un, bydd angen i chi drefnu i dalu’r gweddill ar wahân cyn y gallwch newid neu gau eich hen gyfrif.
I gael help i glirio gorddrafft, gweler canllaw MoneySavingExpert ar dorri costau gorddrafftYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i gau cyfrif banc
Gallwch gau y rhan fwyaf o gyfrifon banc fel y mynnwch heb wynebu ffi na dirwy.
Fel arfer y cwbl sydd ei angen yw cysylltu â’ch banc.
Fodd bynnag, os oes gennych chi orddrafft bydd yn rhaid i chi glirio’r swm sy’n ddyledus.
Os nad ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol i gau’ch cyfrif, gwnewch yn siŵr bod unrhyw Ddebydau Uniongyrchol neu daliadau eraill yn cael eu trosglwyddo i’ch cyfrif newydd.
Darganfyddwch fwy am y gwasanaeth newid ar wefan Current Account Switch
Os bydd eich banc yn penderfynu cau eich cyfrif
Os bydd eich banc yn penderfynu cau eich cyfrif cyfredol neu eich cyfrif cynilo dim rhybudd, byddwch fel arfer yn cael dau fis o hysbysiad.
Ar gyfer cyfrifon eraill, mae’n rhaid iddo roi ‘rhybudd rhesymol’, fel eich bod chi’n gallu gwneud trefniadau eraill.
Gall y banc oedi gyda’r cau os ydych chi wedi gwneud taliadau nad ydynt wedi cael eu tynnu o’ch cyfrif eto. Er enghraifft, siec neu daliad gyda cherdyn.
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Os ydych chi’n anfodlon am rywbeth mae eich banc wedi’i wneud, y peth cyntaf i’w wneud yw siarad gyda rhywun yn y banc amdano.