Cwynion am Pension Wise
Os oes gennych gŵyn am Pension Wise, llenwch ac anfonwch y ffurflen isod.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn wedi cael eich cwyn ac yn anelu at roi ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith.
Os na allwn wneud hyn (e.e., os oes angen mwy o amser arnom i ymchwilio i'ch cwyn) byddwn yn rhoi gwybod i chi'r rheswm dros yr oedi a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb.
Os oes angen i chi fynd â phethau ymhellach
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb i'ch cwyn, gallwch anfon e-bost atom yn [email protected] i fynd a’r gŵyn yn ei blaen. Gallwch hefyd ysgrifennu atom trwy'r post:
Money and Pensions Service
Holborn Centre
120 Holborn
London, EC1N 2TD
Er mwyn i ni allu darparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi, yr amser gorau i chi fynd a’ch cwyn yn ei blaen yw o fewn 28 diwrnod ar ôl yr ymateb cychwynnol. Fodd bynnag, byddwn yn defnyddio ein disgresiwn i ystyried cwynion ar ôl y cyfnod hwn.
Nodwch y rheswm dros eich bod yn anfodlon gyda'n hymateb cyntaf a chynnwys copïau o'ch cwyn wreiddiol a'n hymateb. Yna byddwn yn ymchwilio ac yn cysylltu â chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Cael mwy o help
Unwaith y byddwch wedi dilyn ein proses gwynion yn gyflawn, ac os ydych yn dal yn anfodlon ar ein hymateb terfynol i'ch cwyn, mae gennych yr hawl i gyfeirio'r mater at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO)
Gwnewch gŵyn yn y PHSO neu ffoniwch 0345 015 4033 (Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 8.30am - 5.30pm, dydd Gwener rhwng 8.30am a 12pm)
Lle bo hynny'n briodol, bydd y PHSO yn gofyn am yr holl waith papur sy'n ymwneud â'r gŵyn fel rhan o'ch adolygiad achos. Dylech gysylltu â nhw cyn pen 12 mis o'n hymateb terfynol
Gallwch hefyd ofyn i Aelod Seneddol (AS) atgyfeirio'ch cwyn i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd. Gallwch gael help gyda dod o hyd i’ch AS os nad ydych yn gwybod pwy ydynt.