Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Peryglon rhyddhau pensiwn

Cyhoeddwyd ar:

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:

Mae mwy na £45 biliwn wedi’i dynnu’n gyfreithlon o bensiynau ar ffurf cyfandaliadau a blwydd-daliadau arian parod ers cyflwyno rhyddid pensiwn yn 2015. Ond daw peryglon yn sgil y rhyddid hwn.

Mae rhai cwmnïau bellach yn targedu’r bobl dan 55 oed yn benodol, gan ddweud wrthynt eu bod yn gallu cael mynediad at eu cronfa ymddeoliad.

Er nad yw hyn o reidrwydd yn anghyfreithlon, mae’n daliad anawdurdodedig o’ch pensiwn (ar wahân i ddau eithriad penodol iawn) ac felly yn sicr dylid ei osgoi oherwydd byddwch yn y pen draw yn colli llawer o arian.

Pam fyddaf yn colli arian?

Mae dwy ffordd y byddwch yn colli arian drwy geisio cael mynediad at eich pensiwn cyn i chi droi’n 55 oed.

Yn gyntaf, bydd y cwmni sy’n datgloi eich pensiwn yn codi ffioedd. Gall hyn fod cymaint â 30% o’r swm rydych yn ei dynnu allan.

Bydd eich darparwr pensiwn wedyn yn dweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) eich bod wedi tynnu’r arian hwn yn ôl – mae’n ofynnol iddynt wneud hyn yn ôl y gyfraith. Yna cewch bil treth o 55% ar yr hyn y gwnaethoch ei dynnu'n ôl.

Mae hyn yn golygu y gallech golli hyd at 85% o’r hyn yr oeddech am ei dynnu allan!

Beth os nad oeddwn yn gwybod am y bil treth?

Nid oes ots, mae'n rhaid i chi dalu o hyd. Os cymeroch yr arian allan, hyd yn oed os nad oeddech yn gwybod am y bil treth, yn cynnig talu’r arian yn ôl i mewn i’ch pensiwn, neu wedi’i wario eisoes, bydd yn rhaid i chi dalu.

Beth i fod yn wyliadwrus ohono

Mae Deddf Cynllun Pensiynau 2021 yn golygu bod amddiffyniadau newydd bellach i helpu darparwr eich pensiwn i gadw eich trosglwyddiadau’n ddiogel rhag sgamiau posibl.

Os yw gwefan neu lyfryn marchnata yn hysbysebu y gallwch neu y dylech gael mynediad at eich pensiwn cyn 55 oed, mae'n annhebygol y byddant wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a bydd unrhyw gyngor neu arweiniad a roddant i chi heb ei reoleiddio. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu cwyno i reoleiddiwr os bydd unrhyw beth o’i le ac yn y rhan fwyaf o achosion i gael unrhyw iawndal am y golled ariannol.

Bydd y gwefannau fel arfer yn dweud nad ydynt wedi'u hawdurdodi yn y print mân ond weithiau maent yn cyfeirio at sefydliadau cyfreithlon fel Y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu atom ni - HelpwrArian - i wneud iddo edrych fel pe baent yn ymddwyn mewn ffordd reoledig .

Mae yna nifer o arwyddion eraill y dylech gadw llygad amdanynt:

  • Cael eich cysylltu yn ddirybudd dros y ffôn, trwy neges destun neu lythyr hyd yn oed.
  • Cwmnïau sy’n cynnig ‘benthyciad’, ‘blaenswm cynilo’ neu ‘arian yn ôl’ o’ch pensiwn.
  • Unrhyw gyfeiriad at ‘bylchau’, buddsoddiadau tramor neu dechnegau buddsoddi creadigol neu newydd.
  • Cwmnïau sy’n dweud y gallwch ‘werthu’ eich pensiwn
  • Ymgynghorwyr sy’n rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad cyflym. 

Hyd yn oed os ydych dros 55 oed gallwch gael eich twyllo o hyd. Peidiwch â chael eich dal allan.

A yw’n bosibl cael mynediad at fy mhensiwn cyn 55 oed?

Ydy, ond dim ond o dan ddau amgylchiad penodol iawn.

  1. Os ydych yn dioddef o salwch difrifol iawn ac yn dymuno ymddeol yn gynnar.
  2. Os oes gennych ‘ddyddiad ymddeol gwarchodedig’ a nodir yn eich cynllun pensiwn. Rhaid bod hwn wedi’i ganiatáu cyn 6 Ebrill 2006 ac fel arfer caiff ei gadw ar gyfer pobl na allent barhau yn eu proffesiwn tan oedran ymddeol arferol, megis chwaraeon proffesiynol.

O dan y ddwy sefyllfa hyn ni fyddai angen i chi ddefnyddio cwmni rhyddhau pensiwn gan y bydd darparwr eich pensiwn yn gallu trefnu popeth i chi.

Beth os ydw i dros 55 oed?

Os ydych yn 55 oed neu’n hŷn gallwch gael yr arian yn eich cronfa bensiwn, hyd yn oed os nad ydych wedi ymddeol.

Gallwch godi hyd at 25% o’ch cronfa bensiwn yn ddi-dreth, ond byddwch yn talu’r cyfraddau treth safonol ar godiadau dros y swm hwn.

Ble gallaf ddod o hyd i help?

Cyn i chi dynnu unrhyw arian o’ch cronfeydd pensiwn gallwch ofyn am help gan HelpwrArian.

Gallwch siarad â ni ar 0800 011 3797 am ddim, neu siarad ag ymgynghorydd ymddeol a reoleiddir, neu gyda’ch darparwr pensiwn. Ond siaradwch â rhywun y gallwch ymddiried ynddo i gael y ffeithiau cyn i chi wneud penderfyniad di-droi'n-ôl.

Gallwch ddod o hyd i ymgynghorwyr ariannol cofrestredig FCA sy’n arbenigo mewn cynllunio ar gyfer ymddeoliad.  

Tagiau
Sgamiau pensiwn Pensiynau Pob postiadau blog
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.