Os ydych chi’n Gwneud Un Peth... talwch i mewn i bensiwn
Last updated:
09 Tachwedd 2023
Os ydych chi’n mynd i Wneud Un Peth ar gyfer Wythnos Siarad Arian, fy mhrif awgrym yw i dalu i mewn i bensiwn. Hyd yn oed os byddwch yn dechrau gydag ychydig, os byddwch yn parhau i gyfrannu, gall yr holl daliadau hynny grynhoi i wneud gwahaniaeth mawr.
Gall dechrau’n ifanc dalu ar ei ganfed
Dechreuais fy mhensiwn yn 23 oed, a bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Mae fy lles ariannol wedi cael ei godi trwy wneud taliadau pensiwn rheolaidd, a chymryd yr arian am ddim ar ben rhyddhad treth a chyfraniadau cyflogwyr.
Mae pobl yn dweud mai bywyd yw’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gwneud cynlluniau eraill. Rwy’n credu bod ymddeoliad yn sleifio i fyny yn yr un modd. Un funud roeddwn i’n newydd i’r byd gwaith, ac roedd ymddeol mor bell i ffwrdd roedd yn ymddangos yn amherthnasol. Diolch byth i mi arwyddo ar y llinell doredig. Oherwydd nawr, ar ôl corwynt o swyddi, cartrefi, gŵr, cwpwl o blant a chi, rwyf rywsut wedi troi’n 50, ac wedi cadw digon o arian i mi allu dechrau gwneud cynlluniau ar gyfer ymddeol.
Meddyliwch y tu hwnt i Bensiwn y Wladwriaeth
Yn sicr, bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn help mawr. Fodd bynnag, dim ond pan fyddaf yn cyrraedd 67 oed y mae fy Mhensiwn y Wladwriaeth i fod i ddechrau, ac ar hyn o bryd dim ond £10,600 y flwyddyn y mae’n ei dalu. Fel newyddiadurwr ariannol, ceisiais fyw ar yr hyn sy’n cyfateb i Bensiwn y Wladwriaeth am wythnos, ac roedd yn anodd. Mae ei ychwanegu at fy nghynilion pensiwn fy hun yn golygu y gallaf edrych ymlaen at fodolaeth fwy cyfforddus. Efallai y byddaf hyd yn oed yn gallu dianc rhag y byd gwaith yn gynharach, gan y gallwch gael gafael ar arian pensiwn preifat o 55 oed (gan godi i 57 o 2028).
Meddyliwch am y bwlch pensiwn rhwng y rhywiau
Rhan o’r rheswm y dechreuais fy mhensiwn yn gynnar oedd oherwydd bod fy mam wedi cael darpariaeth pensiwn gwael iawn. Mae fy mam yn dod o genhedlaeth pan oedd sefydlu’r pensiwn yn seiliedig ar gyplau priod, lle roedd disgwyl i’r wraig elwa o bot pensiwn ei gŵr.
Felly talodd fy mam lai mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol - a elwir yn ‘stamp bach’ neu ‘stamp gwraig briod’ - oherwydd tybiwyd nad oedd menywod angen pensiynau mor fawr oherwydd eu bod yn gallu byw ar bensiwn eu gŵr. Prynodd fy mam allan ei phensiwn gwaith o’i gyrfa addysgu cyfyngedig cyn iddi gael plant ar y sail y byddai’n elwa o bensiwn sector cyhoeddus fy nhad.
Rhybudd Spoiler: Nid yw dibynnu ar bensiynau eich gŵr yn gweithio cystal os ydych chi’n ysgaru.
Hefyd, pan ddechreuodd fy chwaer a minnau yn yr ysgol, dechreuodd fy mam ei busnes ei hun. Doedd ganddi felly ddim cyflogwr i sefydlu pensiwn gweithle, na thalu i mewn ar ei rhan. Fel llawer o bobl hunangyflogedig, canolbwyntiodd ar redeg ei busnes ac ni lwyddodd erioed i sefydlu pensiwn.
Roedd cynilion pensiwn fy mam yn ychwanegu at domen gyfan o ddim llawer iawn, ac roeddwn i’n awyddus i osgoi bod yn yr un sefyllfa.
Meddyliwch am y buddion hirdymor
Felly, anogodd fy mam i fi (ac wrth annog, golyga swnian) i ddechrau pensiwn pan ddechreuais fy swydd go iawn gyntaf.
Y fantais fwyaf o ddechrau cyfraniadau pensiwn ifanc yw amser. Rydych chi’n wynebu sawl degawd cyn ymddeol. Dyna’r rheswm mae’r llywodraeth yn fodlon cynnig rhyddhad treth i ni gynilo tuag at ymddeol - oherwydd mae’n rhaid i ni gloi ein harian i ffwrdd am gyhyd.
Mae amser fel tanwydd ar gyfer eich cynilion ymddeol, diolch i adlog. Pan fyddwch yn talu i mewn i bensiwn, bydd eich cyfraniad, ynghyd ag unrhyw ryddhad treth ac arian gan eich cyflogwr, yn cael ei fuddsoddi yn y farchnad stoc. Bob blwyddyn, gobeithio y bydd yn ennill llog a difidendau ar ei ben. Gan ei fod o fewn pensiwn, mae unrhyw enillion yn ddi-dreth.
Yna, caiff ei ailadrodd flwyddyn ar ôl blwyddyn – mwy o gyfraniadau, mwy o enillion a mwy o enillion ar y cyfraniadau a’r enillion rydych chi eisoes wedi’u cronni.
Gallai unrhyw dwf ddechrau’n araf iawn. Ond dros y blynyddoedd, mae adlog yn rhoi hwb enfawr, gan gynyddu eich pot pensiwn. Bydd marchnadoedd stoc yn codi ac yn gostwng, felly efallai na fydd y twf yn gyrch llyfn, ond mae marchnadoedd yn tueddu i fynd i fyny dros yr hirdymor.
Peidiwch â thanamcangyfrif grym adlog
Po gynharaf y byddwch chi’n dechrau cyfrannu’r gorau, gan y gall hyd yn oed symiau bach wneud gwahaniaeth mawr pan fydd yn cael hwb gan amser.
Dywedwch fy mod wedi dechrau cynilo £50 y mis, gan gynnwys unrhyw ychwanegiad treth a chyfraniadau cyflogwr, ers oeddwn i’n 20 oed, a’i gadw i fyny am y 40 mlynedd nesaf. Gan dybio twf o 5%, byddwn yn y pen draw gyda phot pensiwn bach o ychydig dros £74,000 erbyn fy mod yn 60 oed.
Yna dywedwch fy mod wedi aros tan oeddwn yn 40 oed i dalu i mewn i bensiwn, ond wedi dyblu fy nghyfraniadau i £100 y mis. Erbyn i mi gyrraedd 60 oed, byddwn i wedi talu’r un swm yn union. Ond ar yr un twf o 5%, dim ond ychydig dros £40,500 fyddai fy nghynilion pensiwn.
Yn ymarferol, os byddwch yn cynyddu eich taliadau pensiwn gydag unrhyw godiadau cyflog, gallwch gadw symiau hyd yn oed yn fwy erbyn ymddeol. Dwi hefyd wedi cael adegau pan oeddwn i’n ennill y nesa peth i ddim, pan oeddwn rhwng swyddi, ar gyfnod mamolaeth a thra bod fy mhlant yn ifanc iawn. Ond roeddwn yn parhau i geisio talu ychydig i mewn i’m pensiwn. Gall hyd yn oed pobl nad ydynt yn drethdalwyr roi hyd at £2,880 y flwyddyn i mewn i bensiwn, a chael hyd at £3,600 ychwanegol trwy’r gostyngiad treth.
Gall optio allan gostio’n ddrud yn yr hirdymor
Pan fydd amseroedd caled, efallai y byddwch yn teimlo’n chwithig wrth i’r taliadau pensiwn gael eu cymryd oddi ar eich slip cyflog trwy gofrestru awtomatig, pan fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru ar bensiwn gweithle yn awtomatig heb i chi orfod gofyn am fod yn rhan ohono. Pan fyddwch rhwng dwy stôl, gall pwysau costau byw hyd yn oed eich gorfodi i roi’r gorau i wneud cyfraniadau pensiwn. Rwy’n deall. Gall trio cael digon o arian at ei gilydd i dalu biliau heddiw fod yn llawer pwysicach na’r dyfodol pell. Ond os gallwch drin unrhyw oedi fel dewis olaf dros dro, ac ailgychwyn taliadau pensiwn cyn gynted â phosibl, bydd gennych lawer mwy o siawns o dalu eich biliau ar ôl ymddeol.
Felly, os ydych chi’n Gwneud Un Peth i wella eich lles ariannol, rwy’n curo’r drwm i annog pawb i roi ychydig o arian mewn pensiwn. Fel hynny, un diwrnod gallwch roi’r gorau i’r gwaith a dal i fforddio ymddeoliad i edrych ymlaen ato.