Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut i beidio â thalu treth ar eich car am oes

Cyhoeddwyd ar:

Gall moduro fod yn rhad ar hyn o bryd, ond gall unrhyw gynilo ychwanegol a wnewch helpu. Ai’r ateb yw faint o dreth fyddwch chi'n ei dalu?

Mae Treth Cerbydau (VED), a elwir yn aml yn dreth ffordd neu dreth car, yn seiliedig ar ba mor ecogyfeillgar yw cerbyd. Mae talu llai o dreth yn un ffordd o leihau cost eich car nesaf, ac nid oes rhaid i chi brynu car trydan neu disel i'w wneud. 

Gallwch beidio â thalu treth ar eich car am oes

Mae 13 band treth gyda chostau'n amrywio o £0 am gar newydd sbon i  £1,090 i fand M. Diolch byth bod cyfraddau yn gostwng yn eu hail flwyddyn i fandiau H i M. Os ydych chi yn cael car ym mand A ni fyddwch chi'n talu treth yn y flwyddyn gyntaf, ac mae hyn yn parhau am oes y car. Er bod y ceir yn y band hwn yn tueddu i fod yn llai, mae ceir poblogaidd gydag enwau mawr yn y grŵp hwn fel y Ford Fiesta. Os ydych chi eisiau car mwy yn ddi-dreth, fe allech chi ystyried - injan diesel.

Gall costau blwyddyn gyntaf treth car fod yn isel hefyd

Mae yna ychydig o fandiau eraill sy'n ddi-dreth yn y flwyddyn gyntaf, felly hyd yn oed os nad band A yw eich car, gallwch chi wneud arbediad o hyd.

Hefyd nid oes angen i chi dalu'r dreth yn y flwyddyn gyntaf ar unrhyw geir ym mand B, C a D. Fodd bynnag, yn - wahanol i fand A, bydd cyfradd y VED fyddwch chi'n ei dalu yn y blynyddoedd dilynol yn codi i gyfradd safonol, er eu bod yn dal i fod yn isel o'i gymharu â'r bandiau uchaf. Mae bandiau B, C a D yn mynd hyd at £20,  £30 a £110 y flwyddyn yn y drefn honno.

Rydych yn talu treth car ar fandiau E, F a G o'r dechrau, ac mae'r cyfraddau yr un fath â'r flwyddyn gyntaf.

Mae'r swm rydych chi'n ei dalu bob blwyddyn ar y bandiau uwch mewn gwirionedd yn gostwng i gyfradd is o'r ail flwyddyn ymlaen. Mae'n werth cofio hynny os ydych chi'n prynu ail law.

Pris car newydd yn erbyn cynilion treth dilynol

Gallai prynu car di-dreth arbed llawer o arian, ond gallai gostio mwy i chi yn gyffredinol yn y pen draw.

Weithiau mae'n wir bod ceir sydd â'r injans mwy economaidd yn ddrytach na modelau o'r un car ond gydag injan wahanol. Pe bai'r car llai costus ym mand B a'ch bod yn ei gadw am bum mlynedd, dim ond hyd at £80 y byddai'r dreth. Hyd yn oed os oes arbedion eraill i'w gwneud o gael car mwy economaidd, fel defnyddio llai o betrol, efallai na fydd yr arbedion hynny yn gorbwyso cost car drutach.

Talu‘r flwyddyn gyfan ymlaen llaw

Os oes gennych gar ym mand D i fyny, mae gennych yr opsiwn i dalu'ch treth bob blwyddyn, bob chwe mis neu bob mis. Y ffordd rataf yw talu am y flwyddyn gyfan ymlaen llaw.

Gallwch hefyd dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Heblaw am y taliad blynyddol sengl, gallwch arbed ychydig o arian ychwanegol fel hyn, er y dull rhataf yw talu ymlaen llaw am y flwyddyn gyfan o hyd. Gallwch hefyd arbed deg punt ychwanegol i chi'ch hun trwy gael car sy'n rhedeg ar danwydd amgen.

Tagiau
Ceir Pob postiadau blog Cyllid car
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.