Mae'r cynnydd dros dro i’ch taliad Credyd Cynhwysol oherwydd coronafeirws (COVID-19) wedi dod i ben. Os ydych yn poeni am sut y byddwch yn rheoli cyllideb eich cartref heb y gefnogaeth ychwanegol, nid ydych ar eich pen eich hun. Ond mae help, gan gynnwys cyngor ar ddyledion am ddim, ar gael.
Rwyf angen help i reoli cyllideb fy nghartref nawr bod fy nhaliad coronafeirws ychwanegol wedi dod i ben
Os ydych yn poeni sut mae'r gostyngiad hwn mewn incwm wedi effeithio ar gyllideb eich cartref, bydd ein teclyn am ddim Rheolwr Arian ar gyfer Credyd Cynhwysol yn eich helpu i greu cynllun sydd wedi ei bersonoli i addasu i'r newidiadau.
Mae'n cynnwys taliadau rhent neu forgais, rheoli biliau cartref a ble i ddod o hyd i gymorth a hawliadau ychwanegol os ydych ar Gredyd Cynhwysol.
Addasu eich cyllideb – ble i ddechrau
P'un a oes angen i chi edrych eto ar gyllideb bresennol eich cartref, neu a fyddai'n well gennych greu un newydd o'r dechrau, mae'r Cynlluniwr Cyllideb am ddim HelpwrArian yn ei gwneud yn hawdd i chi.
Y cyfan mae rhaid i chi ei wneud yw nodi faint rydych yn ei wario a faint sydd gennych yn dod i mewn a bydd y gyfrifiannell yn rhoi dadansoddiad o'ch cyllid ac awgrymiadau personol i chi i'ch helpu i wneud y gorau o'ch arian.
Darllenwch Canllaw syml i reoli eich arian neu ewch ati yn syth a defnyddio ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim
Edrychwch am fudd-daliadau eraill y gallech fod â hawl iddynt
Efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau a hawliadau ychwanegol. I amcangyfrif eich holl hawliau, gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell budd-daliadau ar wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa fudd-daliadau allwch hawlio a sut allwch gynyddu eich incwm
Mae llawer o elusennau, sefydliadau proffesiynol, ffydd a lleol yn cynnig grantiau i bobl sy'n gysylltiedig â hwy mewn rhyw ffordd. Fel arfer nid oes rhaid i chi dalu'r arian yn ôl.
I ddarganfod os gallwch wneud cais, defnyddiwch y teclyn ‘Search for grants’ ar wefan Turn2us
Rwy’n poeni am broblemau ariannol neu ddyled nawr bod fy nhaliad coronafeirws ychwanegol i ben
Os yw'r gostyngiad hwn i'ch taliadau Credyd Cynhwysol wedi eich rhoi mewn problemau ariannol neu wedi'i wneud yn anodd talu dyledion, gallwch siarad â rhywun heddiw, ar-lein neu dros y ffôn. Gall ein cynghorwyr hyfforddedig eich helpu i ddechrau datrys eich problemau ariannol.
Mae rhai biliau yn bwysicach nag eraill, fel eich rhent, morgais neu daliadau treth gyngor.
Darllenwch ein canllaw i ddeall sut i flaenoriaethu’ch dyledion. Gallwch hefyd gysylltu â'r sefydliadau hyn i gael cymorth am ddim â dyled a chyllidebu:
- Cyngor Ar Bopeth – 0808 800 9060
- Citizens Advice Scotland – 0800 028 1456
- StepChange – 0800 138 1111
- National Debtline – 0808 808 4000
- Christians Against Poverty – 0800 328 0006