Dywedwch wrth eich landlord eich bod chi’n hawlio Credyd Cynhwysol
Peidiwch â dibynnu ar y ganolfan Credyd Cynhwysol na'ch anogwr gwaith i ddweud wrth eich landlord eich bod yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Cysylltwch â'ch landlord i wirio ei fod yn gwybod.
Os ydych chi'n byw mewn tai cymdeithasol efallai y bydd help ar gael gan swyddogion cymorth tenantiaeth neu swyddogion incwm i reoli'r symud i Gredyd Cynhwysol.
Gallant eich helpu i weithio allan y ffordd orau i dalu'ch rhent mewn pryd.
Siaradwch â'ch swyddog cymorth tenantiaeth neu swyddog incwm os oes angen help arnoch i reoli'ch rhent.
Os ydych chi’n cael Budd-dal Tai nawr
Bydd eich Budd-dal Tai yn dod i ben yn y pen draw pan fyddwch chi'n hawlio Credyd Cynhwysol. Fodd bynnag, bydd yn parhau i gael ei dalu am bythefnos ar ôl i chi hawlio Credyd Cynhwysol ond cyn i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Ni fydd y pythefnos ychwanegol o Fudd-dal Tai yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch, a bydd yn cael ei dalu'n awtomatig: does dim rhaid i chi gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau na'ch cyngor i'w gael.
Fel arfer, telir y pythefnos o Fudd-dal Tai ychwanegol i'ch landlord ond os ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod wedi newid cyfeiriad, bydd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi.
Dylech barhau i wirio gyda'ch cyngor lleol eu bod yn gwybod eich bod bellach yn hawlio Credyd Cynhwysol a bod eich cais Budd-dal Tai yn dod i ben.
Os na fyddwch yn gwirio, gall eich Budd-dal Tai barhau ac mae perygl i chi gael eich gordalu.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i sicrhau eu bod yn gwybod am eich cais Credyd Cynhwysol.
Newid eich dyddiad rhent
Pan fyddwch chi'n gwybod y dyddiad y bydd eich Credyd Cynhwysol yn mynd i'ch cyfrif banc, efallai y gallwch chi newid eich dyddiad rhent fel y gallwch ei dalu ychydig ar ôl i chi gael eich talu.
Mae rhai landlordiaid cymdeithasol yn cynnig trefniadau rhent ‘Unrhyw ddyddiad’, sy’n gwneud newid yn haws.
Os na allwch newid eich dyddiad rhent
Gallech sefydlu cyfrif banc ar wahân y gallwch dalu eich arian rhent iddo pan gewch eich taliad Credyd Cynhwysol neu'ch cyflog bob mis.
Bydd hyn yn diogelu eich arian rhent. Yna gallwch chi sefydlu Debyd Uniongyrchol neu reol sefydlog i sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu mewn pryd i'ch landlord.
Cysylltwch â’ch swyddog cymorth tenantiaeth neu swyddog incwm a gofynnwch a ydyn nhw’n cynnig trefniant rhent ‘Unrhyw Ddyddiad’ os ydych chi am newid eich dyddiad rhent.
Dogfennau y bydd eu hangen arnoch pan siaradwch â’ch landlord
- cytundeb tenantiaeth
- datganiad rhent
- cadarnhad o unrhyw wythnosau di-rent