Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan yn: https://adviser.moneyhelper.org.uk/cy.html.
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- mynd i’r wefan ar ddyfeisiau llai.
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid oes gan y meysydd Enw Defnyddiwr a Chyfrinair enw hygyrch.
- Gellir defnyddio’r ddolen e-bost gyswllt gyda llygoden ond nid gyda bysellfwrdd.
- Mae cynnwys neu swyddogaeth wedi’i guddio, ei dorri i ffwrdd ac, mae angen sgrolio llorweddol a fertigol ar feintiau porth bach.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Gweithdrefn orfodi
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We version 2.2Yn agor mewn ffenestr newydd, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod:
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol;
Diffyg cydymffurfio â WCAG 2.2 AA
- Nid oes gan y meysydd Enw Defnyddiwr a Chyfrinair enw hygyrch. Nid yw’r cyflwr analluogi blwch gwirio galw yn ôl ar unwaith wedi’i ddiffinio. Maen prawf WCAG: 4.1.2 Enw Gwerth Rôl (Lefel: A).
- Gellir defnyddio’r ddolen e-bost gyswllt gyda llygoden ond nid gyda bysellfwrdd. Maen prawf WCAG: 2.1.1 Allweddell (Lefel: A).
- Mae cynnwys neu swyddogaeth wedi’i guddio, ei dorri i ffwrdd ac, mae angen sgrolio llorweddol a fertigol ar feintiau porth bach. Maen prawf WCAG: 1.4.10 Ail-lifo (Lefel: AA).
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gweithio i wella cynnwys sy’n methu â chyrraedd safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We safon AA 2.2. Rydym hefyd yn cynnal profion defnyddioldeb rheolaidd gyda chyfranogwyr ag anableddau, ac yn comisiynu archwiliadau hygyrchedd trydydd parti o nodweddion newydd neu newidiadau sylweddol i werthuso hygyrchedd ein safle.
Byddwn yn adolygu’r datganiad hygyrchedd hwn i adlewyrchu’r gwelliannau a wnaed ac unrhyw faterion newydd erbyn 30 Medi 2025 fan bellaf.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 1 Hydref 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Mawrth 2024. Cynhaliwyd y prawf gan Nomensa Ltd.
Defnyddiodd y profion gyfuniad o offer gwerthuso hygyrchedd, archwiliad gweledol o god a phrofi gyda thechnoleg gynorthwyol i werthuso is-set gynrychioliadol o 16 sampl prawf ar draws 15 tudalen.
Asesodd y profion y tudalennau canlynol:
- Tudalen hafan: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en.html
- Cwestiynau a ofynnir yn aml: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/faqs-independent-confidential-impartial-money-advice
- Dechrau cyngor ar ddyledion: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/nation
- Lleolwr cyngor ar ddyledion: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/outside-england.html
- Eich cyflogaeth: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/employment.html
- Hunangyflogedig: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/self-employed.html
- Eich manylion cyswllt: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/contact-details.html
- Eich cwestiynau diogelwch: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/security.html
- Eich caniatâd: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/consent.html
- Eich sianel: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/channel-selection.html
- Cadarnhad ar-lein: https://adviser.moneyhelper.org.uk/en/confirmation-online.html
- Fy nghyfrif mewngofnodi: https://man.moneyhelper.org.uk/
- Atgyfeirio at gyngor dyled: https://man.moneyhelper.org.uk/en/saml_login/start.html
- Ffurflen atgyfeirio credydwr: https://man.moneyhelper.org.uk/en/saml_login/start/creditor-referral.html
- Canlyniad cyflwyno ffurflen atgyfeirio credydwr: https://man.moneyhelper.org.uk/en/saml_login/referral-success.html